Darganfyddwch Gyrsiau sy'n Ymwneud 芒 Ffiseg
Pam Astudio Ffiseg?
Mae deall sut mae'r cefnforoedd yn gweithio yn allweddol i ragfynegi sut bydd ein planed yn ymateb i'r hinsawdd sy'n cynhesu. Mae hefyd yn bwysig os ydym am harneisio'r potensial enfawr o ynni adnewyddadwy o'r llanw sydd ddim yn cael ei ddefnyddio i raddau helaeth. Trwy astudio ffiseg y cefnfor, byddwch yn dysgu sut mae'r cefnfor yn gweithio ac yn rhyngweithio ag elfennau eraill o System y Ddaear, yr atmosffer a'r cryosffer. Byddwch hefyd yn dysgu sut i arsylwi'r cefnfor, o longau ac o'r gofod, ac i ddatblygu modelau rhifiadol i ragfynegi'r cefnfor.
Byddwch yn meithrin y sgiliau i allu ymdrin 芒 phroblemau pwysig sy'n gysylltiedig 芒 newid yn yr hinsawdd ac echdynnu ynni o'r cefnfor.