Datblygu twristiaeth gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau鈥檙 dyfodol
Mae dynodi Llechi Cymru yng Ngogledd Cymru fel Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO wedi cadarnhau ei natur unigryw鈥檔 ddiwylliannol ac yn hanesyddol ac wedi hybu ei hap锚l i dwristiaid. Gyda鈥檙 bwriad o nodi anghenion a chanfyddiadau ar gyfer y dyfodol, archwiliwyd barn y genhedlaeth iau am arferion twristiaeth gynaliadwy yn y rhanbarth. Mae ein hargymhellion allweddol yn adlewyrchu canfyddiadau GenZ yn ystod 2023 a gallant fod yn berthnasol i鈥檞 hystyried gan awdurdodau lleol a sefydliadau eraill sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檙 sector twristiaeth sy鈥檔 gweithio yn ardal Llechi Cymru.
- Hwyluso gweithdai cyd-greu a fydd yn cynnwys pobl ifanc a rhanddeiliaid allweddol o'r sector cyhoeddus a phreifat gyda'r nod o drafod a datblygu syniadau creadigol yngl欧n 芒 hyrwyddo, datblygu a chyfleoedd ar y safleoedd.
- Hyrwyddo ymwybyddiaeth ymhlith cenhedlaeth Z am gymorth ariannol megis LleCHIlleNI gyda'r nod o ddatblygu a chychwyn syniadau a mentrau project.
- Gwneud archwiliad o鈥檙 holl brojectau/mentrau sy鈥檔 targedu cenhedlaeth Z sy鈥檔 annog (1) eu cyfranogiad mewn mentrau cymunedol trwy gymell a mentora, (2) ymgysylltu 芒 fforymau sy鈥檔 canolbwyntio ar ddyfodol economaidd-gymdeithasol Llechi Cymru, a (3) datblygu sgiliau/gyrfa.
- Datblygu strategaeth gyfathrebu a fforwm i bobl ifanc yrru eu hintegreiddiad cymunedol ac adeiladu eu hymwybyddiaeth o gyfleoedd/mentrau/digwyddiadau i weithredu鈥檙 cyfleoedd a amlygwyd yng Nghynllun Economi Ymwelwyr Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri fel sy鈥檔 berthnasol i鈥檙 gr诺p targed hwn.
- Cefnogi'r genhedlaeth iau i gyd-greu a chyflwyno gweithgareddau cynaliadwy sy'n cyfuno twristiaeth addysgol 芒 hamdden, e.e. teithiau cerdded tywys a dringo creigiau sy'n arddangos treftadaeth naturiol a diwylliannol yr ardal. Nid oes gan fentrau cyfredol sy'n cael eu cynnig gan sefydliadau fel Eryri-Bywiol / Snowdonia-Active yr elfen hon o gyd-greu a chyflawni.
- Archwilio ymarferoldeb defnyddio'r ceudyllau llechi i gynnal digwyddiadau ar gyfer/gan bobl ifanc (e.e. gwyliau, digwyddiadau cystadleuol ac ati) yn gysylltiedig 芒 statws UNESCO y safle.
- Gwerthuso, datblygu a mesur ymgyrchoedd ar-lein ac ar y safle gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo:
- twristiaeth gynaliadwy drwy wella ymwybyddiaeth ymwelwyr,
- arferion diogel wrth heicio/dringo,
- arwyddion deniadol a pherthnasol o amgylch y safleoedd.
- Gweithredu arferion creadigol o ran creu lle a dylunio amgylcheddol sy'n dehongli ac yn chwarae gyda phrofiadau synhwyraidd pobl, i wella profiadau ymwelwyr ac ennyn diddordeb y cymunedau yng nghyd-destun ehangach y safle (e.e., llwybr cerdded synhwyraidd gyda map a thaith sain).
- Archwilio technolegau Rhyngrwyd Pethau (IoT) i fonitro ymgysylltiad 芒 meysydd penodol, er enghraifft, mapiau rhyngweithiol.
Cyfunodd astudiaeth Prifysgol Bangor arbenigedd mewn ymchwil lle, treftadaeth, marchnata a chynaliadwyedd i:
- Archwilio persbectif y genhedlaeth iau o statws Llechi Cymru Gogledd Orllewin Cymru fel Safle Treftadaeth y Byd UNESCO (WHS).
- Deall eu barn am arferion twristiaeth gynaliadwy yn y rhanbarth.
Mabwysiadwyd dull gweithredu dulliau cymysg i ymgysylltu 芒 phobl ifanc (18-25 oed) sy鈥檔 frodorol i鈥檙 ardal, gan gyfuno un gr诺p ffocws ac 20 cyfweliad ag archwiliad netnograffig o ymddygiad ymgysylltu 芒 defnyddwyr ar-lein yn ymwneud 芒鈥檙 ardal Llechi Cymru ar rwydweithiau cyfryngau cymdeithasol (Twitter, Instagram, TikTok a Google).
Mae鈥檙 canlyniadau yn amlygu pedair thema allweddol: balchder yn nhreftadaeth Cymru, rhwymau o arwyddoc芒d personol, hynodrwydd a phriodoleddau lle, a chanfyddiadau cymunedol a chydnabyddiaeth fyd-eang. Drwy archwilio鈥檙 them芒u hyn o ddata disgwrs a gasglwyd ynghyd 芒 dadansoddiad o deimladau o ddata cyfryngau cymdeithasol a ddetholwyd, llwyddwyd i nodi鈥檙 argymhellion allweddol uchod.
Mae鈥檙 astudiaeth yn dangos bod y genhedlaeth iau frodorol yn falch o ardal Llechi Cymru a鈥檜 bod yn dangos ymlyniad emosiynol cryf wrth y lle, ei hanes, a鈥檜 treftadaeth hwythau. Roedd y cyfranogwyr yn gadarnhaol ac yn dathlu statws UNESCO y safle; ond er gwaethaf y manteision canfyddedig gan gynnwys cydnabyddiaeth fyd-eang, roedd ganddynt deimladau cymysg ynghylch sut y gallai'r statws newydd effeithio ar arferion twristiaeth gynaliadwy a nifer yr ymwelwyr, yr economi lleol a chymunedau unigryw'r safle. Dangosodd ein canfyddiadau fod pobl ifanc yn teimlo cysylltiad dwfn 芒 safleoedd y llechi o ran eu gwybodaeth hanesyddol ac mae eu mwynhad yn seiliedig ar hamdden, ffitrwydd a gweithgareddau cymdeithasol. Fodd bynnag, teimlai rhai nad yw eu lleisiau bob amser yn cael eu clywed, ac roedd ganddynt bryderon am y diffyg cyfleoedd mewn ardal wledig ac mewn rhai mannau difreintiedig. Mae cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr sy'n ymwneud 芒 thirwedd y llechi hefyd yn gadarnhaol ar y cyfan.
Y T卯m Ymchwil
Prif Ymchwilwyr
Cyd-ymchwilwyr
Map Gwres
Map Gwres yn nodi lleoedd poblogaidd yn yr ardal Tirwedd Llechi, yn seiliedig ar ddadansoddiad cyfryngau cymdeithasol (lleoliadau wedi'u 'tagio' ar Instagram).

Geiriau allweddol poblogaidd 'Tirwedd Llechi'
Allweddair/Term Chwilio (Mwy na 300 o grybwylliadau ar Twitter ac Instagram)
- Blaenau Ffestiniog Quarry
- Chwarel
- Cwm pennant
- Dinorwic slate quarry
- Dinorwig quarry
- Dyffryn Nantlle
- Llanberis Quarry
- Llechi Cymru
- Llyn Padarn
- Nantlle Ridge
- Nantlle Valley
- Penrhyn Quarry
- Slate Landscape
- Slate Mines of Wales
- Slate Mining
- Slate quarry
- Snowdonia Slate Trail
Edrych ymlaen/Syniadau ymchwil ar gyfer y dyfodol
- Archwilio canfyddiadau鈥檙 gymuned fusnes leol o鈥檙 Dirwedd Lechi ac i ba raddau y mae wedi rhoi hwb i鈥檙 economi leol.
- Archwilio safbwynt cenedlaethau h欧n yr ardal Tirwedd Llechi a鈥檌 Statws Treftadaeth y Byd newydd.
- Cymharu lefelau ymlyniad lleoedd tuag at bedwar Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yng Nghymru, ynghyd 芒鈥檜 llwyddiannau canfyddedig gan gymunedau lleol a鈥檜 heffeithiau ar dwristiaeth.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cydweithio 芒 ni, cysylltwch 芒 Sara (s.parry@bangor.ac.uk) neu Sonya (s.hanna@bangor.ac.uk).