91¾«Æ·ºÚÁϳԹÏ

Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Rhieni
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • ±Ê´Ç±ô¾±²õï²¹³Ü a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • ±Ê´Ç±ô¾±²õï²¹³Ü a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Rhieni
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon

Mae mwncïod rhesws yn ymwybodol o gyfradd eu curiad calon eu hunain, y model anifeiliol cyntaf o'i fath o fewnganfyddiad

Mae macacos rhesws yn ymwybodol o’u curiad calon eu hunain, yn ôl astudiaeth newydd gan y California National Primate Research Centre ym Mhrifysgol Davis California, a Royal Holloway, Prifysgol Llundain gyda mewnbwn gan Brifysgol Bangor. Mae'r ymchwil, a gyhoeddwyd yn , yn creu’r model anifeiliol cyntaf o’i fath o fewnganfyddiad.

Mae mewnganfyddiad yn cyfeirio at y gallu i synhwyro cyflwr mewnol eich corff, megis sylwi bod eich calon yn curo’n gyflym neu eich bod yn anadlu'n gyflym. Mae'r canfyddiadau'n darparu model pwysig ar gyfer ymchwil seiciatrig a niwroseiciatrig yn y dyfodol gan fod diffygion mewnganfyddol yn gysylltiedig â gorbryder, iselder ysbryd, a chlefyd Alzheimer. 

Mae'r astudiaeth yn rhan o gydweithrediad rhwng Eliza Bliss-Moreau, sy’n athro cysylltiol mewn seicoleg ym Mhrifysgol Davis Califfornia ac yn un o brif wyddonwyr y ganolfan ymchwil i brimatiaid a geir yno, a'r gwyddonydd Manos Tsakiris, o'r Adran Seicoleg yn y Royal Holloway, dan arweiniad y myfyriwr doethurol Joey Charbonneau ac sy’n cynnwys Lara Maister, sy’n ddarlithwraig yn yr Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol ym Mhrifysgol Bangor. 

Bu'r tîm yn monitro pedwar o fwncïod rhesws a eisteddai o flaen traciwr llygaid isgoch a ddangosai ysgogiadau a oedd yn bownsio ac yn cynhyrchu sain naill ai'n gydamserol neu'n anghydamserol (yn gyflymach ac yn arafach) gyda churiad calon y mwncïod. Mae arbrawf o'r fath yn manteisio ar y ffaith bod mwncïod a babanod dynol yn edrych am fwy o amser ar bethau sydd yn eu synnu neu sy'n annisgwyl.

Treuliodd y pedwar mwnci fwy o amser yn edrych ar yr ysgogiadau nad oedd yn cadw at rythm curiad eu calon o gymharu â’r ysgogiadau a oedd yn cadw at rythm curiad eu calon - gan awgrymu eu bod yn synhwyro bod yr ysgogiadau nad oedd yn cadw at rythm eu curiad calon yn peri syndod iddynt yn seiliedig ar rythm disgwyliedig eu curiad calon. Mae'r canlyniadau hyn yn gyson â thystiolaeth a gafwyd yn flaenorol mewn babanod dynol gan ddefnyddio dull tebyg. Mae hyn yn darparu’r dystiolaeth ymddygiadol gyntaf bod gan fwncïod rhesws allu tebyg i fodau dynol i fod yn ymwybodol o’u curiad calon eu hunain a bod ganddynt synnwyr mewnganfyddol. 

“Pam fod hyn yn bwysig? Mae mewnganfyddiad, neu hunan-fonitro eich systemau ffisiolegol eich hun, yn ymwneud â phob agwedd ar fywyd dynol,” meddai Bliss-Moreau. 

Mae’r gallu i synhwyro ein cyflwr mewnol yn gallu amlygu materion oddi fewn i’r corff sydd angen sylw. Mae diffyg ymwybyddiaeth fewnganfyddol yn gysylltiedig â llai o allu i reoleiddio emosiynau a rhagor o duedd o gael problemau iechyd meddwl megis gorbryder ac iselder.

“Mae mewnganfyddiad yn hynod bwysig ar gyfer rheoleiddio emosiynau ac iechyd meddwl mewn oedolion, ac eto ychydig iawn yr ydym yn ei wybod am sut mae'n datblygu yn ystod babandod cynnar neu dros amser yn esblygiadol,” meddai Tsakiris. “Mae’r gwaith rydyn ni’n ei gyflwyno yma yn cynrychioli’r ymgais lwyddiannus gyntaf i lenwi’r bylchau hyn.” 

Mae diffygion mewnganfyddol hefyd wedi'u cysylltu â chlefydau niwroddirywiol megis clefyd Alzheimer. 

“Bydd y model hwn yn cael ei ddefnyddio mewn astudiaethau trawsfudol yn y dyfodol i glefydau niwroddirywiol, gan gynnwys clefyd Alzheimer,” meddai Bliss-Moreau. “Os gallwn fesur mewnganfyddiad, gallwn ei olrhain fel biofarciwr ymddygiadol o ddatblygiad afiechydon.” 

Mae’r astudiaeth yn rhoi mewnwelediad i’r ffyrdd y gellir harneisio model y macacos rhesws i wella ein dealltwriaeth o weithrediad yr ymennydd a’r corff.

“Y cam nesaf yw astudio’r mecanwaith hwn gyda gwahanol gyflyrau seiciatrig a niwroseiciatrig,” meddai Tsakiris.

Mewn astudiaeth flaenorol, datblygodd Lara a’r Athro Tsakiris dasg unigryw, sef tasg ‘iBEATS’, a’u galluogodd am y tro cyntaf i ymchwilio i sensitifrwydd mewnganfyddiad mewn babanod ifanc nad ydynt yn siarad eto.

Eglurodd Lara: “Yn yr astudiaeth gyfredol, buom yn cydweithio â’r tîm ym Mhrifysgol Davis Califfornia i addasu’r dasg hon i fod yn addas i’w defnyddio mewn primatiaid nad ydynt yn ddynol. Roeddem wrth ein boddau pan ddarganfuom bod ein canfyddiadau mewn babanod 5 mis oed yn cael eu hailadrodd mewn grŵp o facacos rhesws, canfyddiad sydd â goblygiadau enfawr i’n dealltwriaeth o darddiad esblygiadol y synnwyr pwysig hwn.”

Cefnogwyd y project hwn gan Gymrodoriaeth Canghellor Prifysgol David Califfornia i EB-M. a chan Grant Cydgrynhoi'r Cyngor Ymchwil Ewropeaidd (ERC-2016-CoG-724537) fel rhan o’r Seithfed Rhaglen Fframwaith ar gyfer project INtheSELF a chyllid Sefydliad NOMIS i M.T. Mae’r California National Primate Research Center yn cael ei chefnogi gan grant NIH Office of the Director Award P51-OD011107.

 

Dyddiad cyhoeddi: 11 Ebrill 2022

Hafan

Amdanom Ni

Ysgolion Academaidd a Cholegau

  • Coleg Gwyddorau Dynol
    • Hafan
    • Israddedigion
    • Ô±ô-°ù²¹»å»å±ð»å¾±²µ¾±´Ç²Ô
    • Cyrsiau rhan-amser
    • Iechyd a Diogelwch
    • ±Ê´Ç±ô¾±²õï²¹³Ü
    • Ymchwil
    • Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor