91¾«Æ·ºÚÁϳԹÏ

Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Rhieni
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Rhieni
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon

Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr yn arwain y DU wrth sicrhau ynni glân

Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr yw'r ardaloedd allweddol ar gyfer datblygu ymchwil a pheirianneg niwclear yn y DU, yn ôl adroddiad Archwilio a gomisiynwyd gan Lywodraeth y DU a gyhoeddwyd heddiw.

Dengys yr adroddiad nad oes gan unman arall yn Ewrop y fath arbenigedd niwclear, gyda mynediad heb ei ail i sgiliau byd-enwog ac arbenigedd arloesol mewn ymchwil a datblygu niwclear.

Mae ardal gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr, a elwir yn 'Arc Niwclear y Gogledd Orllewin' yn un o ychydig o ranbarthau yn y byd gyda diwydiant niwclear sy'n cwmpasu'r cylch bywyd llawn, a hefyd gyda'r sefydliadau a'r arbenigedd i fynd i'r afael â llawer o'r heriau a nodwyd wrth sicrhau ynni glân diogel.

Mae'r adroddiad yn dangos bod dros 20 o gyfleusterau yn darparu cefnogaeth ymchwil i weithgarwch academaidd a diwydiannol yn y rhanbarth, gan gynnwys labordai prifysgolion, y National Nuclear Users Facilities (NNUF), Labordy Niwclear Genedlaethol (NNL), cyfleusterau preifat a phartneriaethau cyhoeddus-preifat.

Ar hyn o bryd mae dros 235 o gwmnïau yn y diwydiant niwclear yn yr ardal sy'n cyfrannu dros £5biliwn i economi'r DU, ac mae gan yr ardal fynediad heb ei ail i sylfaen sgiliau byd-enwog ac arbenigedd arloesol mewn ymchwil a datblygu niwclear.

Fodd bynnag, mae gweithlu niwclear yr ardal yn heneiddio, ac mae'r Asesiad Gweithlu Niwclear yn rhagweld y gallai fod â phrinder o hyd at 40,000 o weithwyr erbyn 2036.

Er mwyn mynd i'r afael â materion y gweithlu, mae Arc Niwclear Gogledd Orllewin Gogledd Cymru yn gartref unigryw i 15 o ddarparwyr sgiliau niwclear, Addysg Uwch ac Addysg Bellach, sy'n gallu darparu hyfforddiant arbenigol ar draws yr ystod lawn o lefelau sgiliau, ac mae ganddi eisoes raglenni hyfforddiant Canolfan Doethuriaeth (CDT) sy'n gallu cefnogi datblygiad arbenigwyr yn y dyfodol.

Mae'r adroddiad yn un o 'Archwiliadau Gwyddoniaeth ac Arloesi' yr Adran Busnes, Ynni a Diwydiannol sy'n dadansoddi cryfderau rhanbarthol, ac yn nodi mecanweithiau i wireddu eu potensial.

Roedd y consortiwm a ddatblygodd yr adroddiad yn cynnwys Prifysgol Bangor, Llywodraeth Cymru, Sefydliad Niwclear Dalton (Prifysgol Manceinion) a'r Labordy Niwclear Genedlaethol yn yr achos cyntaf.

Roedd sylw’r Archwiliad ar gryfderau a galluoedd ynni niwclear sifil, yng Ngogledd Lloegr a Gogledd Cymru, gydag estyniad dwyreiniol yn Sheffield a Leeds.

Dywedodd y Fonesig Sue Ion, a roddodd y rhagair ar gyfer yr Archwiliad: "Mae'n tynnu sylw at yr asedau gwyddoniaeth ac arloesi sy'n fyd-eang yn yr ardal, gyda chyfleusterau ymchwil o'r radd flaenaf a sefydliadau rhyngwladol enwog, ac yn nodi'r prif gyfraniad economaidd y mae'r diwydiant niwclear yn ei wneud."

Gweledigaeth y consortiwm yw ei bod yn bosib ail-ffurfio’r sector niwclear i gael gostyngiad o 30% mewn cost ac amser heb gyfaddawdu diogelwch, a bod NWNA mewn safle unigryw i wneud y mwyaf o’r cyfle i’r DU.

Meddai'r Athro Sian Hope OBE o Brifysgol Bangor a fu'n arwain ar sylwadau Archwiliad Arcau Niwclear y Gogledd Orllewin: "Dyma'r unig ardal yn y DU gyda’r fath ystod eang o alluoedd, gyda phob elfen o'r cylch tanwydd niwclear sifil, gan gynnwys dadgomisiynu a glanhau, cyfoethogi wraniwm, gwneuthuriad tanwydd, adweithyddion gweithredol ac mae hefyd yn faes mawr ar gyfer adweithyddion modiwlaidd bach ac uwch ‘First of a Kind’."

"Mae ganddo bresenoldeb diwydiannol pwerus yn y rhanbarth, ochr yn ochr â phrifysgolion, colegau a sefydliadau ymchwil cryf, gan weithio mewn partneriaethau agos a chynhyrchiol a all helpu i gyflawni canlyniadau sylweddol i'r economi ranbarthol a'r DU."

Mae Prifysgol Bangor wedi bod yn rhan o dri Archwiliad Gwyddoniaeth ac Arloesi sy'n adlewyrchu'r gweithgareddau ymchwil ac arloesedd o'r radd flaenaf sy'n cael eu cynnal yn y brifysgol, ac mae mewn sefyllfa dda i gyfrannu at Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU.

Y tri Archwiliad y mae Bangor yn ymwneud â nhw yw:

- Consortiwm Arc Niwclear Gogledd Orllewin Lloegr (dan arweiniad Prifysgol Bangor gyda chymorth Llywodraeth Cymru, Sefydliad Niwclear Dalton, NNL ac LEPs Gogledd Orllewin Lloegr)

- Partneriaeth Arc Arfordir Gogledd Orllewin Lloegr ar gyfer Twf Glân a Chynaliadwy (dan arweiniad Prifysgol Lancaster gyda chymorth gan LEPs Gogledd Orllewin Lloegr a Llywodraeth Cymru)

- Crwsibl De Cymru (dan arweiniad Prifysgol Abertawe)

Mae ymrwymiad y Brifysgol i ddefnyddio ei galluoedd ym maes ymchwil a datblygu i gefnogi datblygiad economaidd rhanbarthol yn cael ei arddangos ymhellach gyda’i rôl allweddol ym Margen Twf Gogledd Cymru gwerth £240m sydd i'w hariannu gan Lywodraethau Cymru a'r DU ac a arweinir gan y chwe Awdurdod Unedol yng Ngogledd Cymru.

Gellir gweld yr adroddiad llawn yn:

Dyddiad cyhoeddi: 8 Mawrth 2019

Hafan

Amdanom Ni

Ysgolion Academaidd a Cholegau

  • Coleg Gwyddorau'r Amgylchedd a Pheirianneg
    • Hafan
    • Israddedigion
    • Ô±ô-°ù²¹»å»å±ð»å¾±²µ¾±´Ç²Ô
    • Diwrnodau agored
    • Fideos
    • Ymchwil
    • Newyddion
    • Polisïau'r Coleg
    • Iechyd a Diogelwch
    • Cysylltiadau
Hafan

Dilynwch Ni

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor