
Glenn Swain
PRIF HYFFORDDWR YR ACADEMI YN ADRAN FUTSAL Y BLOOMSBURY FOOTBALL FOUNDATION

A allwch ddisgrifio eich swydd bresennol a sut y cawsoch y swydd ar 么l graddio?
Ar hyn o bryd, rwy鈥檔 gweithio fel Prif Hyfforddwr yr Academi yn adran Futsal y Bloomsbury Football Foundation, sef sefydliad elusennol sy鈥檔 gweithio o amgylch Llundain Fwyaf yn hyrwyddo buddion corfforol, meddyliol a chymdeithasol chwaraeon a ph锚l-droed, yn enwedig i bobl ifanc. Ar 么l graddio, gwnes fanteisio ar y cyfle i fynd allan i America a gweithio鈥檔 llawn amser fel hyfforddwr p锚l-droed i Academi Ryngwladol CPD Lerpwl yn Ne Califfornia. Roedd hwn yn gyfle gwych i ennill profiad o fyw a gweithio mewn diwylliant newydd ac i ddatblygu fy annibyniaeth. Yn dilyn hyn, dychwelais i鈥檙 Deyrnas Unedig a dilynais radd Meistr mewn Arweinyddiaeth mewn Chwaraeon ym Mhrifysgol De Cymru. Yn ystod fy ngradd Meistr, cawsom ein hannog i ddilyn datblygiad proffesiynol yn y byd go iawn, felly dechreuais chwilio am gyfle i ddatblygu fy sgiliau arwain ymhellach, o fewn sector yr oeddwn yn ei fwynhau ac yn angerddol amdano, wrth weithio gyda mentor ac o fewn t卯m yr oeddwn yn teimlo y gallwn ddysgu llawer ohono, a dyna sut y cyrhaeddais Bloomsbury Football Foundation,
Sut mae eich gradd wedi cyfrannu at ddatblygiad eich gyrfa?
Astudiais Wyddorau Chwaraeon a Ffrangeg fel Cydanrhydedd ym Mhrifysgol Bangor, felly datblygais ddealltwriaeth dda o elfennau theori a phroffesiynol chwaraeon, yn arbennig datblygiad, wrth ddysgu mwy am wahanol ddiwylliannau a chael amrywiaeth o brofiadau trwy ochr Ffrangeg fy nghwrs.
Beth oedd yr her fwyaf ichi ei hwynebu wrth ddechrau eich gyrfa, a sut wnaethoch ei goresgyn?
Yr her fwyaf yr wyf wedi鈥檌 hwynebu hyd yn hyn yn fy ngyrfa oedd penderfynu a ddylwn barhau yn fy r么l lawn amser gyntaf, neu gamu鈥檔 么l ar 么l graddio. Gall fod yn anodd gadael swydd yr ydych yn teimlo eich bod wedi gweithio mor galed amdani, ac wedi gwneud gwahaniaeth drwyddi, yn 么l i'r ansicrwydd o beidio 芒 gwybod y cam nesaf. Fodd bynnag, gall parhau 芒鈥檙 gwaith caled ac ychwanegu鈥檔 gyson at eich profiadau eich arwain at lwybr newydd, a all fod hyd yn oed yn well.
A oes unrhyw sgiliau penodol o'ch cwrs yr ydych yn eu defnyddio'n rheolaidd yn eich swydd?
Rwyf wedi defnyddio llawer o鈥檙 sgiliau a ddysgais o鈥檙 cwrs yn rheolaidd yn fy swydd, megis gwybodaeth am gaffael sgiliau wrth hyfforddi chwaraewyr, cyfnodoli a chynllunio i arwain cynnydd dros gyfnodau amser penodol, a sgiliau cyfathrebu, boed gyda chyfoedion neu reolwyr yn y gwaith, chwaraewyr, neu randdeiliaid eraill.
Pa mor bwysig fu rhwydweithio yn nilyniant eich gyrfa?
Mae rhwydweithio yn rhywbeth rwy'n parhau i geisio ei ddatblygu'n weithredol, ac er nad yw rhwydweithio wedi cael effaith sylweddol ar fy natblygiad gyrfa hyd yn hyn, rwyf wedi gweld y gwahaniaeth y gall ei wneud i bobl eraill.
Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i raddedigion newydd sy'n ymuno 芒'r farchnad swyddi?
Byddwch yn amyneddgar wrth chwilio am rywbeth sy'n addas i chi, ond ceisiwch fanteisio ar gyfleoedd yn barhaus er mwyn parhau i ddatblygu eich hun, boed hynny trwy addysg bellach, cyrsiau, gwirfoddoli neu swyddi y gallwch ddysgu oddi wrthynt sy'n ymwneud 芒'ch maes dymunol.
A oes unrhyw gymwysterau proffesiynol neu dystysgrifau y byddech yn argymell i rywun eu cael?
Byddwn yn argymell ceisio sicrhau cymaint o gymwysterau ag y gallwch. Rwyf wedi dod o hyd i lawer o gymwysterau rhad ac am ddim, neu gymharol rad, y gallwch gofrestru i'w gwneud i helpu'ch datblygiad. Wrth gwrs, bydd rhai cymwysterau gofynnol amlwg a drytach o fewn eich taith dilyniant gyrfa, ond gall cymwysterau cysylltiedig, nad ydynt o reidrwydd yn hanfodol, helpu i'ch rhoi ar y blaen. Er enghraifft, wrth sicrhau fy mathodynnau hyfforddi p锚l-droed pellach, es hefyd ati i sicrhau rhai bathodynnau hyfforddi Futsal, ac mae hyn wedi fy arwain at fy swydd bresennol.
Ble mae鈥檙 cyfleoedd gyrfa mwyaf ym maes chwaraeon ac ymarfer ar hyn o bryd?
Mae byd Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn newid ac yn datblygu鈥檔 barhaus, felly mae鈥檔 anodd rhagweld y cyfleoedd gyrfa mwyaf. Rwy鈥檔 ceisio dilyn pethau rwy鈥檔 eu mwynhau ac yn gweld budd ohonynt, datblygu fy nghryfderau a鈥檓 sgiliau unigryw fy hun i鈥檙 lefel uchaf bosibl, a manteisio ar y cyfleoedd gyrfa sy鈥檔 codi o ganlyniad i hyn.
Beth fyddech chi鈥檔 ei ddweud wrth rywun sy鈥檔 ystyried dilyn gradd ym Mhrifysgol Bangor?
Byddwn yn dweud bod Prifysgol Bangor yn brifysgol anhygoel o ran cydbwyso Chwaraeon, Addysg a Chymdeithasu, wrth sicrhau鈥檙 gorau o'r tair elfen. Mae鈥檙 amrywiaeth sydd ar gael yn golygu bod ystod enfawr o bosibiliadau ar gael ichi, heb eich llethu. Llwyddais i gael profiadau anhygoel o ganlyniad i鈥檓 hamser ym Mhrifysgol Bangor, o鈥檙 pethau yr oeddwn yn eu disgwyl ac yn eu ceisio, i gyfleoedd na fyddwn erioed wedi鈥檜 rhagweld cyn dechrau yn y brifysgol.