91ƷϳԹ

Fy ngwlad:
Decorative image

Astudiaeth newydd yn tynnu sylw at yr angen brys am weithredu ar gam-drin domestig ym Mhort Talbot

Mae ein canfyddiadau’n tynnu sylw at y ffaith na ellir deall cam-drin domestig ym Mhort Talbot heb edrych ar y darlun cyflawn. Mae pwysau economaidd, darpariaeth gwasanaethau gyfyngedig, a stigma cymdeithasol yn croestorri i roi merched a theuluoedd mewn mwy o berygl. Siaradodd y merched a gymerodd ran yn ddewr yn yr astudiaeth hon am effaith ddinistriol rheolaeth drwy orfodaeth, yr heriau o gael mynediad at gefnogaeth amserol, a'r niwed hirdymor y mae cam-drin yn ei wneud i hunaniaeth, hyder a llesiant.

Dr Ceryl Davies

Cynhaliwyd y gwerthusiad mewn dau gam: grwpiau ffocws gyda gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio ym maes cyfiawnder troseddol, gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymunedol, ac yna cyfweliadau manwl gyda merched sy'n byw gydag effaith cam-drin. Disgrifiodd gweithwyr proffesiynol alw cynyddol am gefnogaeth ac anghenion cynyddol gymhleth ymhlith dioddefwyr-oroeswyr, gan rybuddio bod merched yn aml yn cael eu canfod yn rhy hwyr am ymyrraeth gynnar. Rhannodd merched hanesion personol o sut y gwnaeth rheolaeth drwy orfodaeth erydu eu hymdeimlad o’r hunan, gan eu gadael yn ynysig, wedi'u stigmateiddio ac yn ei chael hi'n anodd gadael perthynas gamdriniol.

Adfyfyriodd y cyfranogwyr hefyd ar eu profiadau o gefnogaeth broffesiynol, gan nodi, er bod gwasanaethau arbenigol yn cynnig arbenigedd ac empathi amhrisiadwy, fod systemau ehangach yn aml yn rhoi cyfrifoldeb ar ddioddefwyr-oroeswyr yn hytrach na throseddwyr. Disgrifiwyd y prinder lleoedd lloches, oedi wrth gael mynediad at gefnogaeth seicolegol a thai ansicr fel rhwystrau pellach i adferiad.

Er gwaethaf yr heriau hyn, cafodd gwasanaethau cymunedol ym Mhort Talbot ganmoliaeth eang am eu hymrwymiad a'u heffaith. Mae'r ymchwil yn pwysleisio'r angen dybryd am gyllid diogel, hirdymor, ffocws ar ymyriadau ar gyfer y rhai sy’n cam-drin, gwell dealltwriaeth o reolaeth drwy orfodaeth, a dull cymuned gyfan o atal ac ymyrryd.

Ychwanegodd Dr Davies, “Mae oedi mewn cefnogaeth seicolegol, lleoedd lloches cyfyngedig, a chyllid tymor byr yn rhoi merched a phlant mewn mwy o berygl.” Os ydym am fynd i’r afael â cham-drin domestig yn effeithiol, mae angen atal ac ymyrraeth gynnar, gwell ymwybyddiaeth o reolaeth drwy orfodaeth, a sicrhau cyllid ar gyfer y gwasanaethau arbenigol sy’n darparu cefnogaeth hanfodol.”

Mae'r astudiaeth yn galw am ymatebion strategol cryfach ar draws Castell-nedd Port Talbot, cynnwys gwasanaethau cam-drin domestig yn fwy mewn cynllunio iechyd, ac ymchwil bellach i olrhain anghenion hirdymor ac asesu costau economaidd cam-drin ledled Cymru, ac mae'r canfyddiadau'n tynnu sylw at yr angen i weithredu ar frys.