Dull mwy cynaliadwy ac eco-ymwybodol o drin hadau llysiau yw ffocws project ymchwil aml-bartner sy'n cynnwys un o gynhyrchwyr hadau mwyaf y Deyrnas Unedig a Phrifysgol Bangor.
Mae Tozer Seeds wedi cysylltu â Chanolfan Biogyfansoddion y brifysgol i ddatblygu triniaethau hadau amgen sydd â’r nod o reoli clefydau yn ogystal â gwella nodweddion addas ar gyfer egino a thyfu cnydau.
Bydd y project 18 mis, a ariennir drwy raglen Llwybrau Arloesi Ffermio Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn gweld hadau seleri, pannas a choriander yn cael eu trin â l.aserau a chyfansoddion bioactif naturiol.
Nod y strategaethau yw nid yn unig diheintio hadau pathogenau sy'n achosi clefydau, a all arwain at lawer iawn o gnydau wedi'u gwastraffu, ond gwella cyfradd egino, sefydlu hadu, cyfradd twf, a chynnyrch cnydau.
Mae Canolfan Biogyfansoddion Prifysgol Bangor wedi cynorthwyo â datblygu’r triniaethau arfaethedig, gyda ffocws cychwynnol ar wella cryfder y cyfansoddyn bioactif a phŵer ac amser triniaeth y laser. Mae'r gwaith laser ar driniaeth yr hadau yn cael ei arwain gan dîm Dr. Zengbo Wang yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig.
Mae'r rownd gyntaf o brofion a gwaith labordy ar y gweill ar hyn o bryd, gyda'r triniaethau hadau mwyaf addawol i'w gwerthuso gan bartneriaid-dyfwyr sy'n rhan o gadwyn gyflenwi Tozer Seeds o Surrey.

Bydd y cynhyrchwyr Medwyn's of Anglesey, G's Group, a Strawsons yn cyfrannu at y fenter, gan ddarparu gwybodaeth am y diwydiant a gofod tyfu.
Dywedodd Dr Matthew Walker, rheolwr ymchwil a datblygu’r grŵp yn Tozer Seeds:
“Mae planhigyn ar ei fwyaf bregus yn ystod camau cynnar ei ddatblygiad, ac mae rhoi plaladdwr cymeradwy ar yr hedyn yn ei helpu trwy’r broses egino a gall arwain at sefydlu eginblanhigion da ac yn y pen draw at gynhyrchu mwy o gnwd.