Y Profiad Astudio 脭l-raddedig
Mae'r meddylfryd o ennill gradd uwch drwy ymchwil wedi cael ei weld fel rhoi cyfle i wneud cyfraniad gwreiddiol i ymchwil ac ysgolheictod trwy raglen o hyfforddiant ymchwil sy'n arsylwi safonau deallusol trwyadl.
Ond bellach, mae鈥檙 ddelfryd hon yn cael ei gweld mewn termau ehangach: mewn rhai disgyblaethau academaidd, mae ymchwil 么l-raddedig yn cynnig y cyfle i wella a datblygu rhinweddau fel:
- gallu artistig creadigol
- meddwl yn feirniadol
- cyfrifoldeb proffesiynol
- sgil trefniadol
- hyfedredd mewn cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig
Mae hyfforddiant trylwyr yn y broses o ymchwilio a chaffael sgiliau trosglwyddadwy a rhyngbersonol hefyd yn cael ei gynnig. Mewn disgyblaethau academaidd eraill, nod ymchwil wyddonol yw cynyddu dealltwriaeth o'r byd naturiol gan ddefnyddio methodolegau, y gellir eu diffinio fel profi damcaniaethau trwy arsylwi neu arbrofi.
Dewis Gradd Ymchwil Addas
Mae'n bwysig cofio, pa bynnag raglen a ddewiswch, y byddwch yn gweithio ar lefel astudio uwch y tu hwnt i'r hyn y gallech fod wedi'i brofi ar gyrsiau meistr neu radd israddedig. Wrth i鈥檆h gyrfa ymchwil 么l-raddedig ddatblygu, bydd disgwyl i chi ddyfnhau eich gwybodaeth pwnc-benodol a datblygu eich ymwybyddiaeth feirniadol o ddadleuon ymchwil sy鈥檔 llywio eich maes ymchwil dewisol. Byddwch hefyd yn cronni gwybodaeth werthfawr o sgiliau a methodolegau ymchwil uwch ac yn darganfod mathau newydd o ddealltwriaeth gysyniadol, gan ganiat谩u i chi werthuso ac archwilio damcaniaethau newydd. Ar y lefel uchel hon o ymchwil, byddwch yn dysgu sut i fod yn hyblyg wrth reoli eich prosiect, gan drafod heriau a chanfyddiadau annisgwyl.
Mae nifer o lwybrau ym Mangor i ddewis ohonynt ar gyfer eich rhaglen ddoethuriaeth. Bydd angen i chi benderfynu a ydych am ddilyn eich rhaglen yn llawn amser neu鈥檔 rhan amser (cofiwch y gallwch symud rhwng y moddau hyn yn ystod eich amser ym Mangor). Efallai y byddwch am weithio'n llawn amser yn y brifysgol neu efallai y byddwch am gyfuno astudio 芒 chyfnodau mewn sefydliad arall neu mewn man cyflogaeth allanol. Os ydych eisoes yn ysgolhaig/awdur cyhoeddedig, efallai yr hoffech ystyried gwneud cais am PhD trwy Gyhoeddiadau neu efallai yr hoffech ddilyn eich cwrs yn gyfan gwbl trwy ddysgu o bell. Bydd y llwybrau hyn yn dibynnu, wrth gwrs, ar natur eich prosiect arfaethedig a fformat y rhaglen ym Mangor. Cyn i chi wneud cais, ewch ymlaen a chysylltwch 芒'r aelod staff academaidd perthnasol i drafod eich dewisiadau.
Cymharu Graddau Ymchwil 脭l-raddedig
GRADD YMCHWIL 脭L-RADDEDIG | AMSER (gellir trafod opsiynau rhan-amser cyfatebol) | YMCHWIL |
---|---|---|
MScRes./MRes. Meistr trwy Ymchwil |
Blwyddyn (Llawn Amser) |
a/neu
|
MPhil Meistr Athroniaeth |
2 Flynedd (Llawn Amser) |
a/neu
|
Y Ddoethuriaeth (PhD) Doethur mewn Athroniaeth Y Ddoethuriaeth Broffesiynol
|
Fel arfer, 3 mlynedd (Llawn Amser) |
|
PhD (Cyhoeddiadau) | Blwyddyn o gofrestru (Llawn Amser) |
|
Yr Amgylchedd Ymchwil
Mae ymchwilwyr 么l-raddedig llwyddiannus yn hunanddibynnol, yn drefnus ac yn gallu defnyddio amrywiaeth o adnoddau mewnol. Mae'r amgylchedd deallusol o bwysigrwydd arbennig, sy'n deillio o bresenoldeb cymuned 么l-raddedig a chyfranogiad gweithredol gwych gan staff. Yn ogystal, gall ymchwilwyr 么l-raddedig ddysgu llawer yn ystod gwaith arbrofol neu arsylwi gan eu goruchwylwyr.
Mae'n bwysig i ymchwilwyr 么l-raddedig ddatblygu perthynas dda gyda eu goruchwyliwr. Gall nhw fod yn oruchwylydd ffurfiol neu'n aelod arall o bwyllgor goruchwylio. Dylai'r berthynas nid yn unig gynnwys arweiniad cychwynnol a chyngor diweddarach, ond gall hefyd alluogi ymchwilydd 么l-raddedig i gael mynediad at adnoddau ymchwil prin. Gall hyn ddigwydd trwy gyllid a ddarperir i staff mewn rhaglenni grant ymchwil cenedlaethol a rhyngwladol. Lle bo'n briodol, bydd goruchwylwyr yn cyflwyno eu hymchwilwyr 么l-raddedig i staff technegol, gweinyddol ac archifol, sy'n gallu darparu cymorth gyda phrosiect. Wrth gwrs, bydd ansawdd y cymorth hwn yn cael ei gyfoethogi trwy gael perthynas waith dda gyda'r staff hyn.