5 Rheswm i Astudio Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid
Mae astudio Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid yn eich galluogi i ddod yn eiriolwr dros hawliau a lles plant a phobl ifanc. Cewch ddysgu sut i sicrhau eu bod yn cael y gofal, y cymorth a'r cyfleoedd angenrheidiol i ffynnu. Mae hyn yn cynnwys deall eu hanghenion, adnabod problemau posibl, a gweithredu strategaethau i wella ansawdd eu bywyd. Yn sail i鈥檔 rhaglen mae ymrwymiad i gydraddoldeb, cynhwysiant, cyfiawnder cymdeithasol, a hawliau dynol pob plentyn a pherson ifanc. Trwy wrando ar blant a dysgu ganddynt, byddwch yn dod i ddeall eu byd yn ddwfn, gan eich paratoi i weithio ochr yn ochr 芒 nhw mewn ffyrdd cefnogol.
Drwy astudio astudiaethau plentyndod ac ieuenctid byddwch yn ennill yr arbenigedd sydd ei angen i ddeall polis茂au sy'n effeithio'n uniongyrchol ar blant a phobl ifanc. Mae'r cwrs yn rhoi cyfle unigryw i weithio gyda phlant, gan gynorthwyo a threfnu uwchgynadleddau plant a phobl ifanc ar faterion cyfredol megis newid hinsawdd ac iechyd meddwl. Mae ein harbenigedd proffesiynol ac academaidd yn cwmpasu hawliau plant, plentyndod digidol, dwyieithrwydd, addysg, gofal cymdeithasol, ac iechyd meddwl, gan ddarparu amgylchedd dysgu cyfoethog i astudio o safbwyntiau lluosog.
Mae'r cwrs hwn yn rhoi golwg gynhwysfawr ar wahanol gamau datblygiad plentyn, gan gynnwys;
- twf corfforol
- gwybyddol
- emosiynol
- chymdeithasol.
Byddwch yn astudio meysydd allweddol fel cyfathrebu, caffael iaith, llythrennedd cynnar, anghenion dysgu ychwanegol, a chynhwysiant. Mae strwythur unigryw ein cwrs yn dy alluogi i archwilio materion o safbwyntiau cymdeithasegol, addysgol a seicolegol, gan ddechrau gyda modiwlau sylfaenol ym mhob maes. Mae ein cwrs yn gymuned agos sy鈥檔 cynnwys cyfleoedd gwerthfawr megis lleoliadau gwaith, ymweliadau addysgol, ac ymgysylltu ag ystod amrywiol o siaradwyr gwadd. Wrth i鈥檙 cwrs fynd yn ei flaen, gelli fireinio dy ddiddordebau ac arbenigo yn y meysydd wyt fwyaf angerddol yn eu cylch.
Mae ein rhaglen yn rhoi hwb i'ch cyflogadwyedd trwy roi gwybodaeth ddamcaniaethol a sgiliau ymarferol sy'n hanfodol ar gyfer mynd i'r afael 芒 heriau cymdeithasol cyfoes. Mae graddedigion ein rhaglen yn dilyn gyrfaoedd amrywiol mewn addysg, gwaith cymdeithasol, cwnsela ieuenctid, datblygu polisi, a sefydliadau dielw. Cysyllta 芒鈥檙 gweithlu plant lleol gyda chyfleoedd ar gyfer profiad gwaith sy鈥檔 canolbwyntio鈥檔 gyfan gwbl ar yrfaoedd yn gweithio gyda phlant.
Mae ein myfyrwyr yn cael y cyfle i ennill profiad rhyngwladol ac ehangu eu dealltwriaeth ddiwylliannol trwy astudio blwyddyn dramor. Mae blwyddyn mewn gwlad arall yn gwneud myfyrwyr yn agored i wahanol systemau addysgol, arferion gofal plant, a pholis茂au ieuenctid. Mae鈥檔 gyfle i ddatblygu cymwyseddau byd-eang, gwella sgiliau iaith, ac adeiladu rhwydwaith proffesiynol amrywiol. Mae'r profiad unigryw hwn nid yn unig yn gwella twf academaidd a phersonol ond hefyd yn dy wneud yn ymgeisydd mwy cystadleuol yn y farchnad swyddi byd-eang.
100%
Boddhad Myfyrwyr yn y rhaglen Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid
Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2024
10 Uchaf
yn y DU am ansawdd addysgu mewn Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid
Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2024
1af
yng Nghymru am ansawdd addysgu mewn Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid
Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2024
20 Uchaf am Ansawdd Addysgu
a 44ain yn y Deyrnas Unedig
The Times & The Sunday Times Good University Guide 2024