Y darlledwr Miranda Krestovnikoff yn cyflwyno 'A whistle-stop tour around the coast'
Bydd Miranda Krestovnikoff yn ein tywys ar wibdaith o amgylch yr arfordir.Bydd y cyflwynydd teledu Miranda Krestovnikoff yn rhoi 鈥楢 whistle-stop tour around the coast鈥� mewn darlith gyhoeddus arbennig ym Mhrifysgol Bangor ddydd Mercher, 31 Ionawr am 5.30pm yn Ystafell Ddarlithio 5 Pontio. Mae鈥檙 ddarlith am ddim ac mae croeso i bawb, ond mae angen tocynnau. Gellir archebu'r rhain drwy neu drwy ffonio鈥檙 Swyddfa Docynnau ar 01248 382828.
Bydd Miranda, sy'n fiolegydd a deifiwr, yn mynd 芒'r gynulleidfa o amgylch arfordir y Deyrnas Unedig, gan gychwyn o'i chartref ym Mryste. Bydd yn mynd ar hyd arfordir Cymru, dros y m么r i Dde a Gogledd Iwerddon, at yr Ynysoedd Gorllewinol ac arfordir Yr Alban, i lawr arfordir dwyreiniol Lloegr ac yn 么l am adref ar hyd arfordir de a gorllewin Lloegr. Yn ystod y daith ar wib hon bydd yn s么n am rai o'r straeon gorau mae wedi eu ffilmio i'r gyfres "COAST" a "The One Show" i'r BBC a "Wreck Detectives" i Channel Four. Bydd yn rhoi golwg tu 么l i'r llenni fel petae ar sut y caiff rhai o'r eitemau eu ffilmio a beth sy'n digwydd pan mae popeth yn mynd yn draed moch!
"Mae'n bleser mawr gennym gynnal y ddarlith yma ar y cyd 芒 Phrifysgol Bangor," meddai'r Athro David Thomas, Cyfarwyddwr Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol S锚r Cymru i Ynni Carbon Isel a'r Amgylchedd (NRN-LCEE). "Mae ymchwil i bynciau'n ymwneud 芒'r m么r a'r arfordir yn ganolog i amryw o'r projectau ymchwil rydym yn eu cyllido, felly mae yna gyswllt amlwg iawn rhwng ein sefydliad a'r ddarlith."
Darlith gyhoeddus Ballard Mathews yw'r achlysur hwn, a gynhelir eleni mewn cydweithrediad 芒'r Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol i Ynni Carbon Isel a鈥檙 Amgylchedd (). I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch 芒 public.lectures@bangor.ac.uk.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Ionawr 2018