Bwyta byrbrydau a BMI yn cael eu cysylltu ag effaith ddwbl gweithgaredd yr ymennydd a hunanreolaeth
Mae ymchwil newydd wedi darganfod bod bwyta byrbrydau ac Indecs Mas y Corff (BMI) yn gysylltiedig 芒 gweithgaredd yr ymennydd a hunanreolaeth.
Darganfu鈥檙 ymchwil, a wnaed gan academyddion o Brifysgolion Caerwysg, Caerdydd, Bryste a Bangor, bod ymateb 鈥榗anolfan wobrwyo鈥� ymennydd unigolyn i luniau o fwyd yn darogan faint fyddent yn ei fwyta wedyn. Roedd yn ymddangos bod hyn yn cael mwy o effaith ar faint roeddent yn ei fwyta na鈥檜 teimladau ymwybodol o fod eisiau bwyd neu faint roedd arnynt eisiau鈥檙 bwyd.
Roedd ymateb cryf o鈥檙 ymennydd hefyd yn gysylltiedig ag ennill pwysau (BMI), ond dim ond mewn unigolion a nododd ar holiadur nad oedd ganddynt lawer o hunanreolaeth. Yn achos rhai a ddywedodd bod ganddynt lefelau uwch o hunanreolaeth, roedd ymateb cryfach o鈥檙 ymennydd i fwyd yn gysylltiedig 芒 BMI is mewn gwirionedd.
Mae鈥檙 astudiaeth hon, a gyhoeddwyd erbyn hyn yn y cyfnodolyn NeuroImage, yn ychwanegu at dystiolaeth gynyddol bod cyswllt rhannol rhwng gorfwyta ac ennill pwysau 芒 rhan o鈥檙 ymennydd sy鈥檔 gysylltiedig ag ysgogi a gwobrwyo. Enw'r rhan hon yw nucleus accumbens. Dangoswyd bod ymatebion yn y rhan hon o鈥檙 ymennydd yn darogan ennill pwysau mewn pobl o bwysau iach a phobl ordew, ond dim ond nawr mae academyddion wedi darganfod bod hyn yn annibynnol ar deimladau ymwybodol o fod eisiau bwyd, a bod hunanreolaeth hefyd yn chwarae rhan allweddol.
Yn dilyn y canlyniadau hyn, mae academyddion ym Mhrifysgolion Caerwysg a Chaerdydd wedi dechrau profi dulliau 鈥榟yfforddi鈥檙 ymennydd鈥�, er mwyn lleihau dylanwad manylion a lluniau o fwyd ar unigolion a ddywedodd nad oedd ganddynt lawer o hunanreolaeth. Mae profion tebyg yn cael eu cynnal i helpu rhai sy鈥檔 gaeth i gamblo neu alcohol.
Meddai Dr John Parkinson, Uwch Ddarlithydd yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor: 鈥淢ae gan ein hastudiaeth oblygiadau pwysig i鈥檔 dealltwriaeth o sut mae pobl yn mynd yn ordew - a sut y gallant golli pwysau hefyd - materion sy鈥檔 wirioneddol bwysig i iechyd pobl Cymru. Does neb yn dewis mynd yn ordew, a鈥檙 hyn mae鈥檙 ymchwil yma鈥檔 ei awgrymu yw nad ein meddyliau ymwybodol sy鈥檔 achosi i ni orfwyta. Yn hytrach, mae lluniau o fwydydd sy鈥檔 cynnwys llawer o fraster a siwgr yn cael mynediad uniongyrchol at systemau ysgogi yn ein hymenyddiau gan ein harwain i orfwyta. Mae i hyn oblygiadau o ran Newid Ymddygiad - maes y mae gan Brifysgol Bangor arbenigedd byd enwog ynddo - sef sut rydym yn helpu pobl i roi鈥檙 gorau i orfwyta. Yn un peth gellir ceisio lleihau nifer y delweddau mae pobl yn eu gweld sy鈥檔 eu hysgogi i fwyta - rhywbeth y mae llywodraeth Prydain yn ceisio ei wneud ar hyn o bryd gyda phecynnau sigar茅ts. Ar y llaw arall, gellwch ganolbwyntio ar yr unigolion eu hunain a鈥檜 helpu i feithrin hunanreolaeth - rhywbeth y mae ymchwilwyr ym Mangor yn gweithio arno ar hyn o bryd.鈥�
Meddai Dr Natalia Lawrence o Brifysgol Caerwysg, prif ymchwilydd ar yr ymchwil wreiddiol ac yn yr astudiaethau newydd: 鈥淢ae ein hymchwil yn awgrymu pam fod rhai unigolion yn fwy tebygol o orfwyta ac ennill pwysau nag eraill pan maent yn gweld delweddau cyson o fyrbrydau a phethau da. Mae lluniau o fwydydd, megis y rhai a ddefnyddir mewn hysbysebion, yn achosi cynnydd uniongyrchol yn 鈥榬hannau gwobrwyo鈥� ymennydd rhai unigolion ond nid ydynt yn effeithio ar eraill. Os yw鈥檙 unigolion sensitif hynny yn cael trafferth hefyd gyda hunanreolaeth, yna maent yn fwy tebygol o fod yn ordrwm. Rydym yn awr yn datblygu rhaglenni cyfrifiadurol rydym yn gobeithio fydd yn hyfforddi鈥檙 ymennydd i ymateb yn llai positif i luniau o fwydydd ac yn y blaen.鈥�
Cymerwyd rhan yn yr astudiaeth gan 25 o ferched ifanc iach gyda BMIs yn amrywio o 17 鈥� 30. Dewiswyd merched i gymryd rhan oherwydd mae ymchwil yn dangos bod merched yn ymateb yn gryfach i ddeunydd yn ymwneud 芒 bwyd. Mae newidiadau hormonaidd yn ystod y cylch mislifol yn effeithio ar yr adwaith hwn, felly roedd pob un o鈥檙 cyfranogwyr yn cymryd y bilsen atal cenhedlu monophasig gyfunol. Nid oedd y cyfranogwyr wedi bwyta am o leiaf chwe awr er mwyn sicrhau eu bod yn llwglyd adeg y sgan a chawsant bowlen yn cynnwys 150g (pedwar paced a hanner) o greision i鈥檞 bwyta ar ddiwedd yr astudiaeth; cawsant wybod bod faint o greision y gwnaethant eu bwyta wedi cael ei fesur wedyn.
Defnyddiodd yr ymchwilwyr ddulliau sganio MRI i ganfod gweithgaredd ymennydd y cyfranogwyr tra oeddent yn cael gweld lluniau o bethau t欧, a bwyd a oedd yn amrywio o ran pa mor ddeniadol ydoedd ac o ran faint o galor茂au oedd ynddo. Roedd y canlyniadau鈥檔 dangos bod ymatebion i fwyd yn rhan nucleus accumbens ymennydd y cyfranogwyr yn rhagweld faint o greision y byddent yn eu bwyta ar 么l y sgan. Fodd bynnag, nid oedd cysylltiad rhwng faint o greision y gwnaeth cyfranogwyr eu bwyta a鈥檜 tystiolaeth eu hunain pa mor llwglyd oeddent ac i ba raddau roeddent yn hoffi ac eisiau鈥檙 bwydydd.
Gofynnir i aelodau'r cyhoedd sydd eisiau mwy o wybodaeth am astudiaethau hyfforddi'r ymennydd yn y dyfodol anfon e-bost at: snackbuster@gmail.com.
Cyllidwyd yr astudiaeth hon gan Sefydliad Niwrowyddoniaeth Wybyddol Cymru.
Beth mae鈥檙 astudiaeth hon yn ei ddangos:
鈥� Mae ymatebion yr ymennydd i ddelweddau o fwyd yn amrywio鈥檔 sylweddol rhwng unigolion.
鈥� Mae ymatebion yr ymennydd i ddelweddau o fwyd yn darogan faint o greision y bydd unigolion yn eu bwyta, yn hytrach na theimladau ymwybodol o fod eisiau bwyd neu awydd i fwyta.
鈥� Dywedodd unigolion bod lefelau hunanreolaeth yn dylanwadu ar p鈥檜n a yw鈥檙 ymateb hwn o鈥檙 ymennydd yn gysylltiedig 芒 BMI uwch neu is.
Beth NAD yw鈥檙 astudiaeth hon yn ei ddangos:
鈥� Bod ymatebion yr ymennydd i ddelweddau o fwyd yn achosi gorfwyta.
鈥� Bod y cysylltiadau a nodwyd yma yn wir yn achos pawb 鈥� dim ond merched ifanc iach gafodd eu cynnwys yn yr arbrawf.
鈥� P鈥檜n a yw ymateb ein hymennydd a lefelau hunanreolaeth yn rhywbeth rydym yn ei ddysgu neu a ydyw鈥檔 reddfol.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Gorffennaf 2012