91¾«Æ·ºÚÁϳԹÏ

Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Rhieni
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • ±Ê´Ç±ô¾±²õï²¹³Ü a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • ±Ê´Ç±ô¾±²õï²¹³Ü a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Rhieni
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon

A all seicoleg helpu chwaraewyr academi pêl-droed i hybu eu potensial i'r eithaf?

Mae seicolegwyr chwaraeon o Brifysgol Bangor wedi ymuno â Chlwb Pêl-droed Manchester City i adnabod a deall y nodweddion seicolegol sy'n helpu chwaraewyr ifanc academi i gyflawni eu potensial.

Dros y pedair blynedd nesaf dilynir hynt chwaraewyr academi Manchester City fel rhan o'r project ymchwil unigryw hwn.  Mae hyfforddwyr City eisoes wedi nodi'r nodweddion seicolegol y maent hwy'n credu sy'n allweddol i ddatblygu doniau, a chaiff y rhain eu monitro a'u hasesu'n rheolaidd.  Caiff y graddau y maent yn darogan gwelliannau yn lefelau perfformiad yn ystod yr amser hwn ei gloriannu.

Dylai darganfyddiadau'r ymchwil roi gwell dealltwriaeth o ddatblygiad seicolegol a chyffredinol chwaraewyr ieuenctid elît, gan alluogi'r academi i wneud ymdrechion penodol i gyflymu datblygiad chwaraewyr. 

Mae'r cydweithio hwn rhwng Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elît Prifysgol Bangor a City Football Services  Manchester City yn tynnu ynghyd gyfoeth o ymchwil ac arbenigedd ym maes pêl-droed.  Mae gan y Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elît enw da'n fyd-eang ym maes seicoleg chwaraeon a chynhyrchu ymchwil sy'n goleuo dulliau perfformio elît; tra bo hyfforddwyr, gwyddonwyr chwaraeon, ffisiotherapyddion, dadansoddwyr perfformiad a seicolegwyr Manchester City yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau datblygiad gorau eu chwaraewyr ifanc mewn academi sydd o fri rhyngwladol. 

Mewn datganiad ar y cyd, dyma oedd gan Nichola Callow a James Hardy - Goruchwylwyr Project Ymchwil yn Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol Bangor i'w ddweud:

"Rydym yn hynod falch o dderbyn cyllid ar gyfer Cymrodoriaeth Ôl-ddoethurol ac Efrydiaeth PhD i ddatblygu'r project ymchwil hwn gyda City Football Services.  Mae'r swyddi hyn wedi cael eu llenwi gan Chin Wei Ong a Séamus Harvey.  Mae'n gyfle gwych i'r Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elît ym Mhrifysgol Bangor." 

Ychwanegodd Cherrie Daley - Arweinydd Byd-eang Perfformiad Dynol yn City Football Services:

"Mae Prifysgol Bangor yn ymfalchïo nid yn unig mewn proffil ymchwil a dysgu cryf ond hefyd mewn record gadarn o ymchwil lwyddiannus ym maes chwaraeon perfformiad uwch, ac rydym yn teimlo'n bositif iawn ynghylch effaith debygol y gwaith hwn.  Mae'r staff yn Manchester City wedi gweithio'n hynod agos â'r brifysgol i gynllunio a datblygu cydweithio cryf ac integredig yn y maes hwn. Rydym yn disgwyl gwneud defnydd llawn o'r arbenigedd academaidd sydd ar gael ym Mangor er mwyn sbarduno atebion arloesol i sialensiau cymwysiedig dros y tymhorau i ddod." 

Dyddiad cyhoeddi: 20 Hydref 2017

Hafan

Amdanom Ni

Ysgolion Academaidd a Cholegau

  • Coleg Gwyddorau Dynol
    • Hafan
    • Israddedigion
    • Ô±ô-°ù²¹»å»å±ð»å¾±²µ¾±´Ç²Ô
    • Cyrsiau rhan-amser
    • Iechyd a Diogelwch
    • ±Ê´Ç±ô¾±²õï²¹³Ü
    • Ymchwil
    • Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor