Coroni Myfyriwr o Brifysgol Bangor yn Junior British Hill Climb Champion 2019
Chris Mann, myfyriwr sydd newydd ddechrau ei flwyddyn gyntaf yn astudio gwyddorau chwaraeon, sydd wedi ennill y teitl Junior British Hill Climb Champion 2019.
Dyma oedd gan Chris, sy鈥檔 18 oed ac yn gyn-ddisgybl o Ysgol Brynhyfryd, i鈥檞 ddweud am ei orchest ddiweddar:
"Roedd beicwyr gorau a chyflymaf gwledydd Prydain yn cystadlu yn y gystadleuaeth hynod bwysig hon. Mae ennill y gystadleuaeth iau yn gamp aruthrol i mi fel beiciwr; bydd hyn yn codi fy mhroffil yn sylweddol.
"Dwi wedi gwneud cynnydd mawr dros y flwyddyn ddiwethaf, ac mae'r ffaith fy mod i wedi gallu ymarfer yn gyson wedi cael effaith fawr ar fy nghanlyniadau. Fe wnes i ddod yn ail ym Mhencampwriaethau Treialon Amser Cymru 2019 ac yn gyntaf yn y dosbarth iau ym mhencampwriaeth beicio mynydd Cymru yn 2019, a dwi wedi gwirioni mod i bellach wedi dod yn gyntaf hefyd yn y Junior British Hill Climb Championship 2019.
"Mae astudio gwyddor chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor yn fantais enfawr i mi fel beiciwr gan ei fod yn fy ngalluogi i ddeall sut i wella fy hun fel athletwr. Mae Bangor yn lle gwych i feiciwr, mae'r mynyddoedd yn anhygoel ar gyfer ymarfer ac yn bendant yn rheswm pam yr oeddwn mewn cyflwr mor dda ar 么l ymarfer yn ystod y cyfnod o鈥檙 wythnos groeso hyd at y bencampwriaeth.
"Mae byw yma鈥檔 rhoi mwy o ysgogiad i mi ymarfer ac mae'n gwneud ymarfer yn fwy pleserus. Mae astudio ac ymarfer wedi bod yn dda ac mae fy darlithwyr a'r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer yn gadarnhaol iawn ynghylch fy anghenion ymarfer a rasio. Mae'n rhaid i mi fod yn ddisgybledig ac yn drefnus i allu cwblhau gwaith prifysgol ac ymarfer i safon uchel. Ymunais 芒 Chymdeithas Feicio Prifysgol Bangor, sy'n glwb gwych a gweithgar. Mae help ar gael bob amser ar eu tudalen Facebook ac mae ganddynt feicwyr da i fynd i ymarfer gyda nhw, a gobeithio y byddaf yn rasio gyda nhw'r flwyddyn nesaf!"
Dechreuodd Chris feicio pan oedd yn 13 oed a dywed mai ei dad a鈥檌 frawd wnaeth ei ysgogi i feicio tra oeddynt hwy鈥檔 ymarfer at yr her 鈥楥oast to Coast鈥�, sef beicio ar draws Lloegr o un arfordir i鈥檙 llall.
Cydiodd y 鈥榗lwy beicio鈥� yn Chris ar 么l ychydig sesiynau yn Marsh Tracks, Y Rhyl gyda sesiynau 鈥楪辞-搁颈诲别鈥� seiclo Prydain. Darganfu fod ganddo allu naturiol i feicio, ac aeth i mewn i'w ras gyntaf yn 14 oed gyda Chlwb Ffyrdd Wrecsam.
Dros y flwyddyn neu ddwy nesaf, cymerodd Chris ei ymarfer fwy o ddifrif, a seiclo i d卯m rasio Marsh Tracks, y prif d卯m rasio yng ngogledd Cymru i ieuenctid a seiclwyr iau. Aeth ymlaen i feicio i felodrom Manceinion, ac fe'i dewiswyd ar gyfer t卯m ieuenctid Cymru yn 16 oed.
Er ei fod wedi brwydro ag anafiadau a salwch, llwyddodd Chris i ennill teitlau mynydd Cymru a daeth yn ail yn ei ddosbarth oedran yn genedlaethol ar ddau achlysur. Ar 么l gwneud ei Lefel A, cafodd ei ddewis i rasio i d卯m Velotik Race o Fanceinion.
Targed nesaf Chris fydd y digwyddiadau rasio ar ffyrdd i feicwyr mwy profiadol, gyda'r nod o wella ei ffitrwydd er mwyn cystadlu gyda鈥檙 seiclwyr gorau a mwyaf profiadol o Brydain ac yn rhyngwladol.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2019