91¾«Æ·ºÚÁϳԹÏ

Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Rhieni
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Rhieni
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon

Dr Aled Llion Jones

Pennaeth Ysgol / Darllenydd mewn Llenyddiaeth Gymraeg a Chanoloesol

aled.llion@bangor.ac.uk

–

Dr Aled Llion Jones

Rhagolwg

Addysg a Chyflogaeth

Fe'm haddysgwyd ym Mhrifysgolion Leeds, Caerdydd a Harvard, ac enillais raddau ym meysydd Athroniaeth a Saesneg (BA), Cymraeg (MPhil) ac Astudiaethau Celtaidd (PhD). Rwyf wedi bod yn Ddarlithydd neu'n Athro mewn prifysgolion yng Ngwlad Pwyl (Lublin), Iwerddon (Gaillimh), UDA (Harvard) a Chymru (Bangor), ac wedi darlithio'n achlysurol neu addysgu ar ysgolion haf mewn sefydliadau ledled Ewrop a Gogledd America.

Ymchwil

Rwy'n gweithio ar draws cyfnodau a disgyblaethau, gan ddwyn athroniaeth a theori lenyddol ddiweddar i ddialog â llenyddiaeth fodern a chanoloesol Cymru ac Iwerddon. Pwysig i’r gwaith hwn hefyd ydy theori amlieithrwydd a chyfieithu.ÌýGweler yn enwedig fy monograff,Ìý¶Ù²¹°ù´Ç²µ²¹²ÔÌý(GPC 2013), a hefyd fy erthygl yn Translation Studies, 9.

Yn ddiweddar mae fy ngwaith ymchwil wedi bod yn troi o gwmpas dau brif faes, sef athroniaeth yr ugeinfed ganrif (yn enwedig ffigyrau megis Martin Heidegger, Maurice Blanchot, Martin Buber, Jacques Derrida) a llenyddiaeth Gymraeg y canol oesoedd. Digwyddiad pwysig sy'n clymu'r meysydd hyn ynghyd yw cyfieithiad Martin Buber o Bedair Cainc y Mabinogi yn 1914, ac rwyf wedi bod yn edrych ar y croes-ffrwythloni cysyniadol rhwng y chwedlau Cymraeg a'r traddodiadau dyneiddiol-Hasidig. Gweler fy erthygl ynÌýYsgrifau Beirniadol ar yr olaf.

Rwyf hefyd yn edrych yn agos ar gysyniadau o amser, cronoleg a hanesyddiaeth yn llên ganoloesol y Gymraeg a'r Wyddeleg. Mae'r brosiect hon yn archwilio nid yn unig nodweddion megis y deictig ond hefyd y ffyrdd y mae ffurfiau llenyddol a throsiadau rhethregol yn mynegi profiadau cysyniadol (ac anghysyniadol) o amser, lle, tragwyddoldeb a'r iwtopig. Gweler fy erthygl ynÌýProceedings of the Harvard Celtic Colloquium ar hyn.

Cyflwyno a Siarad Cyhoeddus

Rwyf wedi traddodi ystod o bapurau mewn cynadleddau o orllewin Romania i dde Califfornia (ac yn y rhan fwyaf o’r gwledydd rhyngddynt): siaradaf gan fwyaf ar lenyddiaeth Gymraeg a Gwyddeleg (ganoloesol a modern), ond hefyd ar athroniaeth, ac astudiaethau diwylliannol yn ehangach.

Caf fy ngwahodd yn aml i gyflwyno mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau cyhoeddus, o brifysgolion i neuaddau pentref, ac mae fy ngwaith fel athro iaith (Cymraeg, Pwyleg, Gwyddeleg) hefyd yn fodd o gysylltu â’r gymuned leol ac ehangach. Rwy'n barod iawn i drafod ar y cyfryngau darlledu: rwy'n gyfforddus yn siarad a darlithio mewn nifer o ieithoedd.

Cyfieithu Llenyddol

Rwyf wedi cyfieithu a thrafod yn gyhoeddus farddoniaeth sawl bardd Pwyleg, a hefyd wedi cael fy nghomisiynu gan Gyfnewidfa Llenyddiaeth Cymru i gyfieithu rhyddiaith o'r iaith honno. Cyhoeddais amryw gyfieithiadau o'r Wyddeleg i'r Gymraeg.

Fe'm cymhwyswyd drwy arholiad ar gyfer aelodaeth o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru (Cym-Saes; Saes-Cym).

Addysgu

Byddaf yn dysgu bob blwyddyn ar fodiwlau blwyddyn gyntaf, ail a thrydedd y gwahanol gynlluniau BA. Dysgaf sgiliau iaith a llythrennedd (Cymraeg a Gwyddeleg) yn ogystal â llenyddiaeth, hanes llenyddiaeth, ac athroniaeth. Rwy'n cyfrannu'n gyson hefyd i fodiwlau a gaiff eu cyd-addysgu, a’r rheiny’n amrywio o lenyddiaeth ganoloesol a modern cynnar i ieithyddiaeth, sosioiethyddiaeth a chynllunio ieithyddol. Fi yw sylfeinydd a chyfarwyddwr y cwrs MA 'Y Celtiaid', a byddaf yn cyfrannu at ddysgu ar gyrsiau MA eraill ar draws yr Ysgol a'r Coleg. Rwy'n hapus i drafod prosiectau PhD.

Gwybodaeth Cyswllt

Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

Prifysgol Bangor

Ffordd y Coleg

Bangor

LL57 2DG

aled.llion@bangor.ac.uk

+44 (0)1248 382243

Cymwysterau

  • PhD
    Harvard University, 2005–2011
  • MA
    Harvard University, 2005–2007
  • MPhil
    Caerdydd, 1997–2000
  • BA
    Leeds University, 1993–1996

Addysgu ac Arolygiaeth

Addysgu BA

Blwyddyn 0

  • CXC-1036 Cyflwyno Llenyddiaeth Gymraeg (Dechreuwyr)

Blwyddyn 1

  • CXC-1002 Llên y Cyfnod Modern Cynnar
  • CXC-1005 Ysgrifennu Cymraeg (trywydd ail-iaith)
  • CXC-1026 Golwg ar Lenyddiaeth (trywydd ail-iaith)

Blwyddyn 2 a 3

  • CXC-3202/2202 Athroniaeth a LlenyddiaethÌý
  • CXC-3029/2029 Chwedlau'r Oesau Canol
  • CXC 2203/3203 Blas ar yr Wyddeleg
  • CXC-3009 Traethawd EstynedigÌýÌý

Addysgu MA

Fi yw cyfarwyddwr cwrs MA 'Y Celtiaid'. Byddaf hefyd yn goruchwylio myfyrwyr MA (Cymraeg). Cyfrannaf at ddarlithoedd/seminarau sawl cwrs MA arall (e.e. Astudiaethau Arthuraidd; Cyflwyno'r Oesau Canol; Llenyddiaethau Cymru)

Goruchwylio PhD

Yn ddiweddar goruchwyliwyd gennyf y rhain:

  • bu prosiectÌýPhilip DaviesÌýyn astudiaeth gymharol o ddisgyrsiau cenedlaetholgar yng Nghymru a Gwlad y Basg tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg;
  • maeÌýAngelika RüdigerÌýyn astudio'r datblygiad o fotiffau llên gwerin Gymraeg rhwng y cyfnod canoloesol a'r modern.

Croesawaf gynigion ar gyfer prosiectau ymchwil ar amryw agweddau o lenyddiaethau'r ieithoedd Celtaidd - yn enwedig Cymraeg a Gwyddeleg, a rhai'n ymwneud â methodoleg theoretig/athronyddol.Ìý

Arholi PhD

Bûm yn arholwr mewnol i nifer o draethodau ymchwil PhD, yn Ysgol y Gymraeg a hefyd Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg, ac Ysgol Athroniaeth a Chrefydd.

Arholi Allanol

  • Newydd orffen cyfnod fel Arholwr Allanol, Prifysgol y Drindod Dewi Sant (Cynllun AUR,ÌýY Gyfadran Allanol)Ìý

Diddordebau Ymchwil

Rwy'n ymchwilio i lenyddiaethau'r ieithoedd Celtaidd yn gyffredinol (Cymraeg a Gwyddeleg yn arbennig), ac mae gennyf hefyd ddiddordeb mawr mewn Llenyddiaeth Gymharol, yn enwedig yng nghyd-destun diwylliannau llai Ewrop a'r ieithoedd Slafeg (y Bwyleg yn arbennig).

