Esboniad ar y paradocs niwed alcohol
Mae ymchwil newydd gan broject cydweithredol sy鈥檔 cynnwys Prifysgol Bangor, Prifysgol Liverpool John Moores ac Alcohol Research UK yn esbonio pam mae pobl mewn cymunedau difreintiedig yn dioddef lefelau uwch o salwch sy'n gysylltiedig ag alcohol na phobl mewn cymunedau nad ydynt yn ddifreintiedig, er eu bod yn yfed yr un faint o alcohol 鈥� y paradocs alcohol niwed.
Canfu鈥檙 astudiaeth, a gynhaliwyd yn Lloegr ac a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn mynediad agored BMC Public Health, fod pobl sy'n yfed yn drymach ac yn byw mewn cymunedau incwm isel yn fwy tebygol o gyfuno yfed o'r fath ag ymddygiadau eraill niweidiol i iechyd na phobl mewn cymunedau mwy cefnog. Nid yn unig mae鈥檙 cyfuniadau hyn yn ychwanegu at y peryglon o yfed alcohol ond mewn gwirionedd maent yn lluosi鈥檙 risgiau o afiechyd.
Canfu'r ymchwilwyr fod pobl sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig oedd yn yfed ar lefelau sy'n gyson 芒 mwy o risgiau i iechyd - dynion: mwy na 21 uned yr wythnos, merched: mwy na 14 uned yr wythnos, - bron 11 gwaith yn fwy tebygol na phobl sy'n byw mewn ardaloedd nad ydynt yn ddifreintiedig o gyfuno yfed ag ysmygu, gormod o bwysau, diet gwael a fawr ddim ymarfer corff. Ar y cyd, mae'r ymddygiadau hyn yn lluosi鈥檙 risg o gyflyrau sy'n gysylltiedig ag alcohol.
O ran yr yfwyr hynny sydd 芒 risg uwch, canfuwyd bod gan 66.9% o'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd nad ydynt yn ddifreintiedig o leiaf un ymddygiad arall oedd yn risg i iechyd, o鈥檌 gymharu 芒 83.2% o'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig. Dywedodd Mark Bellis, un o鈥檙 ymchwilwyr o Brifysgol Bangor: 鈥淩oedd tua 9% o yfwyr risg uwch a arolygwyd mewn cymunedau tlotach hefyd yn ysmygu, dros bwysau ac yn dilyn ffyrdd afiach o fyw. Gyda'i gilydd gall y cyfuniadau hyn greu straen enfawr ar gyrff pobl, sy鈥檔 drech na鈥檜 gallu i gyfyngu ar y niwed i iechyd a achosir gan alcohol. Mewn ardaloedd cefnog roedd llai nag 1% o鈥檙 bobl oedd yn yfed ar lefel oedd yn creu risg uwch iddynt hefyd yn dweud eu bod yn dilyn y tri ymddygiad arall oedd yn peryglu iechyd.
Gwelwyd bod yfwyr oedd yn byw mewn ardaloedd difreintiedig yn fwy tebygol o yfed gwirodydd a chwrw na gwin a鈥檜 bod yn fwy tebygol o gael pyliau o yfed trwm na'r rhai oedd yn byw mewn ardaloedd nad ydynt yn ddifreintiedig.
Dywedodd Mark Bellis: 鈥淩oedd yfwyr mewn cymunedau mwy difreintiedig yn fwy tebygol o yfed eu halcohol am yr wythnos mewn llai o sesiynau yfed ond rhai trymach. Gall ymddygiad o'r fath gynyddu risg o anaf a chlefyd y galon o鈥檌 gymharu 芒 phobl sy'n yfed yr un cyfanswm o alcohol ond dros fwy o sesiynau.
Cynhaliodd yr ymchwilwyr arolwg dros y ff么n yn Lloegr rhwng mis Mai 2013 ac Ebrill 2014. Bu carfan o 6015 o oedolion 18 oed a h欧n a ddewiswyd ar hap yn rhoi gwybodaeth am eu hoedran, eu rhyw a鈥檜 hethnigrwydd, yn ogystal 芒 faint o alcohol roeddent yn ei yfed ar y pryd ac yn y gorffennol. Nodwyd bod ymatebwyr yn byw mewn ardaloedd nad oeddent yn ddifreintiedig neu ardaloedd difreintiedig ar sail IMD (Mynegai Amddifadedd Lluosog) yr ardal yr oeddent yn byw ynddi. Mae鈥檙 IMD yn cyfuno dangosyddion megis incwm, diweithdra, addysg iechyd a throseddu er mwyn darparu un mesur o amddifadedd ar gyfer ardal ddaearyddol benodol.
Archwiliwyd y rhyngweithio rhwng yfed alcohol ac ymddygiadau eraill oedd yn peryglu iechyd trwy gwestiynau am ysmygu, diet ac ymarfer corff, patrymau yfed cyfredol (sesiynau yfed a mathau o alcohol a yfwyd), a hanes yfed.
Roedd y gyfradd ymateb i'r arolwg yn 23.3%. Er bod hyn yn unol 芒'r cyfraddau ymateb nodweddiadol ar gyfer arolygon ff么n, gallai rhagfarn sy'n gysylltiedig 芒'r gyfradd ymateb isel effeithio ar ganlyniadau鈥檙 astudiaeth, felly hefyd methiant pobl i gofio wrth iddynt ymateb i gwestiynau am eu hanes yfed. Efallai y bydd angen mwy o ymchwil i edrych yn agosach at amddifadedd unigol yn ychwanegol at amddifadedd yn 么l ardal.
Hyd yn oed er na chanfuwyd unrhyw berthynas achosol rhwng amddifadedd a naill ai heriau iechyd cyfunol neu sesiynau goryfed cyfredol a hanesyddol yn yr astudiaeth hon, mae'r ymchwilwyr yn awgrymu na ddylid edrych ar y niwed sy鈥檔 dod o yfed alcohol ar ei ben. Mae angen gwell dealltwriaeth o oblygiadau'r paradocs niwed alcohol er mwyn datblygu a thargedu gwybodaeth briodol am yfed mewn gwledydd datblygedig a gwledydd sy'n datblygu. Mae alcohol yn cael ei hyrwyddo fwyfwy ar draws y byd a gall gwell dealltwriaeth o sut y mae alcohol yn effeithio ar y rhai hynny sy'n byw mewn tlodi helpu i atal datblygu hyd yn oed mwy o anghydraddoldebau iechyd cenedlaethol a byd-eang, yn 么l yr ymchwilwyr.
Dywedodd James Nicholls, o Alcohol Research UK: Mae'r ymchwil hon yn amlygu pwysigrwydd ffactorau cymdeithasol, economaidd ac ymddygiadol ehangach wrth ddeall niwed cysylltiedig ag alcohol. Mae'n awgrymu bod risg alcohol i iechyd yn llawer mwy o'i gyfuno ag ysmygu, diet gwael a lefelau isel o weithgarwch corfforol. Mae'r wybodaeth hon yn bwysig ar gyfer dewisiadau ffordd o fyw unigol, ond hefyd ar gyfer mynd i'r afael 芒'r broblem ehangach o anghydraddoldebau iechyd. Mae gwell ymwybyddiaeth o sut mae ymddygiadau iechyd ehangach yn gwaethygu niwed i iechyd sy'n gysylltiedig ag alcohol yn amhrisiadwy, ond mae mynd i'r afael 芒'r 'paradocs niwed' yn golygu hefyd dargedu'r materion strwythurol a all wneud dewisiadau iachach yn anoddach i bobl mewn cymunedau difreintiedig.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Chwefror 2016