Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae ein MSc Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol (ABA) wedi鈥檌 fwriadu ar gyfer y rhai hynny sy鈥檔 dymuno arbenigo mewn cymwysiadau ymarferol o ddadansoddi ymddygiad gan gynnwys cefnogi ymddygiad cadarnhaol a dadansoddi ymddygiad mewn addysg. Mae鈥檙 cwrs hwn wedi鈥檌 gynllunio i ddatblygu gwybodaeth theoretig ac ymarferol uwch o egwyddorion sylfaenol dadansoddi ymddygiad a chymhwyso鈥檙 egwyddorion mewn sefyllfaoedd clinigol ac ymchwil.
Mae dadansoddwyr ymddygiad yn gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau amlddisgyblaethol ochr yn ochr ag athrawon, seicolegwyr, nyrsys a gweithwyr proffesiynol eraill i helpu unigolion a sefydliadau i gyflawni eu nodau a gwella ansawdd bywyd.
Mae dadansoddiad ymddygiad yn y Deyrnas Unedig yn cael ei oruchwylio gan Gymdeithas Dadansoddi Ymddygiad y Deyrnas Unedig (UK Society for Behaviour Analysis neu ). Mae cofrestr gweithwyr proffesiynol UK-SBA wedi'i hachredu o dan raglen Cofrestr Achrededig yr . Mae dadansoddi ymddygiad yn ymarfer sy'n esblygu ac ym Mangor rydym yn pwysleisio dull sy'n cael ei arwain gan werthoedd ac sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Rydym yn cymeradwyo ac yn cadw at a yr UK-SBA.
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae鈥檙 rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol MSc.
Mae cynnwys y cwrs wedi鈥檌 nodi i鈥檆h arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Gradd israddedig 2(ii) neu gyfwerth o leiaf. Gall ymgeiswyr h欧n (25+ ar ddechrau'r cwrs) heb radd ond sydd 芒 phrofiad perthnasol hefyd gael mynediad i'r cwrs ar lefel tystysgrif. Gall profiad clinigol perthnasol gynnwys gwaith 芒 th芒l neu waith gwirfoddol mewn ysgolion, cartrefi gofal, gwasanaethau oedolion, gwasanaethau iechyd meddwl ac ati a bydd cyfarwyddwr y cwrs yn ei adolygu fel y bo'n briodol. Ar 么l cwblhau'r cwrs tystysgrif yn llwyddiannus, bydd ymgeiswyr o'r fath yn gymwys i symud ymlaen i'r diploma a'r lefel meistr.
IELTS: Gofynnir am 6.5 (heb unrhyw elfen dan 6.0). Rhaid cyflwyno ceisiadau electronig i'r ysgol erbyn 1 Mai bob blwyddyn. Cysylltir ag ymgeiswyr posib sy'n bodloni'r holl feini prawf eraill i gael cyfweliad byr gyda chyfarwyddwr y cwrs. Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal naill ai'n bersonol neu trwy gyfrwng telegynadledda. Cynigir lleoedd erbyn diwedd mis Mehefin.
Gyrfaoedd
Mae ymgeiswyr llwyddiannus yn gadael y cwrs ar 么l bodloni elfen hyfforddedig y meini prawf cymhwysedd i sefyll arholiad ardystio dadansoddwr ymddygiad ardystiedig y bwrdd a gynigir gan y Behavior Analyst Certification Board (BACB). Mae'r BACB yn gorff proffesiynol rhyngwladol sy'n goruchwylio'r proffesiwn dadansoddi ymddygiad. Mae cyflogwyr yn chwilio fwyfwy am bobl sydd wedi cymhwyso fel dadansoddwr ymddygiad ardystiedig, ac mae gan ein myfyrwyr fantais amlwg wrth geisio hyfforddiant uwch a chyflogaeth bellach mewn meysydd cyflogaeth sy'n delio ag ymddygiad heriol, darpariaethau addysgol arbennig ac anableddau datblygiadol.