Yn fy ymchwil fy hun a'm goruchwylio mae gennyf ddiddordeb neilltuol mewn gwaith ac iddo ogwydd theoretig: mae fy ymchwil (gw. manylion cyhoeddiadau a chynadleddau) yn ymwneud â disgyrsiau sydd ar y ffin rhwng ffiloleg ac athroniaeth iaith/celf (e.e., proffwydoliaeth, amlieithrwydd, cyfieithu, barddoneg ac estheteg, ac ecofeirniadaeth).Ìý

Yn ddiweddar mae fy ngwaith ymchwil wedi bod yn troi o gwmpas dau brif faes, sef athroniaeth yr ugeinfed ganrif (yn enwedig meddylwyr megis Martin Heidegger, Maurice Blanchot, Martin Buber, Jacques Derrida, J.R. Jones) a llenyddiaeth Gymraeg y canol oesoedd (barddoniaeth a rhyddiaith). Digwyddiad pwysig sy'n clymu'r meysydd hyn ynghyd yw cyfieithiad Martin Buber o Bedair Cainc y Mabinogi yn 1914, ac rwyf wedi bod yn edrych ar y croes-ffrwythloni cysyniadol rhwng y chwedlau Cymraeg a'r traddodiadau dyneiddiol-Hasidig.

Rwyf erbyn hyn yn edrych yn benodol ar gysyniadau o amser, cronoleg a hanesyddiaeth yn llên ganoloesol y Gymraeg a'r Wyddeleg. Mae'r prosiect diweddaraf hwn yn archwilio nid yn unig Ìýagweddau megisÌýy deictig ond hefyd y ffyrdd y mae ffurfiau llenyddol a throsiadau rhethregol yn mynegi profiadau cysyniadol (ac anghysyniadol) o amser, lle, tragwyddoldeb ac iwtopia.

Rwyf wrthi hefyd yn paratoi cyflwyniad hygyrch i Athroniaeth Llenyddiaeth, i'w gyhoeddi ar ffurf llyfr. Hwn fydd y cyflwyniad cyntaf o'i fath yn y Gymraeg, ac yn trafod llên Cymru yn benodol.

Cyfleoedd Project Ôl-radd

Cysylltwch i drafod cynlluniau PhD. Mae meysydd posibl yn cynnwys Theori lenyddol yng Nghymru ac yn Gymraeg; Athroniaeth a llenyddiaeth; Llenyddiaeth Gymraeg mewn cyd-destunau cymharol; Ecofeirniadaeth, ffeministiaeth, rhywedd a syniadaethau radicalaidd eraill. Please contact me to discuss possibilities of PhD supervision. Possible fields include Literary theory in Wales and in Welsh; Philosophical approaches to Welsh literature; Welsh literature in a comparative context; Ecocriticism, feminism, gender, and other radical ideologies.

Cyhoeddiadau

2025

  • Cyhoeddwyd
    Jones, A. L., Awst 2025, Imagination and Innovation in Celtic Cultures. Fulton, H. & Henley, G. (gol.). Gwasg Prifysgol Cymru, t. 41-56 15 t.
    Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod › adolygiad gan gymheiriaid

2024

  • Wedi ei Dderbyn / Yn y wasg
    Jones, A. L., 2024, (Wedi ei Dderbyn / Yn y wasg) Festschrift.
    Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod

2023

  • Wedi ei Dderbyn / Yn y wasg
    Richards, R. & Jones, A. L. (Golygydd), 2023, (Wedi ei Dderbyn / Yn y wasg) Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. (Cyfres y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig)
    Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr › adolygiad gan gymheiriaid

2022

  • Cyhoeddwyd
    Jones, A. L., Hyd 2022, Yn: Barn.
    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Adolygiad Llyfr/Ffilm/Erthygl
  • Cyhoeddwyd
    Evans Jones, G. & Jones, A. L. (Golygydd), Medi 2022, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. 368 t. (Cyfres y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig)
    Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr › adolygiad gan gymheiriaid

2021

  • Cyhoeddwyd
    Jones, A. L., Mai 2021, Yn: O'r Pedwar Gwynt. t. 39 1 t.
    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Adolygiad Llyfr/Ffilm/Erthygl
  • Cyhoeddwyd
    Jones, A. L., 3 Meh 2021, Yn: Barn. t. 6-7 2 t.
    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl

2020

  • Cyhoeddwyd
    Rosser, S. & Jones, A. L. (Golygydd), 15 Rhag 2020, Gwasg Prifysgol Cymru. 336 t. (Cyfres y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig)
    Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr › adolygiad gan gymheiriaid
  • Cyhoeddwyd
    Jones, A. L., 10 Medi 2020, Yn: The Medieval Review.
    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Adolygiad Llyfr/Ffilm/Erthygl

2019

  • Cyhoeddwyd
    Jones, A. L., 12 Maw 2019, Proceedings of the 38th Harvard Celtic Colloquium. Andrews, C., Newton, H. & Parker, S. (gol.). 2018 gol. Cyfrol 38.
    Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod › adolygiad gan gymheiriaid

2018

  • Cyhoeddwyd
    Jones, A., 31 Gorff 2018, Yn: O'r Pedwar Gwynt. 7, t. 6-7 2 t.
    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl
  • Cyhoeddwyd
    Jones, A. (Cyfieithydd), Miguelez-Carballeira, H. (Cyfieithydd) & Costas Gonzalez, X.-H. (Golygydd), 2018, Vigo : Universidade De Vigo.
    Allbwn ymchwil: Cyfraniad arall › Cyfraniad Arall
  • Cyhoeddwyd
    Jones, A., 30 Mai 2018, Y geissaw chwedleu. Jones, A. L. & Fomin, M. (gol.). Bangor, 14 t. (Studia Celto-Slavica; Cyfrol 8).
    Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod
  • Cyhoeddwyd
    Jones, A., 2018, Yn: ɾ±²µ²õ±ð. 40
    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Adolygiad Llyfr/Ffilm/Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
  • Cyhoeddwyd
    Jones, A. (Golygydd) & Fomin, M. (Golygydd), 30 Mai 2018, Bangor: Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor. 189 t. (Studia Celto-Slavica; Cyfrol 8)
    Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr › adolygiad gan gymheiriaid

2017

  • Cyhoeddwyd
    Jones, A., 18 Awst 2017, The Encyclopedia of Medieval Literature in Britain. Fay, J. A., Futton, H. & Rector, G. (gol.). Wiley-Blackwell, Cyfrol The Encyclopedia of Medieval Literature in Britain.
    Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Cofnod mewn Gwyddoniadur/Geiriadur › adolygiad gan gymheiriaid
  • Cyhoeddwyd
    Jones, A., 18 Awst 2017, The Encyclopedia of Medieval Literature in Britain. Fay, J. A., Futton, H. & Rector, G. (gol.). Wiley-Blackwell
    Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Cofnod mewn Gwyddoniadur/Geiriadur › adolygiad gan gymheiriaid
  • Cyhoeddwyd
    Jones, A., Maw 2017, Yn: Renaissance Quarterly. 70, 1, t. 325-326 2 t.
    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Adolygiad Llyfr/Ffilm/Erthygl
  • Cyhoeddwyd
    Jones, A., 18 Awst 2017, The Encyclopedia of Medieval Literature in Britain. Fay, J. A., Futton, H. & Rector, G. (gol.). Wiley-Blackwell
    Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Cofnod mewn Gwyddoniadur/Geiriadur › adolygiad gan gymheiriaid

2016

  • Cyhoeddwyd
    Jones, A., 1 Rhag 2016, Ysgrifau Beirniadol 34. Price, A. (gol.). Gwasg Gee, t. 209-238 29 t.
    Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod › adolygiad gan gymheiriaid
  • Cyhoeddwyd
    Jones, A., 2016, Golden Epochs and Dark Ages: Perspectives on the Past. Antonowicz, A. & Niedokos, T. (gol.). Lublin: Wydawnictwo KUL, Cyfrol 14. 15 t. (Studies in Literature and Culture ).
    Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod
  • Cyhoeddwyd
    Jones, A., 1 Maw 2016, Yn: Translation Studies. 9, 2, t. 137-151 14 t.
    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
  • Cyhoeddwyd
    Jones, A., 1 Chwef 2016, Ollam: Studies in Gaelic and Related Traditions in Honor of Tomás Ó Cathasaigh . Boyd, M. (gol.). Lanham: Fairleigh Dickenson University Press, 16 t. Chapter 2
    Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod › adolygiad gan gymheiriaid

2013

  • Cyhoeddwyd
    Jones, A. L., 15 Rhag 2013, University of Wales Press.
    Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr

2012

  • Cyhoeddwyd
    Ford, P. K. & Jones, A., 2012, The Princeton Encyclopaedia of Poetry and Poetics. Greene, R. (gol.). Princeton: Princeton University Press
    Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd ›