91精品黑料吃瓜

Fy ngwlad:
Sganiwr MRI - Uned Delweddu Bangor

Uned Delweddu Bangor

Mae gan Brifysgol Bangor gyfleuster delweddu biofeddygol o鈥檙 radd flaenaf, at ddefnydd ymchwil yn unig, a all ddatrys cymhlethdodau鈥檙 meddwl, yr ymennydd a鈥檙 corff dynol, ac archwilio ffyrdd o wella lles a lleddfu effaith anafiadau a chlefydau.

Mae Uned Delweddu Bangor yn gyfleuster ymchwil blaenllaw sy'n cynnwys labordy gyda sganiwr delweddu cyseiniant magnetig 3.0T a labordy ysgogi'r ymennydd anfewnwthiol wedi ei niwro-lywio sy'n galluogi ymchwil sylfaenol a chymhwysol i'r ymennydd a'r corff dynol.

Mae Uned Delweddu Bangor yn gysylltiedig 芒 Sefydliad Niwrowyddoniaeth Wybyddol a Sefydliad Ffisioleg Ddynol Gymhwysol Prifysgol Bangor. Lleolir y ganolfan yn y Coleg Meddygaeth ac Iechyd yng nghanol y campws ac mae鈥檔 cefnogi addysg anatomegol yn Ysgol Feddygol Gogledd Cymru a'r Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon.

Trwy ein cyrsiau hyfforddedig a鈥檔 hymchwil, mae myfyrwyr israddedig ac 么l-radd yn cael gyfle i gychwyn ar daith gyffrous o ddarganfod, gan ddysgu am fioleg ein rhywogaeth, a chyfoethogi eu dealltwriaeth o'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn ddynol. Rydym yn eich gwahodd i archwilio ein cyrsiau a鈥檔 hadnoddau, a chychwyn ar daith addysgol drawsnewidiol gydag Uned Delweddu Bangor.

Yngl欧n ag Uned Delweddu Bangor

Darganfod ac Arloesi - Them芒u Ymchwil

Mae ymchwil i ffisioleg ddynol yn datgloi cyfrinachau bywyd, gan drawsnewid gwybodaeth yn syniadau arloesol sy'n gwella, yn codi ac yn ysbrydoli dynoliaeth.

Rydym yn ceisio deall cyfansoddiad adeileddol, cemegol a swyddogaethol y corff dynol a'i holl systemau, gyda'r nod o ddeall beth yw cyflwr iach o gymharu 芒 chyflwr afiach neu anhwylder, a sut y gallwn weithio i atal ac atgyweirio niwed.

Mae ein hymchwilwyr wrthi'n astudio'r cysylltiad rhwng gweithgaredd yr ymennydd, cysylltedd a'r prosesau niwrocemegol a ffisiolegol sy'n sail i swyddogaeth niwral a phlastigrwydd.

Rydym yn gwneud hyn trwy weithio gydag unigolion sydd ag amrywiaeth o gyflyrau, gan gynnwys cyfranogwyr sydd ag anaf i鈥檙 ymennydd, rhai sydd wedi colli braich neu goes neu wedi cael anaf i fraich neu goes, a rhai sy鈥檔 cael anawsterau cymdeithasol a/neu heriau gyda lleferydd/iaith. Yn ogystal, rydym yn ymchwilio i effeithiau ffisiolegol sylfaenol ffactorau sy鈥檔 achosi straen corfforol ac amgylcheddol fel ymarfer corff, blinder a lefelau ocsigen isel.

Trwy edrych ar amrywiaeth eang o gyflyrau a dylanwadau amgylcheddol, byddwn yn cyflawni ein nod o sicrhau effaith ystyrlon, a chyfoethogi ein cymuned gyda'r wybodaeth angenrheidiol i fyw bywyd hir ac iach.

Ymchwilwyr                                                                                           

Mae ein hymchwilwyr yn arwain y byd o ran datblygu dulliau delweddu newydd i wella darganfyddiadau am niwrowyddoniaeth. Mae hyn yn cynnwys datblygu sbectrosgopeg cyseiniant magnetig proton dilyniannol i ymchwilio i ddeinameg niwrodrosglwyddydd, MRI llwybr lleisiol amser real i olrhain mynegiant lleferydd pobl gydag atal dweud a dulliau pwrpasol i wella signal -i-s诺n mewn ardaloedd o'r ymennydd sydd fel arall yn anodd eu cyrraedd ac sy'n ymwneud 芒 chof, iaith a gwybyddiaeth gymdeithasol.

