Mae鈥檙 Archifau a鈥檙 Casgliadau Arbennig yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ar hyd y flwyddyn er mwyn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o鈥檔 casgliadau.
- Mae arddangosfeydd, darlithoedd cyhoeddus a dyddiau agored yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.
- Rydym yn cynnal sesiynau cynefino i fyfyrwyr a staff ac yn cynnig y cyfle i gymdeithasau lleol ac ysgolion ddarganfod mwy am ein casgliadau.
Byddwn hefyd yn cymeryd rhan yn flynyddol yn y digwyddiadau cenedlaethol 鈥淎rchwiliwch eich Archif鈥.
Bydd ein digwyddiadau oll yn cael eu hysbysebu ar y dudalen hon ac ar y cyfryngau cymdeithasol 鈥 Facebook ac Bluesky
Arddangosfa'r Archifau a Chasgliadau Arbennig 2025
Cadeirlan Bangor - 2025
Dathlu pen-blwydd y Gadeirlan a Dinas Bangor yn 1500 oed - y ddinas hynaf yng Nghymru
Darlith Flynyddol yr Archifau a Chasgliadau Arbennig 2025
Ar y 12fed o Dachwedd, eleni, byddwn yn croesawu Alex Ioannou, fel siaradwr gwadd. Mae鈥檔 fyfyriwr Doethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor o dan oruchwyliaeth Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru a Chanolfan Syr William Roberts ar gyfer defnydd tir cynaliadwy.
Rydym yn byw mewn cyfnod heriol a nodweddir gan newid a phryder dwfn ynghylch nifer o faterion gan gynnwys newid hinsawdd i golli bioamrywiaeth.
Bydd Alex Ioannou yn rhannu sut mae ei ymchwil yn ceisio 'tarfu' ar ddealltwriaethau dominyddol o Eryri. Mae ei ddarlleniad manwl o dystiolaeth hanesyddol a deunydd archifol, yn ogystal 芒 gwaith cydweithredol gyda chymunedau lleol yn Nyffryn Ogwen, yn datgelu dealltwriaethau cyfoethog ac amrywiol o dirweddau Cymru.
Mae ei brosiect parhaus Ail-fframio Eryri yn taflu goleuni ar y ffyrdd y mae Eryri eisoes wedi newid, o'r prosesau cudd sy'n gynhenid i lunio canfyddiadau o'i thirwedd, i'r trawsnewidiadau ffisegol mwy amlwg a wnaed gan Yst芒d hanesyddol arwyddocaol Penrhyn.
Wrth ragweld newid yn y dyfodol o fewn y tirweddau yr ydym yn eu hadnabod mor dda, bydd darlith Alex yn trafod sut mae ei ddull a'i ymchwil yn arddangos ffordd tuag at ffordd fwy grymusol a democrataidd o benderfynu ar newid tirwedd - un lle gallwn ni i gyd ryngweithio'n briodol 芒 Chymru'r gorffennol, y presennol a'r dyfodol.
Traddodir y ddarlith hon drwy gyfrwng y Saesneg.