Yngl欧n 芒 Seicoleg
Mae鈥檙 ymdrech i ddeall y meddwl a鈥檙 ymennydd dynol yn un o鈥檙 heriau mwyaf i wyddoniaeth. Mae ein hymchwil mewn meysydd fel iaith, gwybyddiaeth, gweithredu, emosiwn, ymddygiad cymdeithasol, canfyddiad ac iechyd y corff a鈥檙 meddwl yn hollbwysig i ddatblygu ein dealltwriaeth o ymddygiad dynol, a hefyd i hyrwyddo adferiad pobl sy鈥檔 dioddef yn sgil anaf neu afiechyd a gofalu amdanynt.
Cymhwyster lefel PhD yw'r lefel uchaf o astudiaeth wedi'i harholi ym maes Seicoleg. Mae astudiaeth PhD yn golygu astudio'n llawn amser am 3 i 4 blynedd neu astudio'n rhan amser am hyd at 7 mlynedd. Mae'n rhaglen sy'n rhoi pwyslais ar ymchwil a fydd yn eich paratoi at yrfa mewn maes academaidd neu ddiwydiant.
Bydd astudiaeth ddoethurol mewn Seicoleg yn eich galluogi i ddatblygu'r sgiliau sy'n ofynnol i fod yn ymchwilydd annibynnol yn y gwyddorau seicolegol. Ochr yn ochr 芒 datblygu eich portffolio ymchwil, gall hyfforddiant PhD roi'r cyfle i ddatblygu sgiliau academaidd eraill, megis addysgu mewn sefydliadau addysg uwch.
Bydd rhaglen PhD yn eich hyfforddi ar sut i gyfrannu at wybodaeth academaidd ar y lefelau mwyaf datblygedig a'i lledaenu. Gall hyn gynnwys arbenigo mewn ymchwil arloesol a/neu ddatblygu offer ac ymyriadau seicolegol arloesol, a chynhyrchu gwaith y gellir ei gyhoeddi o ansawdd rhagorol yn rhyngwladol.
8fed
yn y DU am Foddhad Myfyrwyr
Complete University Guide 2024
8fed
yn y DU am Brofiad Myfyrwyr
Times Good University Guide 2023
14eg
yn y DU am Ansawdd Addysgu
Times Good University Guide 2023
25 Uchaf
yn y DU ar gyfer Seicoleg
Guardian Good University Guide 2023
2il
yng Nghymru am Seicoleg
Guardian Good University Guide 2023


