91¾«Æ·ºÚÁϳԹÏ

Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Rhieni
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Rhieni
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon

Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn rhoi’r golau gwyrdd i brosiect partneriaeth am Longau Tanfor yr Almaen yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf i gyd-fynd â Blwyddyn y Môr Cymru, 2018

Delwedd ddiweddar o longddrylliad y DAMAO a suddwyd gan y llong danfor U-91 ar 28 Ebrill 1918.Delwedd ddiweddar o longddrylliad y DAMAO a suddwyd gan y llong danfor U-91 ar 28 Ebrill 1918.Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi cyhoeddi ei bod yn rhoi grant o £409,700 ar gyfer prosiect partneriaeth y Comisiwn Brenhinol: Coffáu’r Rhyfel Anghofiedig yn erbyn Llongau Tanfor yr Almaen ar hyd Arfordir Cymru, 1914-18. Yn ystod y ddwy flynedd nesaf, diolch i’r arian a godir drwy’r Loteri Genedlaethol, fe fyddwn ni’n defnyddio’r technegau delweddu diweddaraf i ddatgelu llongddrylliadau tanddwr o’r Rhyfel Mawr ac yn rhoi cyfle i gymunedau ar hyd arfordir Cymru adrodd storïau nas clywyd o’r blaen am y Rhyfel Mawr ar y Môr.

Meddai Richard Bellamy, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru: ‘Prosiect diddorol dros ben yw hwn sy’n ymdrin ag agwedd ar hanes Cymru nad yw llawer o bobl yn gwybod amdani. Ond diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, fe fydd y prosiect yn cyfuno’r dechnoleg ddiweddaraf â threftadaeth y Rhyfel Byd Cyntaf i ddarganfod rhan bwysig o orffennol Cymru sydd wedi cael ei hanghofio i raddau helaeth.’

Defnyddir arolygon geoffisegol morol i gasglu data cydraniad-uchel am nifer o longddrylliadau, ac i gynhyrchu ffilmiau fideo o ecoleg a bioamrywiaeth safleoedd y llongddrylliadau dan sylw. Bydd y gwaith yn cael ei wneud gan y ym Mhrifysgol Bangor a chynhelir Dyddiau Gweithgaredd Cymunedol ar thema’r Rhyfel Mawr yng Nghanolfan Forol Cymru, Porthaethwy. Drwy fenter Seasearch y Gymdeithas Cadwraeth Forol fe fyddwn ni’n casglu gwybodaeth ecolegol o’r llongddrylliadau. Fel rhan o’r prosiect, bydd y Gymdeithas Archaeoleg Forwrol yn darparu hyfforddiant mewn archaeoleg danddwr i ddeifwyr chwaraeon ar ddau safle yng ngogledd a gorllewin Cymru. Hefyd bydd rhwydwaith o amgueddfeydd yn ymgymryd â gweithgareddau yn ymwneud â’r Rhyfel Mawr ar y Môr yn ystod Blwyddyn y Môr Cymru, 2018.

Mae gwyddonwyr o Brifysgol Bangor (a fu’n arolygu arfordir Cymru fel rhan o’r prosiect , a arweinir gan y Brifysgol mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe ac a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop) hefyd yn gwneud arolygon o nifer o longddrylliadau ychwanegol ar hyd arfordir Cymru. Bydd data o’r arolygon hyn a’r gwaith sy’n deillio o’r prosiect o gryn fudd i gwmnïau egni adnewyddadwy morol gan y byddant yn dangos beth all ddigwydd pan osodir adeiladweithiau artiffisial yn yr un lleoliadau neu leoliadau cyffelyb ar wely’r môr.

Mae’r llun uchod a dynnwyd yn ystod y prosiect SEACAMS2 yn dangos delwedd ddiweddar o longddrylliad y DAMAO a suddwyd gan y llong danfor U-91 ar 28 Ebrill 1918. Adeiladwyd y llong ym 1911 i Gwmni Agerlongau’r Almaen-Awstralia, a’i henw gwreiddiol oedd y BRISBANE. Pan oedd y cwmni yn ei anterth ym 1914, roedd yn bumed cwmni llongau mwyaf yr Almaen. Cipiwyd y BRISBANE mewn porthladd ym Mhortiwgal ar ddechrau’r rhyfel a chafodd ei chymryd drosodd gan gwmni o eiddo’r wladwriaeth a’i hailenwi’n SS DAMAO.

