5 Rheswm i Astudio Sbaeneg
Mae Sbaeneg yn un o'r ieithoedd mwyaf eang ei chwmpas yn y byd. Gall dysgu Sbaeneg ei gwneud hi'n haws i chi deithio a gweithio'n rhyngwladol. Mae galw mawr am sgiliau Sbaeneg gan gyflogwyr amrywiol, p'un a ydych am weithio ym maes twristiaeth, busnes, addysg neu gysylltiadau rhyngwladol. Gall sgiliau Sbaeneg helpu agor drysau. Mae dysgu iaith arall yn gwella gweithrediad gwybyddol, y cof a chreadigrwydd.
Rydym yn cynnig amrywiaeth eang a hyblyg o opsiynau gradd mewn Sbaeneg. Nod ein cyrsiau yw darparu ar gyfer y rhai sy'n dymuno arbenigo mewn un iaith, yn ogystal 芒'r rhai sy'n dymuno astudio dwy neu dair iaith gyda'i gilydd. Rydym hefyd yn cynnig opsiynau o ran graddau lle cewch chi astudio iaith ar y cyd 芒 phwnc arall.
Bydd ein cyrsiau Sbaeneg yn rhoi sgiliau uwch i chi yn yr iaith a dealltwriaeth eang arbenigol a manwl o'r diwylliant, y gymdeithas a'r hanes cysylltiedig. Rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau llafar, clywedol ac ysgrifenedig allweddol ac yn eich annog i archwilio a dilyn eich diddordebau chithau.
Mae pob un o'r graddau iaith pedair blynedd yn cynnwys blwyddyn dramor. Byddwch yn treulio'r drydedd flwyddyn yn gweithio neu'n astudio dramor cyn dychwelyd i Fangor i鈥檙 flwyddyn olaf. Mae'r profiad hwnnw鈥檔 gyfle gwych i chi ddatblygu eich sgiliau iaith wrth gael eich trochi ym mywyd a diwylliant y wlad y byddwch yn ymweld 芒 hi. Mae Sbaeneg yn iaith swyddogol neu鈥檔 iaith eang ei chwmpas mewn nifer o wledydd. Mae'r dewis yn ddiddiwedd o ran ble y gallech chi ddewis astudio!
Bydd dysgu Sbaeneg yn fodd ichi gwrdd 芒 phobl newydd, profi diwylliannau newydd ac agor drysau i brofiadau newydd. Mae鈥檙 Sbaeneg yn cael ei siarad mewn gwledydd fel Sbaen, Mecsico, yr Ariannin, Chile a Periw ac mae'r profiadau diwylliannol a gynigir yn ddi-ben-draw.