Ymchwilwyr                                                                                           

Mae ein hymennydd yn hynod effeithlon wrth dynnu gwybodaeth gymhleth o'n hamgylchedd a'i defnyddio i arwain ein gweithredoedd. Mae hyn yn ein gwneud ni鈥檔 ystwyth a gwydn, ac mae ein gallu i ddatrys problemau a bod yn greadigol yn seiliedig ar hynny.

Mae ein hymchwilwyr yn astudio sut rydym yn prosesu mewnbynnau synhwyraidd, sut rydym yn rheoli ein hallbwn echddygol a sut rydym yn cadw gwybodaeth dros amser. Mae hyn yn cynnwys sut rydym yn prosesu teimladau corfforol a chanfyddiad o'r hunan.

Rydym yn gweithio gyda phoblogaethau amrywiol, gan gynnwys plant, oedolion, unigolion h欧n a
phobl gyda chyflyrau niwrolegol neu ddatblygiadol, a phobl gydag anableddau corfforol.

Mae'r ymchwil hwn yn mynd i'r afael 芒 heriau'r byd go iawn megis gwella strategaethau adsefydlu ar gyfer anafiadau neu anhwylderau, a chyfrannu at dechnolegau fel deallusrwydd artiffisial a rhyngwynebau dynol-cyfrifiadurol. Mae deall y prosesau hyn yn meithrin arloesi mewn gofal iechyd a gwneud penderfyniadau bob dydd.

Ymchwilwyr                                                                                           

Mae bodau dynol yn gymdeithasol iawn ac mae rhyngweithio 芒'i gilydd yn hanfodol ar gyfer ein lles.

Mae gennym ddiddordeb gwybod sut mae ein hymennydd yn gwneud synnwyr o bobl eraill, eu geiriau a鈥檜 gweithredoedd, a鈥檙 prosesau sy鈥檔 sail i gynhyrchu lleferydd ac iaith, mynegiant yr wyneb ac ystumiau鈥檙 corff. Rydym hefyd yn astudio'r ffordd y mae bodau dynol yn rhyngweithio 芒 robotiaid a pheiriannau.

Mae ein hymchwilwyr yn astudio gwybyddiaeth gymdeithasol ac iaith gydol oes, mewn babanod a鈥檙 glasoed, mewn pobl sy鈥檔 heneiddio, yn ogystal ag yng nghyd-destun niwroamrywiaeth, ac mewn clefydau ac anaf i鈥檙 ymennydd.

Rydym yn rhagweld y byddwn yn defnyddio canfyddiadau ein hymchwil i helpu pobl i reoli eu
hanableddau iaith a鈥檜 hanawsterau cymdeithasol.

Ymchwilwyr                                                                                           

Myfyriwr, darlithydd a chlaf wrth y sganer

Cymryd Rhan mewn Ymchwil

Mae arnom angen eich help i wneud ymchwil arloesol.

Mae ein huned yn chwilio am wirfoddolwyr i amrywiaeth o brojectau gwyddonol sy'n cynnwys offer delweddu uwch, fel ein sganiwr MRI. Mae ein projectau yn cynnwys arbrofion unwaith yn unig ac astudiaethau mewn mwy nag un rhan ac astudiaethau tymor hwy.

Mae astudiaethau weithiau'n cynnig gwobr am gymryd rhan, megis t芒l neu daleb.

Mae鈥檙 meini prawf cymhwyster yn amrywio i bob astudiaeth (e.e. oedran, rhyw), a ch芒nt eu hamlinellu gan ymchwilwyr wrth recriwtio.

Yn ein huned, defnyddir data at ddibenion ymchwil ac addysgol yn unig, ac nid yw ein staff yn darparu cyngor na thriniaeth feddygol.

T卯m Uned Delweddu Bangor

Mae Uned Ddelweddu Bangor yn gartref i gymuned ryngddisgyblaethol brysur o niwrowyddonwyr, ffisiolegwyr, ffisegwyr a chlinigwyr sy'n ymgymryd ag ymchwil sylfaenol a chymhwysol. Mae proffiliau鈥檙 prif ymchwilwyr unigol i'w gweld yn y gwymplen isod, ac o dan y pennawd Them芒u Ymchwil.

Cyfarwyddwr academaidd, a phwyllgor sy'n cynnwys uwch ffisegydd a staff o鈥檙 gwasanaethau proffesiynol, sy'n gyfrifol am reoli Uned Delweddu Bangor yn strategol a gweithredol. Ceir rhagor o wybodaeth am yr unigolion hyn isod.
 
Monitor Niwro-ddelweddu

Grymuso Gweithwyr Proffesiynol y Dyfodol Graddau mewn Cydweithrediad ag Uned Delweddu Bangor

Mae Uned Delweddu Bangor yn cefnogi addysg ym Mhrifysgol Bangor ac yn cyfrannu at gyrsiau yn yr Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon:

Cyfleusterau

Mae delweddu yn caniat谩u i ni ddeall y corff byw a'r ymennydd sy'n ysgogi darganfyddiadau y gellir eu defnyddio i wella bywydau pobl a chanlyniadau iechyd. Mae Uned Delweddu Bangor yn cynnwys system MRI 3T Philips 鈥淓lition X鈥, ers mis Gorffennaf 2019. Mae'r llwyfan MRI corff cyfan cenhedlaeth newydd hwn yn galluogi delweddu o鈥檙 corun i鈥檙 sawdl gyda signal-i-s诺n uchel a chydraniad gofodol uchel. Gyda chyflymder uchel, graddiannau uchel, SENSE cywasgedig a delweddu aml-fand cydamserol, mae'r Elition 3T yn galluogi mwy o gydraniad amserol ar gyfer caffaeliadau swyddogaethol a delweddu cyflymach yn gyffredinol.

Mae'r Elition X yn dod ag amrywiaeth drawiadol o ddilyniannau delweddu datblygedig, gan ganiat谩u mapio cydraniad uchel o strwythur (DTI, DSI a thractograffi gwynnin) a metaboledd (labelu sbin rhydwel茂ol ar gyfer llif gwaed cerebrol, angiograffi, sbectrosgopeg cyseiniant magnetig (MRS), a throsglwyddiad proton amidau (APT)).

Er ein bod yn canolbwyntio'n bennaf ar yr ymennydd a鈥檙 system nerfol ganolog, mae gan Uned Delweddu Bangor hefyd gasgliad llawn o dechnegau delweddu cyhyrysgerbydol, cardiaidd, arennol a pherifferol sydd ar gael, sy'n caniat谩u ymchwilio i systemau organau eraill.

Mae鈥檙 ategolion perifferol yn cynnwys:

  • cyfrifiaduron danfon ysgogiad arbenigol
  • dyfeisiau rhyngwyneb cyfranogwr pwrpasol
  • mesuriadau statws ffisiolegol (SpO2, ETCO2, resbiradaeth, VCG)
  • systemau cyflwyno gweledol a chlywedol gwell
  • offer ymarfer corff pwrpasol
  • systemau dadansoddi delweddau i fyfyrwyr sy鈥檔 gwneud ymchwil

Beth allwn ei ddysgu o ddefnyddio'r dechneg hon?

Mae MRI yn galluogi ymchwil ar drefniadaeth a swyddogaeth organau cymhleth fel yr ymennydd, yr

arennau a'r cyhyrau a sut mae profiad, ymarfer corff ac afiechyd yn effeithio ar hyn.

Sut gall ymchwilwyr gael mynediad at y cyfleuster hwn?

Mae gennym gyfres sefydledig o weithdrefnau mewnol i hyfforddi ymchwilwyr, rheoli moeseg a llywodraethu ymchwil. Os ydych yn ymchwilydd allanol, yn gwmni neu'n sefydliad cymunedol sydd 芒 diddordeb mewn defnyddio neu ddysgu mwy am gyfleusterau Uned Delweddu Bangor, cysylltwch 芒 chyfarwyddwr yr uned a fydd yn rhoi gwybod i chi am y cyfleoedd. Fel arall, gallwch ddod o hyd i gydweithiwr addas o'r rhestr o brif ymchwilwyr a chysylltu 芒 hwy yn uniongyrchol.

Wrth ddefnyddio'r sganiwr MRI i gymryd delweddau o'r ymennydd, mae'n hanfodol bwysig bod cyfranogwyr yn cadw eu pen (a'u corff) mor llonydd 芒 phosib. Bwriad y sganiwr ffug yw galluogi cyfranogwyr, yn enwedig plant, i ymgyfarwyddo 芒 bod mewn sganiwr.

Mae ein sganiwr ffug o'r radd flaenaf, ac m ae ganddo system sain i chwarae synau sganiwr a MoTrak, meddalwedd sy'n caniat谩u olrhain symudiadau manwl o鈥檙 pen.

Beth allwn ei ddysgu o ddefnyddio'r dechneg hon?

Mae MRI yn galluogi ymchwil ar drefniadaeth a swyddogaeth organau cymhleth fel yr ymennydd a sut mae profiad ac afiechyd yn effeithio ar hyn.

Sut gall ymchwilwyr gael mynediad at y cyfleuster hwn?

Mae gennym gyfres sefydledig o weithdrefnau mewnol i hyfforddi ymchwilwyr, rheoli moeseg a llywodraethu ymchwil. Os ydych yn ymchwilydd allanol, yn gwmni neu'n sefydliad cymunedol sydd 芒 diddordeb mewn defnyddio neu ddysgu mwy am gyfleusterau Uned Delweddu Bangor, cysylltwch 芒 chyfarwyddwr yr uned a fydd yn rhoi gwybod i chi am y cyfleoedd. Fel arall, gallwch ddod o hyd i gydweithiwr addas o'r rhestr o brif ymchwilwyr a chysylltu 芒 hwy yn uniongyrchol.

Mae delweddu yn caniat谩u i ni ddeall y corff byw a'r ymennydd sy'n ysgogi darganfyddiadau y gellir eu defnyddio i wella bywydau pobl a chanlyniadau iechyd. Mae gan Uned Delweddu Bangor ddyfais fNIRS gludadwy sy'n gydnaws 芒 MRI sy'n caniat谩u i lif gwaed yr ymennydd a statws ocsigeniad gael eu casglu yn y sganiwr MRI ac mewn lleoliadau amgylcheddol mwy naturiolaidd. Mae hyn yn ein galluogi i archwilio effeithiau amrywiaeth o ffactorau sy'n achosi straen gan gynnwys tymheredd, ymdrech, diffyg hylif ac effaith clefydau. Mae'r ddyfais hefyd yn caniat谩u amrywiaeth o lwybrau ymchwil eraill - arbrofion niwroadborth i wella effeithlonrwydd yn seiliedig ar dasgau, monitro ymatebion ymenyddol mewn astudiaethau ffarmaco - ffisioleg a monitro newidiadau swyddogaethol mewn adsefydlu galwedigaethol ar 么l cael anaf i'r ymennydd.

Mae gennym offer cyflenwol i drin a mesur agweddau eraill ar ffisioleg sylfaenol, gan gynnwys:

  • mwy o ymdrech (beic ymarfer sy'n gydnaws ag MRI),
  • newidiadau yn yr awyrgylch (dyfais danfon nwy sy鈥檔 gydnaws ag MRI),
  • cyfradd curiad y galon, pwysedd gwaed ac ocsigeniad gwaed (monitro ffisiolegol sy'n gydnaws ag MRI).

Beth allwn ei ddysgu o ddefnyddio'r dechneg hon?

Mae fNIRS yn galluogi ymchwil i鈥檙 modd y mae ocsigeniad gwaed yn yr ymennydd yn ymateb i weithgaredd meddyliol neu gorfforol ac, er enghraifft, sut mae meddyginiaeth neu afiechyd yn effeithio arno. Mae'n ddewis arall i archwilio gweithrediad ymennydd pobl neu gyd -destunau amgylcheddol nad ydynt yn addas iawn ar gyfer MRI.

Sut gall ymchwilwyr gael mynediad at y cyfleuster hwn?

Mae gennym gyfres sefydledig o weithdrefnau mewnol i hyfforddi ymchwilwyr, rheoli moeseg a llywodraethu ymchwil. Os ydych yn ymchwilydd allanol, yn gwmni neu'n sefydliad cymunedol sydd 芒 diddordeb mewn defnyddio neu ddysgu mwy am gyfleusterau Uned Delweddu Bangor, cysylltwch 芒 chyfarwyddwr yr uned a fydd yn rhoi gwybod i chi am y cyfleoedd. Fel arall, gallwch ddod o hyd i gydweithiwr addas o'r rhestr o brif ymchwilwyr a chysylltu 芒 hwy yn uniongyrchol.

Trwy ymyrryd dros dro 芒 gweithgaredd trydanol yr ymennydd, mae NiBS yn caniat谩u i ni weld sut mae gwahanol rannau'n pweru ein meddwl, ein gweithredoedd a'n hemosiynau. Mae Uned Delweddu Bangor drws nesaf i labordy ysgogi鈥檙 ymennydd, sy鈥檔 cynnwys symbylyddion magnetig trawsgreuanol lluosog, symbylyddion trawsgreuanol uniongyrchol/cerrynt eiledol, a system niwro-llywio Brainsight ar gyfer ysgogiad ymennydd swyddogaethol ac anatomegol dan arweiniad MRI. Mae ein system Brainsight yn cynnwys modiwl EMG dwy sianel sy'n galluogi delweddu a chofnodi hyblyg o botensial a ysgogir yn echddygol (MEP). Mae gennym amrywiaeth eang o goiliau Ysgogi Trawsgreuanol Magnetig, gan gynnwys y 鈥渃oil c么n鈥 Magstim D11 arbenigol ar gyfer ysgogi ar ddyfnderoedd mwy, coil wedi ei oeri, a choiliau 鈥済l枚yn byw鈥 lluosog o wahanol ddiamedrau a ffurfweddiadau dolen.

Mae ein system Magstim Rapid Plus yn arbennig ar gyfer ysgogi trawsgreuanol magnetig ailadroddus amledd uchel, sy'n ddefnyddiol ar gyfer newid 'cyflwr' swyddogaethol ardal ymennydd dros dro. Defnyddir y dull hwn, er enghraifft, gydag arbrofion ysgogi trawsgreuanol magnetig 'all-lein', lle defnyddir ysgogi trawsgreuanol magnetig cyn i'r cyfranogwr gyflawni'r dasg a ddefnyddir i brofi鈥檙 effeithiau a ragwelir.

Mae ein system Magstim Bi-Stim yn arbennig ar gyfer cymwysiadau ysgogi trawsgreuanol magnetig pwls p芒r, ac mae'n fwy addas ar gyfer amcangyfrif newidiadau ffisiolegol a achosir gan ysgogi trawsgreuanol magnetig, fel MEPs. Mae'r nodweddion hyn yn ategu ein system Rapid Plus, gan ailadroddus amledd uchel a ragfynegir ar ffisioleg echddygol.

Beth allwn ei ddysgu o ddefnyddio'r dechneg hon?

Mae NiBS yn ein helpu i ddeall gweithrediad yr ymennydd, cysylltedd yr ymennydd a chyfraniad achosol rhanbarthau penodol yr ymennydd at ymddygiad a gwybyddiaeth.

Sut gall ymchwilwyr gael mynediad at y cyfleuster hwn?

Mae gennym gyfres sefydledig o weithdrefnau mewnol i hyfforddi ymchwilwyr, rheoli moeseg a llywodraethu ymchwil. Os ydych yn ymchwilydd allanol, yn gwmni neu'n sefydliad cymunedol sydd 芒 diddordeb mewn defnyddio neu ddysgu mwy am gyfleusterau Uned Delweddu Bangor, cysylltwch 芒 chyfarwyddwr yr uned a fydd yn rhoi gwybod i chi am y cyfleoedd. Fel arall, gallwch ddod o hyd i gydweithiwr addas o'r rhestr o brif ymchwilwyr a chysylltu 芒 hwy yn uniongyrchol.

myfyriwr gyda cap ymenydd

Canolfan Anatomeg Ddynol Gogledd Cymru

Mae gan Uned Delweddu Bangor fynediad at adnoddau o'r radd flaenaf i ddysgu anatomeg ddynol. Mae hyn yn cynnwys deunydd celaneddol traddodiadol ochr yn ochr 芒 modelau ffisegol 3D a thechnoleg dyrannu rhithwir blaengar.

Uned Delweddu Bangor, Adeilad Brigantia, Ffordd Penrallt, Prifysgol Bangor, LL57 2AS

Cysylltwch 芒 ni

Uned Delweddu Bangor
Adeilad Brigantia Ffordd Penrallt
Prifysgol Bangor LL57 2AS

Cyfarwyddwr - Dr Richard J. Binney, Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon

Uwch Dechnegydd -

Uned Delweddu Bangor, Adeilad Brigantia, Ffordd Penrallt, Prifysgol Bangor, LL57 2AS