91精品黑料吃瓜

Fy ngwlad:
Picture of Main Arts building and Pontio 91精品黑料吃瓜

Ymchwilwyr o Brifysgol Bangor wedi'u rhestru ymhlith yr 1% uchaf yn y byd

Mae pump o ymchwilwyr blaenllaw ym Mhrifysgol Bangor wedi'u rhestru ymhlith yr ymchwilwyr y cydnabyddir eu gwaith amlaf, gan eu gosod ymhlith yr 1% uchaf o ymchwilwyr ledled y byd, yn 么l .

  • Davey Jones, Athro Gwyddorau鈥檙 Amgylchedd ac Iechyd y Cyhoedd
  • Jane Noyes, Athro mewn Ymchwil Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd Plant
  • Dr Iestyn Woolway, Cymrawd Ymchwil Annibynnol y Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) yn Ysgol Gwyddorau'r Eigion
  • Mark A Bellis, Athro er Anrhydedd mewn Iechyd Cyhoeddus yn y Coleg Meddygaeth ac Iechyd, ac sydd hefyd yn gysylltiedig 芒 Phrifysgol John Moores, Lerpwl
  • Karen Hughes, Athro er Anrhydedd mewn Iechyd y Cyhoedd yn y Coleg Meddygaeth ac Iechyd, ac sydd hefyd yn gysylltiedig ag Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae pump o ymchwilwyr blaenllaw ym Mhrifysgol Bangor wedi'u rhestru ymhlith yr ymchwilwyr y cydnabyddir eu gwaith amlaf, gan eu gosod ymhlith yr 1% uchaf o ymchwilwyr ledled y byd, yn 么l .

Mae pob un o'r ymchwilwyr wedi cael dylanwad sylweddol ac eang yn eu priod faes neu feysydd ymchwil o fesur hynny yn 么l pa mor weledol yw eu hymchwil. Mae Clarivate yn defnyddio dull sy鈥檔 seiliedig ar sawl gwaith y caiff gwaith ymchwilydd ei gydnabod gan gymheiriaid. Mae metrigau o鈥檙 fath sy'n seiliedig ar gydnabyddiaeth yn un ffordd o wybod pa mor weledol a dylanwadol yw allbynnau ymchwil rhywun. Mae dulliau a mynegeion eraill sy鈥檔 ddigon gwerthfawr ar gael hefyd.  

鈥淢ae cydnabyddiaethau鈥檔 adlewyrchu sut mae ymchwil yn adeiladu ar yr hyn sydd eisoes yn hysbys,鈥 eglurodd yr Athro Paul Spencer, sy鈥檔 Ddirprwy Is-ganghellor dros Ymchwil ym Mhrifysgol Bangor. 

鈥淢ae cael pum ymchwilydd wedi鈥檜 cynnwys mewn rhestr mor fawreddog a dylanwadol 芒 hon yn gamp aruthrol ac yn tystio i鈥檙 effaith y mae ymchwil Prifysgol Bangor yn ei gael, yn nhermau cydnabyddiaeth a gwelededd, yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang. Rydym ar ben ein digon o gael y fath glod i鈥檔 hymchwil gan ei fod yn cadarnhau yr enw da sydd gennym am ragoriaeth.鈥

Dywedodd David Pendlebury, sef Pennaeth Dadansoddi Ymchwil yn y Sefydliad Gwybodaeth Wyddonol yn Clarivate, 鈥湶巡贡疴檙 rhestr o ymchwilwyr y cydnabyddir eu gwaith amlaf yn nodi ac yn dathlu ymchwilwyr unigol eithriadol ym Mhrifysgol Bangor sy鈥檔 dangos dylanwad sylweddol ac eang yn eu meysydd. Maent yn dangos rhagoriaeth yn eu hymchwil yn ogystal ag uniondeb o ran eu harferion cyhoeddi a chydnabod. Mae'r ymchwilwyr hyn yn parhau i lunio dyfodol gwyddoniaeth, technoleg ac academia yn fyd-eang ac yn darparu arloesedd sy'n sbarduno cynnydd cymdeithasol."

