91精品黑料吃瓜

Fy ngwlad:

Darlith Flynyddol

 

Traddodwyd darlith flynyddol gyntaf yr Archifau a鈥檙 Casgliadau Arbennig gan yr Athro Owen Dudley Edwards fis Hydref 2011.

Ar y diwrnod hwn, gosodwyd cynsail ac er hynny rydym wedi llwyddo i greu rhaglen liwgar o ddarlithoedd cyhoeddus sydd yn apelio at aelodau鈥檙 Brifysgol a defnyddwyr allanol hefyd.

Yn draddodiadol, mae鈥檙 Archifydd yn gwahodd siaradwyr sydd wedi treulio cryn amser yn yr Archifau a鈥檙 Casgliadau Arbennig ymchwilio i bwnc penodol neu rywun sy鈥檔 arbenigo mewn pwnc sydd  yn berthnasol i鈥檙 adran.

Ar y 12fed o Dachwedd, eleni, byddwn yn croesawu Alex Ioannou, fel siaradwr gwadd. Mae鈥檔 fyfyriwr Doethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor o dan oruchwyliaeth Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru a Chanolfan Syr William Roberts ar gyfer defnydd tir cynaliadwy.

Teitl y ddarlith: Challenging time(s): Exploring how we shape the past and future of Eryri through the exchange of material culture.

Rydym yn byw mewn cyfnod heriol a nodweddir gan newid a phryder dwfn ynghylch nifer o faterion gan gynnwys newid hinsawdd i golli bioamrywiaeth.

Bydd Alex Ioannou yn rhannu sut mae ei ymchwil yn ceisio 'tarfu' ar ddealltwriaethau dominyddol o Eryri. Mae ei ddarlleniad manwl o dystiolaeth hanesyddol a deunydd archifol, yn ogystal 芒 gwaith cydweithredol gyda chymunedau lleol yn Nyffryn Ogwen, yn datgelu dealltwriaethau cyfoethog ac amrywiol o dirweddau Cymru.

Mae ei brosiect parhaus Ail-fframio Eryri yn taflu goleuni ar y ffyrdd y mae Eryri eisoes wedi newid, o'r prosesau cudd sy'n gynhenid i lunio canfyddiadau o'i thirwedd, i'r trawsnewidiadau ffisegol mwy amlwg a wnaed gan Yst芒d hanesyddol arwyddocaol Penrhyn.

Wrth ragweld newid yn y dyfodol o fewn y tirweddau yr ydym yn eu hadnabod mor dda, bydd darlith Alex yn trafod sut mae ei ddull a'i ymchwil yn arddangos ffordd tuag at ffordd fwy grymusol a democrataidd o benderfynu ar newid tirwedd - un lle gallwn ni i gyd ryngweithio'n briodol 芒 Chymru'r gorffennol, y presennol a'r dyfodol.

Dyma restr o鈥檙 darlithoedd a draddodwyd eisoes.

DarlithyddTeitl y ddarlithDyddiad
Alex IoannouChallenging time(s): Exploring how we shape the past and future of Eryri through the exchange of material culture12 Tachwedd 2025
Yr Athro Terence Dooley o Brifysgol Maynooth, IwerddonClosed for Research: The Irish land Commission Archives and the Fall of the Anglo-Irish Aristocracy30 Hydref 2024
Dr Gruffudd AnturRhwng Aberystwyth a Warwick: Llawysgrifau Bangor a Repertory Daniel Huws4 Hydref 2023 
Yr Athro Marged HaycockGolwg newydd ar Ifor Williams (1881-1965)5 Hydref 2022
Dr Gareth HuwsPenrhos : Powerful women and the curious tale of a Knight, a Lord and an Honourable9 Hydref 2019
Yr Athro Vivien GardnerMiss Marple and the Marquess : Piecing together the life of the 5th Marquess of Anglesey24 Hydref 2018
Dr Marian GwynThe Pennants of Penrhyn in Jamaica : Power, profit and people2 Tachwedd 2016
Yr Athro Bill Jones'Garibaldi', 'Dyn y Bala' ac 'Apostol Mawr Patagonia' : Y Wladfa a'r Wasg Gymreig yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg4 Tachwedd 2015
Syr Deian HopkinMemory and History : Remembering the First World War in Wales12 Tachwedd 2014
Dr Rowan WilliamsR.S.Thomas, Christianity & Buddhism11 Rhagfyr 2013
Yr Athro Derec Llwyd MorganThomas Parry a Choleg Bangor17 Hydref 2012
Yr Athro Owen Dudley EdwardsRex versus Sir Roger Casement - The Last Hero16 Hydref 2011