Arbenigwyr o Brifysgol Bangor ar genhadaeth i ddarparu rhyddhad rhag clefyd y gwair i filiynau o bobl
Mae ymchwilwyr o ogledd Cymru yn astudio DNA paill er mwyn rhoi gobaith newydd i filiynau o bobl sy'n dioddef o glefyd y gwair ledled y DU.
Mae'r adeg o'r flwyddyn eto pan fydd clefyd y gwair yn achosi llygaid coch, trwyn yn rhedeg a phyliau o disian i un o bob pump o bobl - ond cyn bo hir mae'n bosib bydd gan wyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor ateb i'r 13 miliwn o bobl yn y DU sy'n dioddef o glefyd y gwair.
Cafodd eu gwaith ar olrhain y mathau o baill sydd yn yr awyr ar unrhyw adeg benodol sylw ar yr One Show wythnos ddiwethaf wrth i glefyd y gwair gyrraedd ei uchafbwynt ledled y DU.
Mae'r gwaith yn golygu bod rhaid iddynt allu gwahaniaethu rhwng byswellt a maswellt penwyn, a rhwng rhonwellt a chyffonwellt y maes, oherwydd bod gan wahanol bobl alergedd i wahanol fathau o wair.
Mae hyn yn bwysig oherwydd bod clefyd y gwair yn costio dros 拢7 biliwn y flwyddyn i economi Prydain gan fod tair miliwn o bobl yn cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith gyda'r symptomau mwyaf difrifol.

Meddai: 鈥淩wy鈥檔 dioddef yn ddrwg o glefyd y gwair ac wedi gwneud ers 33 mlynedd ac mae fy ngwraig yn dioddef hefyd, ond paill gwair sy'n effeithio arnaf i a phaill coed sy'n effeithio arni hi.
鈥淢ae hyn yn rhywbeth sy'n fwy cyffredin yn Sgandinafia lle mae gan fwy o bobl alergedd i baill coed, yn enwedig coed bedw, ac mae coedwigoedd bedw enfawr yno.鈥�
Fel rhan o'u hymchwil mae'r t卯m ym Mangor yn gweithio gyda'r Swyddfa Feteorolegol ac wedi defnyddio trapiau casglu paill ledled y DU yn ystod y blynyddoedd diwethaf fel y gallant ddarganfod pa fath o baill sydd yn yr awyr ar adeg benodol.
Yna gallant groesgyfeirio'r wybodaeth honno gyda data o feddygfeydd teulu ac ysbytai ledled y wlad a fydd yn dangos pan fydd pobl yn gofyn am wrth-histaminau i frwydro yn erbyn clefyd y gwair ac yn dioddef symptomau mwy difrifol pan fydd paill yn gwaethygu symptomau asthma.
Yn anffodus hyd yn oed o dan ficrosgop pwerus iawn mae un math o baill gwair yn edrych yn union yr un fath ag un arall felly mae'r t卯m wedi troi at ddefnyddio proffiliau DNA i wahaniaethu rhyngddynt.
Meddai'r Athro Creer: 鈥淩ydym eisoes yn gweld rhagolygon y tywydd yr adeg hon o鈥檙 flwyddyn yn nodi pan fydd lefelau paill yn isel, yn ganolig neu'n uchel ond yn y dyfodol byddwn yn gallu ychwanegu gwybodaeth am y gwahanol fathau o baill sydd o gwmpas at y wybodaeth honno.
鈥淥s gallwn adnabod y rhywogaethau o wair sy鈥檔 cyfrannu mwy at y llwyth alergenig yna mae hynny鈥檔 holygu y gallwn geisio osgoi鈥檙 rhywogaethau hynny lle bynnag y bo modd.
鈥淥s byddwn yn gweld cynnydd mewn math arbennig o baill ar yr un pryd ag y mae clefyd y gwair yn cynyddu, bydd modd gweithio allan ble mae'r mannau gwaethaf a pha baill sydd yn yr ardal honno.鈥�
Mae'r t卯m o Fangor yn gweithio ar y cyd 芒 nifer o sefydliadau eraill i helpu'r Swyddfa Feteorolegol i ddarparu rhagolygon gwell ac arwain at driniaethau mwy pwrpasol i ddioddefwyr clefyd y gwair a fyddai hefyd yn gwybod pan fyddant mewn mwyaf o berygl.
Mae hyn oherwydd bod 175 o wahanol rywogaethau o wair yn y DU - ledled y byd ceir 12,000 - ac mae eu proffiliau alergenig i gyd yn wahanol felly mae rhai yn fwy tebygol nag eraill o achosi clefyd y gwair.
Mae gwair gwahanol yn blodeuo ac yn rhyddhau paill ar wahanol adegau ac er y gall paill bara am amser hir, mae'n gwasgaru'n eithaf cyflym fel nad yw'n bresennol ar 么l ychydig wythnosau ac yna mae gwahanol rywogaethau yn ei ddilyn.
Meddai'r Athro Creer: 鈥淩wy鈥檔 cael fy effeithio fwy ddiwedd mis Mai a dechrau mis Mehefin ond mae union amseriad brig y tymor yn wahanol bob blwyddyn.
鈥淕all y cyfrif paill fod yn uchel er nad yw pobl yn dioddef symptomau, felly petasem yn gallu darparu gwybodaeth fwy manwl byddai'n helpu pobl i osgoi'r adegau hynny pan fydd clefyd y gwair yn effeithio fwyaf arnynt.
鈥淕allai hyd yn oed gael ei ymestyn i wneud argymhellion i wneuthurwyr tywarch a chynhyrchwyr hadau glaswellt yngl欧n 芒 pha rywogaethau o wair sy'n llai cysylltiedig 芒 symptomau clefyd y gwair.
鈥淕allai hynny olygu y gallai datblygwyr eu hosgoi wrth adeiladu ysgolion, ysbytai neu ystadau tai newydd.
鈥淩ydym yn gwybod bod clefyd y gwair yn costio cannoedd o filiynau o bunnoedd mewn dyddiau i ffwrdd o鈥檙 gwaith ac iselder ac nid yw鈥檔 gymorth i fyfyrwyr sy鈥檔 sefyll arholiadau ym mis Mehefin, ychwaith.鈥�
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mehefin 2020