Beth yw pwnc yr astudiaeth hon?
Gall diagnosis o ganser gael ei ohirio mewn gofal sylfaenol. Ein nod yw helpu meddygfeydd teulu i adnabod canserau posibl yn gynharach, gan arwain at ganlyniadau gwell i gleifion.
Rydym wedi datblygu pecyn addysgol ac ymddygiadol unigryw o'r enw 'ThinkCancer!'. Mae hyn yn cynnwys gweithdy tair awr i bob aelod o staff mewn t卯m meddygfa. Rydym wedi profi 'ThinkCancer!' mewn astudiaeth beilot fach yng Nghymru, a ddangosodd y gall weithio'n dda mewn gofal sylfaenol. Dysgom wersi pwysig am sut y dylid cyflwyno'r gweithdy, a'r ffyrdd gorau o gasglu gwybodaeth gan feddygfeydd.
Ein nod nawr yw cynnal treial mwy gyda 76 o feddygfeydd i brofi pa mor dda y mae ThinkCancer! yn gweithio ac a yw'n gost-effeithiol i'r GIG. Byddwn yn asesu effaith ThinkCancer! trwy fesur yr amser rhwng claf yn cysylltu 芒'u meddygfa gyffredinol gyntaf gyda symptom canser posibl a'u hatgyfeiriad i'r ysbyty. Gwyddys bod gostyngiad yn yr amser hwn yn gysylltiedig 芒 cham cynharach o ganser adeg diagnosis, angen llai o driniaeth, a chostio llai i'r GIG yn gyffredinol.
Contact
Mrs Nic Nikolic n.nikolic@bangor.ac.uk
Sponsor
91精品黑料吃瓜
Funder
Cancer Research Wales and North West Cancer Research