Mae'r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg, Prifysgol Bangor, yn falch iawn o gyhoeddi partneriaeth newydd gyffrous gydag UKESF <https://www.ukesf.org/> (UK Electronics Skills Foundation). Eu prif nod yw annog mwy o bobl ifanc i astudio Electroneg ac i ddilyn gyrfaoedd yn y sector. Mae'r bartneriaeth ffurfiol hon yn cadarnhau perthynas sydd eisoes wedi'i sefydlu 芒'谤 UKESF pan wnaethom gynnal 'Demystifying Semiconductors: Exploring the Technology behind modern Electronics' ym mis Ebrill 2024.
Mae'r Ysgol yn arbennig o gyffrous i ymgysylltu 芒'谤 Cynllun Ysgoloriaethau <https://www.ukesf.org/scholarship-scheme/> arobryn ar gyfer israddedigion. Mae'r Cynllun wedi'i ddatblygu mewn cydweithrediad 芒 chyflogwyr blaenllaw i gefnogi israddedigion i ennill profiad a datblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo ym maes Electroneg. Mae mwy na 900 o fyfyrwyr wedi cymryd rhan yn y Cynllun sy'n paratoi israddedigion ar gyfer diwydiant drwy raglen 'lapio o gwmpas', gan gynnwys lleoliadau gwaith a gweithdy datblygu sgiliau proffesiynol. Mae rhai o fanteision y Cynllun yn cynnwys bwrsariaeth flynyddol o 拢1,000, lleoliadau gwaith 芒 迟丑芒濒, a lle 芒 迟丑芒濒 yng Nghwrs Datblygiad Proffesiynol preswyl UKESF. Mae'r Ysgol yn gyffrous y bydd ein myfyrwyr israddedig mewn Peirianneg Electronig nawr yn gallu gwneud cais am y Cynllun hwn ym mlwyddyn academaidd 2025/26.
Dywedodd yr Athro William Heath, Pennaeth yr Ysgol am y bartneriaeth "Rydym yn falch iawn o fod yn ymuno 芒 UKESF fel partner. Mae'r Ysgol bob amser yn edrych ar ffyrdd o weithio'n agosach gyda diwydiant, ac mae'r Cynllun Ysgoloriaeth yn gyfle euraidd i wneud hynny a bydd yn agor llawer o ddrysau i'n myfyrwyr yn y diwydiant Electroneg."
Ychwanegodd Dr Daniel Roberts, Arweinydd Rhaglen y cwrs israddedig Peirianneg Electronig,
"Mae wedi bod yn uchelgais gan yr Ysgol i annog mwy o bobl ifanc i astudio a dilyn gyrfa ym maes Electroneg ers nifer o flynyddoedd gyda'i rhaglen allgymorth, a bydd y bartneriaeth 芒'谤 UKESF yn ein galluogi i gryfhau'r nod yma. I'n myfyrwyr israddedig, bydd gallu gwneud cais am Gynllun Ysgoloriaeth UKESF yn ehangu eu sgiliau ac yn agor drysau i yrfa yn y diwydiant Electroneg."