Meddai Dr Michael Roberts, Rheolwr Ymchwil a Datblygu SEACAMS2: ‘Gan fod y gwaith yma mor unigryw, mae pawb sydd ynghlwm wrth yr arolygon, gan gynnwys criw’r llong ymchwil Prince Madog, ymchwilwyr a thechnegwyr, wedi mwynhau’n fawr yr arolygon rhagchwilio a wnaed hyd yma. Mae’r data rydyn ni’n ei gasglu yn amhrisiadwy i amrywiaeth eang o astudiaethau amgylcheddol sy’n gysylltiedig â’r sector egni morol ac yn helpu i gynyddu ein dealltwriaeth, yn fwy cyffredinol, o brosesau morol ar hyd arfordir Cymru.’

Meddai Mark Beattie-Edwards, Prif Weithredwr y Gymdeithas Archaeoleg Forwrol: ‘Mae’n dda gennym gyhoeddi y byddwn yn cynnal ysgol faes danddwr yng Nghymru y flwyddyn nesaf yn ystod Blwyddyn y Môr, gan weithio gyda Chlwb Tanddwr Caer yn arbennig i archwilio llongddrylliad y CARTEGENA oddi ar Ynys Môn. Rydyn ni hefyd wrthi’n gwneud cynlluniau ar gyfer ysgol faes 2019 pan fyddwn yn astudio llongddrylliad y LEYSIAN. Mae’r croeso cynnes a gawsom gan bobl Abercastell yn Sir Benfro wedi gwneud cynllunio’r digwyddiad yma yn bleser pur.’

Meddai Deanna Groom, Uwch Ymchwilydd (Arforol) y Comisiwn Brenhinol: ‘Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i Gronfa Dreftadaeth y Loteri am ei chefnogaeth wrth i ni ddatblygu’r prosiect yma a hefyd i’r amgueddfeydd a grwpiau cymunedol sydd wedi dangos cymaint o ddiddordeb. Mae’r safleoedd hyn yn ingol ac atgofus. Maen nhw’n cynrychioli brwydrau bach a ymladdwyd ar y môr rhwng pobl a fyddai, mae’n siwr, heblaw am y rhyfel, wedi rhannu’r cwmnigarwch arbennig sydd i’w gael ymysg llongwyr.’

Prosiect cymunedol yw hwn a fydd yn cyflogi dau Swyddog Ymgysylltu Cymunedol i gynnal rhaglen o weithgareddau cymunedol yn amgueddfeydd môr Cymru, gan ddefnyddio Rhwydwaith Archifau Cymru. Byddant yn datblygu ‘Pecyn Offer Ymchwil Cymunedol’ a deunyddiau hyfforddi i ddysgu’r rheiny sy’n cymryd rhan yn y prosiect am gasgliadau mewn archifdai ac amgueddfeydd ac i’w cyfeirio at adnoddau ar-lein. Y deunydd a gynhyrchir gan y gweithgareddau hyn fydd sail arddangosfeydd teithiol a byddant ar gael ar wefan Casgliad y Werin Cymru yn ogystal ag ar wefan y prosiect ei hun. Bydd yr adnoddau digidol ar-lein yn cynnwys ffilmiau tanddwr a modelau 3D o’r llongddrylliadau yn ogystal ag adnoddau dysgu i ysgolion yn ymwneud â rhyfela llongau tanfor a thechnoleg canfod sain. Bydd y rheiny sy’n cymryd rhan yn elfennau cymunedol y prosiect yn cael cyfle i ddangos eu gwaith yng Nghynhadledd y Prosiect ym mis Tachwedd 2018 a Gweithdy Gwaddol y Prosiect ym mis Medi 2019 yng Nghanolfan Forol Cymru, Prifysgol Bangor, Porthaethwy.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Tachwedd 2017

Hafan

Amdanom Ni

Ysgolion Academaidd a Cholegau

  • Coleg Gwyddorau'r Amgylchedd a Pheirianneg
    • Hafan
    • Israddedigion
    • Ô±ô-°ù²¹»å»å±ð»å¾±²µ¾±´Ç²Ô
    • Diwrnodau agored
    • Fideos
    • Ymchwil
    • Newyddion
    • Polisïau'r Coleg
    • Iechyd a Diogelwch
    • Cysylltiadau
Hafan

Dilynwch Ni

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor