Ymchwil ym Mhrifysgol Bangor yn ymddangos ar HORIZON
Bydd project ymchwil sy鈥檔 cael ei gynnal ym Mhrifysgol Bangor, gyda chyfraniad hanfodol aelodau cymunedau ar draws gogledd Cymru, yn derbyn sylw rhifyn nesaf prif gyfres ddogfen y BBC, Horizon ().
Mae Horizon, prif raglen gwyddoniaeth BBC 2, yn ymchwilio cyfnod newydd ym maes ymchwil i glefyd Alzheimer's sydd yn dod 芒 gobaith i filoedd o bobol o amgylch y byd sy鈥檔 cael eu heffeithio 芒鈥檙 cyflwr. Yn ogystal ag edrych ar ddatblygiadau meddygol wrth adnabod a thrin cleifion gyda dementia, mae鈥檙 rhaglen hefyd yn edrych ar y newidiadau mewn arferion byw a all atal datblygiad y clefyd.
Bu gwneuthurwyr y rhaglen ym Mangor i ffilmio astudiaeth-achos o hap-dreial sydd yn cael ei chynnal ledled y DU er mwyn cynorthwyo'r rhai hynny sydd yng nghyfnod cynnar dementia i ddatblygu strategaethau er mwyn cyflawni tasgau dydd i ddydd. Drwy hyn, daw budd deublyg, sef hwyluso鈥檜 bywydau, a hefyd ailgynnau'r rhannau o鈥檙 ymennydd sydd yn ymwneud 芒 chynllunio a threfnu.
Tra yn y gogledd bu鈥檙 rhaglen yn ffilmio therapydd y project, Sue Evans, sydd yn cael ei chyflogi i weithio ar y broject o fewn y GIG gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn gweithio gydag un o gyfranogwyr y project ar yr amcanion yr oedd ef ei hun wedi eu gosod ar ei gyfer.
Mae鈥檙 project a arweinir gan yr Athro Linda Clare (bellach ym Mhrifysgol Exeter, gynt o Ysgol Seicoleg, Prifysgol Bangor), hefyd yn cynnwys arbenigwyr o Prifysgol Bangor ac - Uned Treialon Clinigol Bangor, yn ogystal 芒鈥檙 unigolion ledled y rhanbarth sy鈥檔 cymryd rhan ac sydd yn y cyfnod cynnar o ddementia.
Bu i鈥檙 rhai a fu鈥檔 cyfrannu adnabod amrediad eang o nodau i weithio tuag atynt, o ddefnyddio ff么n symudol wrth fod allan yn siopa, at ddod o hyd i eitemau o amgylch y cartref. Wrth osod nodau oedd yn golygu rhywbeth iddynt, roeddynt yn arddangos sawl cymhelliad, gan gynnwys yr awydd i fod yn fwy annibynnol, lleihau straen, a rhoi sicrwydd i eraill. Mae鈥檙 astudiaeth, a gyllidir gan y National Institute for Health Research, yn parhau, gyda disgwyl canlyniadau鈥檙 astudiaeth ymhen blwyddyn. Dangosodd astudiaeth beilot yng Ngogledd Cymru, a gyllidwyd gan Gymdeithas Alzheimer鈥檚, bod nifer o bobol efo dementia cynnar yn medru cyflawni鈥檙 nodau gan ddefnyddio鈥檙 ymdriniaeth yma, a elwir yn 鈥榓dferiad gwybyddol鈥�.
Mae鈥檙 Unedau sy鈥檔 cyfrannu at yr ymchwil hefyd yn cyfrannu at Sefydliad Bangor dros Ymchwil Iechyd a Meddygol 芒 lansiwyd yn ddiweddar yng Ngholeg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad y Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Mai 2016