Gallwch gymryd rhan mewn amrywiaeth enfawr o chwaraeon. Mae gan Undeb Myfyrwyr Bangor ystod eang o dimau a chlybiau chwaraeon y gallwch ymuno 芒 nhw, gan gynnwys chwaraeon traddodiadol fel p锚l-droed, rygbi a thenis yn ogystal 芒 gweithgareddau mwy anarferol fel quidditch, hoci tanddwr a ffrisbi eithafol.
Mae gennym hefyd gyfleusterau ffitrwydd rhagorol ar y campws, ac wrth gwrs mae ein lleoliad yn golygu y gallwch dreulio amser yn yr awyr agored yn dringo mynyddoedd, padl-fyrddio, caiacio, syrffio a llawer mwy.
Cyfleusterau ar y campws
Canolfan Brailsford
Mae Canolfan Brailsford, canolfan chwaraeon a hamdden y Brifysgol, wedi ei lleoli yng nghanol Ffriddoedd, y prif safle neuaddau.
Mae'r ganolfan yn cynnwys tair campfa llawn offer ar gyfer ymarfer cardiofasgwlaidd a hyfforddi pwysau, neuadd gymnasteg a wal ddringo gyda sawl lefel anhawster. Y tu allan ceir caeau p锚l-droed a rygbi, cae synthetig gyda llifoleuadau i chwarae hoci, trac athletau a chyfleusterau amlbwrpas i chwarae tenis, p锚l-droed pump-bob-ochr a ph锚l-rhwyd.
Trac Athletau a Chaeau Chwarae Treborth
Ymhlith y cyfleusterau yn Treborth, mae caeau p锚l-droed, rygbi a Ph锚l-droed Americanaidd a thrac athletau.
Ystafell Ffitrwydd y Santes Fair
Mae ysgafell ffitrwydd ym Mhentref Santes Fair. Mae'r offer modern a gyflenwir gan LifeFitness yn cynnwys melinau troed, traws hyfforddwyr, beiciau, rhwyfwr d诺r ac amrywiaeth o beiriannau gwrthiant i alluogi ymarfer effeithiol.
Mae aelodaeth o'r gampfa yn gynwysedig i fyfyrwyr sy'n byw yn ein neuaddau preswyl.