Cipolwg cyflym o'n cyrsiau er mwyn i chi allu cymharu a dod o hyd i'r rhai sy'n addas i chi.
360 Taith Rithwir Gwyddorau Iechyd
Fideo - Astudio Nyrsio
Dyma Ameer Rana sef cyflwynydd teledu S4C yn cyflwyno'r cyrsiau Nyrsio sydd ar gael yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Bangor.
Cyfleoedd Gyrfa mewn Nyrsio
Mae datblygiadau mewn triniaethau a thechnoleg yn creu cyfleoedd gyrfa newydd i nyrsys cofrestredig sy'n darparu gwahanol wasanaethau, yn cyflawni gwahanol swyddogaethau ac yn gweithio mewn gwahanol ffyrdd. Mae llawer o wahanol agweddau ar nyrsio o fewn y pedwar maes a nifer o wahanol gyfleoedd ar gyfer datblygu gyrfa a gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau. Mae cyfleoedd gyrfa yn amrywio o weithio fel nyrs staff mewn ysbyty neu yn y gymuned, er enghraifft, i swyddi mwy arbenigol ac arweiniol fel nyrsys arbenigol neu ymgynghorol. Mae sawl math o swydd ar gael i nyrsys cofrestredig ac maent yn cynnig datblygiad a dilyniant gyrfa o nyrs staff i nyrs arbenigol, rheolwr ward, metron, arweinydd, ymchwilydd, addysgwr ac ymgynghorydd nyrsio ym mhob maes. Dewch o hyd i fwy o wybodaeth am .