Mae ymddangos ar restr Clarivate o鈥檙 Ymchwilwyr y Cydnabyddir eu Gwaith Amlaf yn adlewyrchu ymroddiad y t卯m technegol, y myfyrwyr PhD a鈥檙 ymchwilwyr 么l-ddoethurol, ynghyd 芒鈥檓 cydweithwyr academaidd sydd wedi gweithio gyda mi i gynhyrchu amrywiaeth eang o allbynnau ymchwil o ansawdd uchel sy鈥檔 cael effaith yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Llwyddiant yw hwn i鈥檙 t卯m cyfan. 

Yr Athro Davey Jones,  Athro Gwyddorau鈥檙 Amgylchedd ac Iechyd y Cyhoedd

Mae ymchwil Yr Athro Davey Jones yn canolbwyntio ar gydbwyso gwasanaethau ecosystemau ac amddiffyn iechyd dynol. I'r perwyl hwn, mae'n cydweithio 芒 diwydiannau megis Verily Life Sciences i ddarparu datrysiadau newydd i broblemau amgylcheddol ac iechyd cyhoeddus. Datblygodd y rhaglen genedlaethol o wyliadwriaeth sy鈥檔 seiliedig ar dd诺r gwastraff ar gyfer COVID-19, a chafodd ei haddasu a'i chyflwyno i ystod eang o bathogenau dynol eraill mewn lleoliad cymunedol ac amgylcheddol. Yn ddiweddar, aeth y t卯m ati i ymgymryd 芒鈥檙 asesiad cenedlaethol cyntaf o ymwrthedd gwrthficrobaidd yn afonydd Cymru a Lloegr. Mewn cyd-destun amaethyddol, mae'r t卯m yn edrych ar ffyrdd newydd o wrthbwyso allyriadau nwyon t欧 gwydr, ar ddatblygu systemau amaethyddol mwy cynaliadwy ac ar effaith plastigion ar yr amgylchedd.

Rydw i wedi gwirioni bod fy ymchwil yn parhau i gael ei gydnabod yn aml ac yn parhau i gael llawer o ddylanwad. Mae cyrraedd brig y rhestr hon yn tystio i鈥檙 ymchwil cymhwysol gwych yr ydym yn ei wneud yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd i wasanaethau iechyd a nyrsio. Rydw i鈥檔 ddiolchgar iawn i Brifysgol Bangor ac i鈥檙 Ysgol Gwyddorau Iechyd am eu cefnogaeth barhaus i鈥檓 hymchwil, ac rydw i鈥檔 ddiolchgar i鈥檓 t卯m am gyflawni projectau ymchwil o ansawdd mor uchel.

Yr Athro Jane Noyes,  Athro mewn Ymchwil Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd Plant

惭补别鈥檙 Athro Jane Noyes yn Nyrs Gofrestredig ac yn Nyrs Plant Gofrestredig, ac o鈥檙 herwydd yn un o nifer fach iawn o Nyrsys yn y Deyrnas Unedig i gael Cymrodoriaeth gan yr American Academy of Nursing. Mae Jane wedi datblygu enw da鈥檔 fyd-eang ym maes iechyd plant ac ymchwil iechyd. Mae'n fwyaf adnabyddus fel arweinydd hirsefydlog gr诺p Cochrane o fethodolegwyr o fri rhyngwladol sydd wedi gwneud gwaith arloesol i ddatblygu ac egluro'r dulliau o syntheseiddio tystiolaeth ansoddol a dull cymysg i lywio'r broses o wneud penderfyniadau clinigol. Mae Cochrane yn arweinydd byd-eang ar gynhyrchu adolygiadau o dystiolaeth ddibynadwy gan ddefnyddio dulliau trylwyr i lywio'r broses o wneud penderfyniadau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Yn aml mae sefydliadau byd-eang megis Sefydliad Iechyd y Byd a gwahanol asiantaethau Llywodraeth yr Unol Daleithiau yn galw ar Jane i gynghori ar ddulliau synthesis tystiolaeth a'u cymhwyso yn y broses o wneud penderfyniadau.

