91¾«Æ·ºÚÁϳԹÏ

Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Rhieni
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • ±Ê´Ç±ô¾±²õï²¹³Ü a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • ±Ê´Ç±ô¾±²õï²¹³Ü a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Rhieni
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon

Cefnogi myfyrwyr sydd hefyd yn ofalwyr

Mae Prifysgol Bangor wedi dewis (21 Tachwedd) i lansio’r unig Bolisi Myfyrwyr sy’n Ofalwyr mewn unrhyw brifysgol yng Nghymru a thrwy hyn bwysleisio eu cefnogaeth i fyfyrwyr sydd hefyd yn ofalwyr.

Bydd gofalwyr ifanc ac eraill yn siarad am eu profiadau, a’r cymorth sydd ar gael iddynt, mewn digwyddiad ar hawliau gofalwyr yn y brifysgol. Cynhelir hwn mewn partneriaeth ag Action for Children, Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr a Chyngor Gwynedd.

Gan gydnabod yr heriau sy’n wynebu gofalwyr ifanc, gyda’r rhan fwyaf ohonynt ddim mewn addysg na gwaith llawn amser, mae’r brifysgol wedi rhoi sawl strategaeth ar waith i gefnogi a chodi dyheadau unigolion sy’n ofalwyr.

Meddai Delyth Murphy, Pennaeth Canolfan Ehangu Mynediad y Brifysgol:

“Fel prifysgol rydym wedi bod yn ymestyn y gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr sydd yn ofalwyr dros y pedair blynedd ddiwethaf. Mae cael Polisi yn pwysleisio i fyfyrwyr yr hyn sydd ar gael a hefyd mae’n ganllaw i ymarfer gorau ar gyfer ein staff.â€

“Mae gofalwyr ifainc bedair gwaith yn fwy tebygol o beidio â chwblhau eu cwrs addysg uwch na myfyrwyr eraill.  Rydym yn sylweddoli y gall jyglo astudio a gofalu fod yn anodd; dyna pam fod y Polisi’n ceisio symleiddio ein gweinyddiaeth a chefnogaeth, a gwneud pethau mor ystwyth ag sy’n bosib i’r myfyrwyr hyn.â€

Mae’r brifysgol yn cynnig bwrsariaethau o £1,000 i fyfyrwyr sydd â chyfrifoldeb gofal y tu hwnt i ofalu am blant,  gan gydnabod y gall fod yna gostau ychwanegol i’r myfyrwyr hynny. Y brifysgol hefyd yw’r unig sefydliad addysg uwch sy’n cynnal cwrs preswyl blynyddol i ofalwyr rhwng 16-25 oed, gyda’r bwriad o roi hwb i’w huchelgais a rhoi blas iddynt ar fywyd prifysgol.

Dywedodd Yr Athro Iwan Davies, Is-ganghellor y brifysgol:

“Fel prifysgol, rydym yn rhoi pwyslais mawr ar ofalu am ein myfyrwyr, ac rydym hefyd yn awyddus i  annog pobl o grwpiau sydd yn cael eu tangynrychioli i ystyried astudio am gymhwyster addysg uwch. Rwyf wrth fy modd gyda’r gwaith rydym yn ei wneud i gefnogi gofalwyr yn y modd hwn.â€

Mae Kaydee Owen o Swydd Gaerloyw yn wreiddiol yn ei thrydedd flwyddyn yn astudio Doethuriaeth mewn Seicoleg ac wedi astudio’i graddau blaenorol ym Mangor. Meddai:

“Gall mynd i brifysgol fod yn brofiad digon brawychus i rywun ond, fel gofalwr sydd wedi symud o gartref  i astudio, roeddwn i’n sicr yn wynebu heriau ychwanegol. Yn fy marn i, mae’r gwaith mae’r Ganolfan Ehangu Mynediad yn ei wneud i adeiladu rhwydwaith o ofalwyr yn gam cadarnhaol dros ben. Mae’r Ganolfan yn dda iawn am rannu gwybodaeth am wasanaethau lleol a all gefnogi gofalwyr o fewn ein hystod oedran. Mae derbyn y cyswllt a’r gefnogaeth yma ar ddechrau semester o gymorth mawr i fyfyrwyr ar ddechrau eu cyfnod mewn prifysgol. Mae’r Ganolfan Ehangu Mynediad hefyd yn cynnig digon o gyfleoedd i ofalwyr fel fi gyfarfod â’n gilydd yn y brifysgol.  Weithiau mae’n galonogol i wybod bod eraill yn teimlo'r un pryderon â chi, a bod y teimladau hynny yn hollol ‘normal’ ag yn océ.â€

 

Meddai Jan Lloyd-Nicholson o Gricieth, sydd yn ei thrydedd flwyddyn yn astudio Seicoleg:

 

“Mae’n ofnadwy o anodd jyglo bywyd prifysgol ac astudio gyda chyfrifoldebau a gofynion gofalu. Mae’r Fwrsariaeth wedi bod o gymorth mawr i fy nheulu a minnau wrth i mi astudio ym Mhrifysgol Bangor. Mae’n fonws ychwanegol sydd yn cael ei werthfawrogi’n fawr.â€

 

Dywedodd Kate Cubbage, o’r Carer’s Trust:

 

“Mae Prifysgol Bangor yn darparu’r gofal mwyaf cynhwysfawr i fyfyrwyr sy’n ofalwyr o blith unrhyw brifysgol yr wyf wedi dod ar ei thraws, ac maent i’w llongyfarch.â€

 

Cynhelir y digwyddiad Hawliau Gofalwyr ddydd Iau Tachwedd 21, 9.30-12.00 yn Neuadd Reichel, Ffordd Ffriddoedd, Bangor, mewn partneriaeth gydag Action for Children, Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr a Chyngor Gwynedd

Dyddiad cyhoeddi: 21 Tachwedd 2019

Hafan

Amdanom Ni

Ysgolion Academaidd a Cholegau

  • Coleg Gwyddorau Dynol
    • Hafan
    • Israddedigion
    • Ô±ô-°ù²¹»å»å±ð»å¾±²µ¾±´Ç²Ô
    • Cyrsiau rhan-amser
    • Iechyd a Diogelwch
    • ±Ê´Ç±ô¾±²õï²¹³Ü
    • Ymchwil
    • Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor