Nod project gwlyptir Caer yw creu amrywiaeth o gynefinoedd gwlyptir mewn parc gwledig sydd ynghlwm wrth ysbyty'r ddinas a thir cyfagos.
Mae'r Athro Christian Dunn yn un o gyd-sylfaenwyr y project ac mae myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi bod yn rhan o ddatblygu'r cynlluniau ac wedi casglu sawl blwyddyn o ddata sylfaenol ar y safle.
鈥淢ae鈥檔 bleser o鈥檙 mwyaf gweld gwlyptir Caer yn cyrraedd y cam cynllunio,鈥 meddai鈥檙 Athro Dunn.
鈥淕wlyptiroedd yw uwch-arwyr natur o ran cynyddu bioamrywiaeth, rheoli d诺r, lleihau llygredd a storio carbon. Ond maen nhw'n cael eu hanwybyddu鈥檔 aml ac nid yw pobl yn meddwl am grwydro ynddynt.
鈥淏ydd gwlyptir Caer yn dod ag amrywiaeth o gynefinoedd gwlyptir gwahanol i mewn i hoff barc Caer, fel y gall pawb eu mwynhau.鈥
鈥淢ae myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi bod yn ganolog i鈥檙 project hwn - gan gynnal arolygon ecolegol, monitro ansawdd d诺r a modelu hydrolegol sy鈥檔 sail i鈥檙 cynllun,鈥 meddai鈥檙 Athro Dunn.
Mae Sw Caer yn cefnogi gwlyptir Caer fel rhan o'i raglen 鈥楴etworks for Nature鈥, ac yn ddiweddar cyflwynodd yr Athro Dunn y cynlluniau yn nigwyddiad 鈥淣ature Fest鈥 y sw.
Mae partneriaid eraill sy'n cefnogi'r yn cynnwys Cheshire West and Chester Council, The Land Trust, Friends of Countess of Chester Country Park, Asiantaeth yr Amgylchedd a'r cwmni ymgynghori amgylcheddol, Binnies UK.
Mae Prifysgol Bangor yn cynnig graddau amrywiol i fyfyrwyr sydd eisiau dysgu am greu a rheoli ecosystemau naturiol 鈥 ewch i bangor.ac.uk/sens am ragor o wybodaeth.