Mae鈥檔 anrhydedd fy mod i wedi fy nghynnwys ar restr 2025 Clarivate o鈥檙 Ymchwilwyr y Cydnabyddir eu Gwaith Amlaf. Mae'r gydnabyddiaeth yma gan Clarivate yn adlewyrchu ansawdd ac effaith yr ymchwil dan ni鈥檔 ei wneud yma ym Mhrifysgol Bangor. Dwi'n ddiolchgar iawn i fy nghydweithwyr a fy nghydweithredwyr am eu hymroddiad a'u mewnwelediad, ac i'r Brifysgol am ei chefnogaeth barhaus yn galluogi ymchwil sydd gyda鈥檙 gorau yn y byd.

Dr Iestyn Woolway,  Cymrawd Ymchwil Annibynnol y Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) yn Ysgol Gwyddorau'r Eigion

Mae Dr Iestyn Woolway, sy鈥檔 Gymrawd Ymchwil Annibynnol i Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) yn Ysgol Gwyddorau'r Eigion, yn arbenigo mewn asesu effeithiau newid hinsawdd, ac mae llawer o'i waith yn canolbwyntio ar newid amgylcheddol byd-eang. Mae ei ymchwil yn darparu mewnwelediad i sut mae newid hinsawdd yn effeithio ar ecosystemau, gan gynnig mapiau ffyrdd i reolwyr adnoddau sydd 芒'r dasg o ystyried bregusrwydd ecosystemau fel rhan o benderfyniadau rheoli a chadwraeth. Mae鈥檔 ddyddiau cynnar iddo o hyd yn ei yrfa annibynnol ac mae wedi cyhoeddi dros 140 o erthyglau a adolygwyd gan gymheiriaid, gan gynnwys bod yn awdur cyntaf ar bapurau yng nghyfnodolion Nature, ac mae wedi traddodi prif anerchiadau mewn cynadleddau rhyngwladol mawr, gan gynnwys cynhadledd Cymdeithas Ecoleg Prydain a chynhadledd Cymdeithas Gwyddorau Limnoleg ac Eigioneg (ASLO). Mae wedi cael nifer o wobrau, gan gynnwys Gwobr Philip Leverhulme gan Ymddiriedolaeth Leverhulme, Gwobr Goffa Gill gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (gydag IBG), Gwobr Rhagoriaeth EO Asiantaeth Ofod Ewrop, Medal STEMM Dillwyn gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru, a Gwobr Yentsch-Schindler gan ASLO. Yn ddiweddar cafodd ei enwi hefyd ar Restr P诺er ENDS 2025, sy'n cydnabod 100 o weithwyr proffesiynol amgylcheddol yn y Deyrnas Unedig sydd wedi gwneud yr effaith fwyaf yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae鈥檔 fraint bod wedi fy nghynnwys eto yn rhestr o Ymchwilwyr y Cydnabyddir eu Gwaith Amlaf. Yr hyn sy鈥檔 gwneud ein hymchwil ni yn bosibl yw ymroddiad partneriaid ar draws y byd academaidd, mewn gwasanaethau cyhoeddus, a sefydliadau byd-eang gan gynnwys Sefydliad Iechyd y Byd. Mae'r llwyddiant hwn yn amlygu pa mor bwysig yw cydweithio amlsector wrth sbarduno ymchwil sy'n llywio polisi ac yn gwella bywydau ledled y byd.

Yr Athro Mark Bellis,  Athro er Anrhydedd mewn Iechyd Cyhoeddus yn y Coleg Meddygaeth ac Iechyd, (ac sydd hefyd yn gysylltiedig 芒 Phrifysgol John Moores, Lerpwl)

惭补别鈥檙 Athro Mark Bellis yn Athro er Anrhydedd mewn Iechyd Cyhoeddus ym Mhrifysgol Bangor ac yn Gyfarwyddwr Ymchwil Iechyd, Technoleg a Gwyddoniaeth ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl lle mae hefyd yn arwain y Sefydliad Iechyd Cyhoeddus. Mae Mark wedi sefydlu ac arwain dwy o Ganolfannau Cydweithredu Sefydliad Iechyd y Byd - un yn canolbwyntio ar Atal Trais a'r llall yn canolbwyntio ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant. Ers dros ddegawd, mae hefyd wedi gwasanaethu fel Prif Gyswllt Sefydliad Iechyd y Byd yn y Deyrnas Unedig mewn perthynas ag atal trais ac anafiadau. Mae'n parhau i ymgymryd ag ymchwil cenedlaethol a rhyngwladol mewn meysydd gan gynnwys Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, alcohol, cyffuriau, iechyd rhywiol a phenderfynyddion masnachol iechyd. Mae Mark yn Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus cofrestredig i'r GIG yng Nghymru ac i Awdurdod Lleol Lerpwl yn Lloegr.  Yn 2009 cafodd OBE am ei wasanaeth i ofal iechyd.  

Mae鈥檔 anrhydedd cael fy nghynnwys eto eleni ar restr Clarivate o鈥檙 Ymchwilwyr y Cydnabyddir eu Gwaith Amlaf. Mae cael fy nghynnwys ar y rhestr yn dangos sut mae ein hymchwil gydweithredol yn dylanwadu ar wybodaeth yn fyd-eang, ac yn llywio polisi ac ymarfer ledled Cymru. Rydym yn elwa o weithio mewn amgylchedd prifysgol sy'n cefnogi ac yn annog ymchwil a gwaith partneriaethol a hynny mewn gwlad fechan ond hynod flaengar.

Yr Athro Karen Hughes,  Athro er Anrhydedd mewn Iechyd y Cyhoedd yn y Coleg Meddygaeth ac Iechyd, ac sydd hefyd yn gysylltiedig ag Iechyd Cyhoeddus Cymru

惭补别鈥檙 Athro Karen Hughes yn Rheolwr Ymchwil a Datblygu Capasiti ym maes Polisi ac Iechyd Rhyngwladol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn Athro er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor. Hi sydd yn cyfarwyddo gwaith Uned Cydweithredu Iechyd Cyhoeddus ym Mhrifysgol Bangor, sef cydweithrediad ymchwil gymhwysol rhwng Prifysgol Bangor ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae gan Karen bortffolio ymchwil eang ym maes iechyd cyhoeddus gyda diddordeb arbennig mewn atal trais a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Mae ei gwaith yn cynnwys gweithredu astudiaethau poblogaeth cenedlaethol, astudiaethau ymchwil gwreiddiol, adolygiadau llenyddiaeth systematig a gwerthusiadau ymyrraeth. Mae Karen yn gweithio gyda Sefydliad Iechyd y Byd i gefnogi eu rhaglen o weithgareddau i atal ac ymateb i drais ac mae wedi cyhoeddi ystod eang o bapurau academaidd ac adroddiadau cenedlaethol a rhyngwladol i lywio datblygiad polisi a llywio ymarfer iechyd cyhoeddus.

Mae Prifysgol Bangor yn rhan o Ddatganiad San Francisco ar Asesu Ymchwil () ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ymchwil ac ymchwilwyr yn cael eu gwerthuso'n deg, mewn modd tryloyw, sy'n cefnogi ymchwil amrywiol, ystyrlon ac o ansawdd uchel.

Mae Prifysgol Bangor yn asesu ymchwilwyr yn seiliedig ar ansawdd, cynnwys ac arwyddoc芒d ar draws holl amrediad eu cyfraniadau i'r brifysgol, ac nid yn 么l metrigau sy'n seiliedig ar gyfnodolion neu gydnabyddiaethau, ac nid yw cael eu cynnwys (neu beidio 芒鈥檜 cynnwys) mewn rhestrau allanol yn ddull a ddefnyddir fel dangosydd pennaf o ansawdd neu werth ymchwilwyr ac nid yw hynny鈥檔 cael ei gynnwys wrth ystyried ariannu, penodi na dyrchafu.

Darllen mwy: