91¾«Æ·ºÚÁϳԹÏ

Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Rhieni
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • ±Ê´Ç±ô¾±²õï²¹³Ü a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • ±Ê´Ç±ô¾±²õï²¹³Ü a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Rhieni
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon

Bydd cynllun y Brifysgol yn dechrau mynd i'r afael â phrinder meddygon teulu yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru

Wrth i’r Gymru wledig wynebu diffyg enbyd yn nifer y meddygon teulu i ymateb i’r galw cynyddol gan gleifion yn sgîl poblogaeth sy’n heneiddio ac ar gynnydd, mae tair prifysgol yng Nghymru yn cynnal cynllun peilot sy’n ceisio dod â meddygon ifanc yn ôl i Ogledd a Chanolbarth Cymru. 

Bydd rhaglen CARER (Llwybr Addysg Cymunedol a Gwledig), sydd yng ngofal Prifysgol Caerdydd mewn partneriaeth â phrifysgolion Bangor ac Aberystwyth, yn rhoi cyfle i fyfyrwyr meddygol o Gaerdydd gael blwyddyn o’u haddysg mewn practisau Meddygon Teulu yng ngogledd a chanolbarth Cymru, fel eu bod yn cael profiad amhrisiadwy o gydweithio’n agos â chlinigwyr a chleifion mewn lleoliadau cymunedol.

Meddai’r Athro Siladitya Bhattacharya, Pennaeth Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd: "Mae nifer o feddygfeydd yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru yn wynebu gorfod cau oherwydd bod llai o feddygon teulu i gymryd lle’r rhai sy’n ymddeol neu’n ymadael.

"Er bod ymgyrch ‘Hyfforddi Gweithio Byw’ y Llywodraeth wedi gweld cynnydd yn nifer y meddygon iau sy’n dewis gweithio yng Nghymru, mae recriwtio’n dal yn broblem mewn ardaloedd gwledig.  Yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd rydym am hyfforddi gweithlu meddygol rhagorol i wasanaethu holl gymunedau Cymru gyfan."

Bydd y cynllun newydd, sy’n dechrau ym mis Medi 2018, yn adeiladu ar arfer presennol Prifysgol Caerdydd o sicrhau bod ei myfyrwyr meddygol yn cael cynnig lleoliadau ar draws y sir mewn amrywiaeth eang o leoliadau, ac mae’n cyd-fynd â chynlluniau Llywodraeth Cymru i ehangu addysg feddygol ar draws Cymru drwy gydweithio rhwng Prifysgolion Caerdydd a Bangor, gyda’r nod o alluogi myfyrwyr i astudio eu gradd feddygol gyfan yng Ngogledd Cymru yn y dyfodol agos.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: "Rwy’n falch iawn o weld y cynllun hwn yn darparu cyfle i’n cenhedlaeth nesaf o feddygon astudio yn y Gymru wledig, cyn cyflwyno graddau meddygol llawn amser yng Ngogledd Cymru. Bydd yr enghreifftiau rhagorol hyn o gydweithio rhwng ein prifysgolion yn gymorth mawr i ddod â meddygon teulu i ardaloedd lle bu’n draddodiadol anodd recriwtio yng Ngogledd a Gorllewin Cymru."

Bydd cynllun CARER yn cychwyn ym mis Medi 2018, gyda saith o fyfyrwyr yn cael eu lleoli yn Aberystwyth a phump ym Mangor. Byddant yn cwblhau’r cyfan o’u trydedd flwyddyn yn y lleoliadau hyn cyn dychwelyd i Gaerdydd i orffen eu graddau.

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: "Rydym wrth ein bodd i groesawu'r grŵp cyntaf o fyfyrwyr meddygaeth Prifysgol Caerdydd i astudio yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, a chynnig ein cyfleusterau astudio, cefnogaeth a hamdden rhagorol iddynt. O brofiad, rydym yn gwybod bod myfyrwyr meddygaeth yn dueddol o eisiau parhau i weithio'n agos at le maen nhw'n astudio. Drwy gynnig y cyfle hwn i astudio yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, rydym yn gobeithio y byddant hefyd yn gweld dyfodol proffesiynol yma, a thrwy wneud hyn gobeithiwn helpu i fynd i'r afael â'r diffyg gweithwyr gofal iechyd sy'n gweithio yn yr ardal."

CARER fydd y rhaglen gyntaf o'i bath yng Nghymru, ac ar y cychwyn bydd ar gael i fyfyrwyr meddygol presennol y drydedd flwyddyn yn unig. Mae cynlluniau tebyg eisoes wedi'u treialu mewn gwledydd eraill ac wedi bod yn llwyddiannus.

Dywedodd yr Athro Nichola Callow o Brifysgol Bangor: "Mae hwn yn gam rhagorol arall ymlaen ar ein taith i sefydlu gradd meddygaeth lawn ym Mangor, ac mae'n cyd-fynd â'r addysg gofal iechyd yr ydym eisoes yn ei chynnig. Bydd y fenter hon yn fuddiol dros ben i fyfyrwyr a chymunedau ledled Cymru."

Ymhlith rhai o'r elfennau cadarnhaol yr adroddwyd amdanynt o raglenni tebyg ar draws y byd mae’r ffaith bod y myfyrwyr yn caffael gwell dealltwriaeth o anghenion cleifion, sgiliau cyfathrebu mwy datblygedig a pherthynas waith gryfach gyda chleifion, cyd-fyfyrwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Dywedodd Ella Wooding, un o'r myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd sy’n cymryd rhan yng nghynllun CARER: "Rwyf wedi mwynhau’n fawr yr addysgu meddyg teulu a gefais yn fy nwy flynedd gyntaf yn yr ysgol feddygol, felly roeddwn i’n meddwl bod CARER yn swnio fel cyfle gwych! Roeddwn i hefyd yn meddwl y byddai’n gyfle da i weld mwy o Gymru a phrofi rhywbeth gwahanol i fywyd yng Nghaerdydd.â€

Dyddiad cyhoeddi: 7 Medi 2018

Hafan

Amdanom Ni

Ysgolion Academaidd a Cholegau

  • Coleg Gwyddorau Dynol
    • Hafan
    • Israddedigion
    • Ô±ô-°ù²¹»å»å±ð»å¾±²µ¾±´Ç²Ô
    • Cyrsiau rhan-amser
    • Iechyd a Diogelwch
    • ±Ê´Ç±ô¾±²õï²¹³Ü
    • Ymchwil
    • Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor