Mae grant gan Gronfa Bangor wedi cefnogi tîm cyfleoedd myfyrwyr Undeb Myfyrwyr Bangor i wella un o'i brif fannau i fyfyrwyr, gan drawsnewid ystafell gyfarfod yn hwb Undeb Bangor a oedd gynt yn cael ei thanddefnyddio yn ystafell amlbwrpas.
Ystafell gynadledda a chyfarfod oedd yr ystafell yn wreiddiol, ac mae bellach yn cyflawni dwy swyddogaeth - mae’n parhau i fod yn ddigon mawr i gynulliadau ffurfiol ac mae hefyd yn cynnig lleoliad pwrpasol i berfformiadau a hyfforddiant dan arweiniad myfyrwyr. Ym mis Ionawr 2025, gosodwyd drychau ar y wal, gan gynyddu hyblygrwydd ac apêl yr ystafell yn sylweddol. Ers hynny, mae clybiau a chymdeithasau myfyrwyr gan gynnwys karate, Jiu Jitsu Brasil, judo, dawns, rhwyfo a Cheerleading Pom wedi gwneud defnydd llawn o'r ystafell ar ei newydd wedd, gyda slotiau gyda'r nos ar gael o 5:00pm i 10:00pm. Cyn y gwaith trin, dim ond unwaith neu ddwywaith yr wythnos oedd yr ystafell yn cael ei defnyddio yn ystod yr hwyr.
Mae'r effaith wedi bod yn uniongyrchol ac yn bellgyrhaeddol. Mae'r drychau wedi galluogi clybiau a chymdeithasau myfyrwyr i fireinio coreograffi, ehangu cyfranogiad a gwella canlyniadau perfformiadau. Er enghraifft, dywedodd Cheerleading Pom bod eu hamgylchedd hyfforddi newydd wedi arwain at berfformiad llwyddiannus yn y gystadleuaeth Future Cheer, lle daethant yn 5ed.
Meddai un myfyriwr:
“Roeddem yn ffodus iawn o gael sesiwn hyfforddi ychwanegol yn yr hwb ar ôl i’r drychau gael eu gosod. Roedd yn help i’n tîm fireinio ein coreograffi a rhoi hwb i’n perfformiad yn Future Cheer. Mae’r drychau wedi gwneud ein hymarfer yn fwy effeithlon ac effeithiol
Yn yr un modd, nododd clwb Jiu Jitsu Brasil:
Mae defnyddio’r hwb gyda’n harcheb wreiddiol yn ystafell 2 wedi caniatáu i fwy o fyfyrwyr ddod i’n sesiynau. Gyda'r wal ddrychau ychwanegol, rydym wedi cyrraedd ein capasiti ac wedi gallu ehangu ar ein hyfforddiant. Mae wedi gwneud gwahaniaeth mawr.
Mae'r ystafell yn parhau i weithio fel y bwriadwyd yn wreiddiol. Mae llenni wedi cael eu gosod dros y drychau, sy’n golygu y gellir defnyddio’r ystafell i gynadleddau a darlithoedd, gan ei gwneud yn ystafell ddefnyddiol i'r brifysgol a'r gymuned leol. Mae'r newid ymarferol hwn yn dangos y math o gyfleusterau hyblyg, sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr, sy'n cefnogi amcanion ehangach Bangor.
Meddai Kathryn Hughes, Arweinydd Cyfleoedd Myfyrwyr Undeb Bangor:
Rydym yn hynod ddiolchgar am gefnogaeth Cronfa Bangor. Diolch i haelioni ein cyn-fyfyrwyr, rydym yn gallu creu cyfleoedd ystyrlon sydd o fudd uniongyrchol i'n myfyrwyr.
Mae Cronfa Bangor yn cynnwys rhoddion gan gyn-fyfyrwyr, ac mae’n cael ei gweinyddu gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr.
