91精品黑料吃瓜

Fy ngwlad:
Banner Diwrnod Agored

Ymunwch 芒 ni ar Ddiwrnod Agored ym Mhrifysgol Bangor

Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio cwrs israddedig, cewch flas go iawn ar fywyd prifysgol trwy ddod i Ddiwrnod Agored. Rydym yn gobeithio byddwch yn gallu ymweld 芒 ni - edrychwn ymlaen at eich gweld.

 Dyddiadau'r Dyddiau Agored  

  •    Dydd Sadwrn, 5 Gorffennaf, 2025 
  •    Dydd Sul, 17 Awst, 2025
  •    Dydd Sul, 12 Hydref, 2025
  •    Dydd Sadwrn, 1 Tachwedd, 2025 
  •    Dydd Sadwrn, 22 Tachwedd, 2025 

Beth i'w ddisgwyl ar Ddiwrnod Agored

  •  cewch fwy o fanylion am eich pwnc
  •  gweld yr adnoddau a chyfleusterau cwrs-benodol
  •  cyfarfod staff dysgu a myfyrwyr presennol
  •  gweld y llety i fyfyrwyr
  •  cewch flas ar fywyd myfyriwr ym Mangor
  •  mynychu cyflwyniadau ar bynciau fel bywyd myfyriwr a chyllid
  •  ymgyfarwyddo ag adeiladau鈥檙 Brifysgol a dinas Bangor.

Gadewch i ni wybod ymlaen llaw drwy ebostio diwrnodagored@bangor.ac.uk os oes gennych chi, neu rywun fydd gyda chi, anabledd neu broblemau symud, fel y gallwn wneud unrhyw drefniadau angenrheidiol. 

Os nad ydych yn gallu dod i un o'r Dyddiau Agored, ebostiwch diwrnodagored@bangor.ac.uk i drefnu ymweliad unigol i'r Brifysgol ar ddyddiad arall. 

Paratoi ar gyfer Diwrnod Agored

Bydd y Diwrnod Agored yn ddiwrnod prysur felly dylech ddarllen y rhaglen a nodi popeth rydych yn gobeithio ei weld a鈥檌 wneud cyn dod i鈥檙 Diwrnod Agored.

Mae鈥檔 syniad ystyried yr holl gwestiynau posib cyn i chi ddod - efallai bod gennych gwestiynau i staff am y gofynion mynediad neu fodiwlau鈥檙 cwrs neu gwestiynau i fyfyrwyr presennol am fywyd myfyriwr ym Mangor e.e., y clybiau a鈥檙 cymdeithasau sydd yma. 

Er bod rhan fwyaf o adeiladau鈥檙 Brifysgol o fewn pellter cerdded i鈥檙 prif adeilad lle byddwch yn cofrestru ar 么l cyrraedd, byddwch yn synnu faint o waith cerdded byddwch yn ei wneud yn ystod diwrnod agored felly gwisgwch esgidiau cyffyrddus y byddwch yn hapus i gerdded ynddynt trwy鈥檙 dydd. Ni allwn addo tywydd braf chwaith - felly dewch 芒 ch么t neu siaced gyda chi.

Rhaglen y Diwrnod Agored

Bydd rhaglen y Diwrnod Agored ar gael cyn y digwyddiad.

Archebu eich lle

Pam Dewis Prifysgol Bangor?

Yn ogystal 芒鈥檙 addysgu rhagorol a鈥檙 adnoddau ardderchog, mae yna lawer o bethau eraill sy鈥檔 cyfrannu at wneud y profiad o astudio yma yn un unigryw. Mae awyrgylch gyfeillgar i'r ddinas a chewch gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ogystal 芒 hynny, mae amgylchedd naturiol ein hardal gyfagos yn arbennig!

Myfyrwraig Holly Shone mewn ystafell wely yn llety'r Santes Fair

Byw mewn Llety modern sy'n gyfleus a chyfforddus

Byddwch yn teimlo'n gartrefol yn ein neuaddau preswyl. Mae ein llety yn fodern ac yn gyfforddus ac o fewn pellter cerdded i'r rhan fwyaf o adeiladau'r Brifysgol. Cewch ddewis byw yn o'r ddau bentref myfyrwyr.

 

Myfyriwr ar Fwrdd Padlo ar Llyn Padarn yn Llanberis

Lleoliad ysbrydoledig i fyw a dysgu

Mae'r Brifysgol yn cynnig amgylchedd hamddenol i fyfyrwyr gymdeithasu, dysgu a gwneud ffrindiau oes. Mae ein lleoliad, y golygfeydd a'r ardal gyfagos hefyd ymhlith y rhesymau pam mae llawer o'n myfyrwyr yn dewis dod i Fangor.

Myfyrwyr yn eistedd yn y caffi pontio yn yfed coffi ac yn chwerthin gyda'i gilydd

Gofalu a chefnogi ein myfyrwyr

Ym Mangor, rydym yn rhoi pwyslais mawr ar ofalu am ein myfyrwyr a鈥檜 cefnogi. O'r munud y byddwch yn cyrraedd, byddwch yn cael cymaint o help a chefnogaeth ag sydd eu hangen arnoch chi.

Student playing basketball

Dewis eang o Glybiau a Chymdeithasau

Mae Clybiau a Chymdeithasau Undeb y Myfyrwyr, sydd wedi cael eu gwobrwyo ymysg y gorau yn y DU tros y blynyddoedd, yn gyfle gwych i ddod i adnabod eraill. Felly, p'un a yw'n rywbeth rydych yn ymddiddori ynddo erioed neu'n chwaraeon neu weithgareddau rydych wedi bod eisiau rhoi cynnig arnynt erioed, mae yna ddigon i'ch cadw'n brysur yn eich amser hamdden.

Cipolwg ar ein hadeiladau a'n hadnoddau arbennig

[0:04] Croeso i Ddiwrnod Agored Prifysgol Bangor!

[0:07] Welcome to 91精品黑料吃瓜 Open Day!

[0:29] Fedrwn i ddim meddwl am le gwell i roi hwb i'm gyrfa na Bangor.

[0:35] Dwi'n meddwl ei fod o'r penderfyniad gorau i mi ei wneud erioed.

[0:51] Dewch i Fangor - rydych yn mynd i garu'r lle!

<