Mae'r gwaith yn rhan o ymrwymiad nodedig gan Aviva, sy’n werth £38 miliwn, i helpu i fynd i'r afael â’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur drwy adfer fforestydd glaw ledled Ynysoedd Prydain. Fel rhan o’r gwaith hwn, mae cyllid wedi'i ddyrannu i wneud ymchwil academaidd arloesol mewn sefydliadau blaenllaw, a Phrifysgol Bangor fydd yn arwain y gwaith hwnnw.
Mae fforestydd glaw tymherus, sy’n cael eu galw weithiau yn fforestydd glaw'r Iwerydd, ymhlith y cynefinoedd mwyaf bioamrywiol yn y Deyrnas Unedig, ond maent wedi crebachu i ffracsiwn o’r hyn oeddent unwaith. Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor bellach yn gofyn cwestiynau allweddol ynghylch sut y gallwn fod yn fwy effeithiol a chynhwysol wrth adfer y coedwigoedd hyn, a pha gyfraniad y bydd hyn yn ei wneud fel rhan o’r frwydr yn erbyn newid hinsawdd.
Yn y project cyntaf, bydd tîm ymchwil Prifysgol Bangor yn ymchwilio i rôl mwsoglau, cennau a phlanhigion eraill sy'n tyfu ar foncyffion a changhennau coed yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Caiff y cyfraniad hwnnw ei ddiystyru’n aml. Byddant yn mesur i ba raddau mae'r planhigion hyn yn amsugno'r nwyon tŷ gwydr, sy'n achosi cynhesu byd-eang, o'r atmosffer. Bydd hyn yn llenwi bwlch pwysig yn y wybodaeth bresennol am gyfraniad cyffredinol systemau fforestydd glaw tymherus i'r gylchred carbon byd-eang.
Dan ni’n falch iawn ym Mangor o gael bod yn arwain y project yma. Mae fforestydd glaw tymherus yn ecosystemau hudolus a chymhleth. Mae cymaint mwy i'w ddysgu amdanyn nhw ac mae cymaint yn y fantol.
Mae ymchwilwyr Prifysgol Bangor hefyd yn archwilio i weld beth ydy’r ffyrdd gorau o adfer cynefinoedd fforestydd glaw, gan gynnwys sut i sefydlu coed mewn safleoedd sydd ar hyn o bryd yn cael eu dominyddu gan rywogaethau ymledol megis rhedyn, ac mi fyddan nhw hefyd yn cymharu dulliau megis plannu, hau hadau’n uniongyrchol, neu adael i goed sefydlu o hadau sydd wedi’u gwasgaru’n naturiol. Mi fyddan nhw hefyd yn ymchwilio i set o fforestydd glaw sydd wedi'u hadfer ar adegau gwahanol dros gyfnod hir o amser i ddarganfod pa mor gyflym y maent yn adfer fel ecosystemau gwydn. Mae'r project hwn yn gydweithrediad efo Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru.

Project ydy hwn i ffurfio’r sylfeini gwyddonol ar gyfer mynd ati, ar raddfa fawr, i adfer un o’r cynefinoedd sydd fwyaf mewn perygl. Mae angen i ni ddeall sut mae'r coedwigoedd hyn yn tyfu, sut maen nhw'n gweithredu, a sut y gallan nhw ein helpu ni i gyrraedd targedau bioamrywiaeth a thargedau hinsawdd.
Mae sicrhau bod y project Fforestydd Glaw Tymherus yn gweithio i bobl ac i fyd natur yn nod allweddol i’r Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt. Felly, mewn trydydd project bydd y tîm ym Mangor yn archwilio'r ffordd orau o weithio gyda rheolwyr tir a chymunedau i alluogi gwaith plannu coed a gwaith adfer. Bydd eu hymchwil yn edrych ar y costau a'r manteision i randdeiliaid a'r cymhellion sy'n deillio o hynny a'r rhwystrau canfyddedig ac yn archwilio i weld beth yw’r ffordd orau o ymgysylltu a chydweithio â phobl. Caiff y gwaith ei wneud drwy gyfrwng efrydiaeth ddoethurol a gaiff ei hariannu drwy Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru.
Bydd cefnogaeth hanfodol yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt ac Aviva yn golygu y bydd canfyddiadau’r tîm yn gwneud cyfraniad pwysig at wireddu’r weledigaeth o adfer y fforestydd glaw tymherus ar draws ardaloedd addas o’r Deyrnas Unedig dros gyfnod o gan mlynedd.
Mae adfer y cynefinoedd hardd, hynafol yma yng nghefn gwlad yn alwedigaeth i’r tîm yma yn yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt – ond mae angen i’n gwaith ar lawr gwlad gael ei ategu gan dystiolaeth wyddonol o’r ansawdd uchaf. Mae gennym gymaint i'w ddysgu er enghraifft am sut mae mwsogl a chen yn amsugno nwyon tŷ gwydr, a bydd y manylion hynny’n gwneud gwahaniaeth mawr i'n rhaglen uchelgeisiol ni. Dan ni’n ddiolchgar iawn bod ein partneriaid yn Aviva yn cydnabod hynny ac yn ein helpu i ddatblygu màs critigol o arbenigedd sydd gyda’r gorau yn y byd yma ym Mhrifysgol Bangor.
Yn Aviva, rydym yn cydnabod bod mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur yn gofyn am fuddsoddiad hirdymor mewn ecosystemau ac mewn datblygu tystiolaeth. Dyna pam ein bod yn falch o gefnogi ymchwil arloesol Prifysgol Bangor i adfer fforestydd glaw tymherus. Bydd y gwaith hwn nid yn unig yn dyfnhau ein dealltwriaeth o'r cynefinoedd prin a hanfodol hyn ond bydd hefyd yn llunio atebion ymarferol sy'n meithrin gwytnwch yn wyneb newid hinsawdd, yn amddiffyn ecosystemau hanfodol, ac yn lleihau'r risg o lifogydd i gartrefi a busnesau, gan helpu'r Deyrnas Unedig i baratoi ar gyfer y dyfodol. Dyma gam arall ymlaen yn ein rhaglen 100 mlynedd sy’n werth £38 miliwn i helpu i adfer fforestydd glaw Ynysoedd Prydain gyda’r Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt.