Addysg o'r safon uchaf
Rydym yn cynnig y safon uchaf o addysgu mewn amgylchedd gefnogol, ac mae ein darlithwyr eisiau eich gweld yn ffynnu.
Ystod eang o gyrsiau
Bydd ein cyrsiau yn eich rhoi ar y llwybr cywir tuag at yrfa llwyddiannus.
Gallwch ddewis astudio cyrsiau ar draws y gwyddorau, celfyddydau, busnes, y gyfraith a'r dyniaethau. Rydym yn cynnig amrywiaeth o dulliau addysgu, yn cynnwys prentisiaethau gradd a graddau sylfaen a gallwch gyfuno eich cariad tuag at ddau bwnc drwy astudio cwrs cyd-anrhydedd.
Mae pob myfyriwr israddedig newydd yn gallu dewis gwneud profiad gwaith fel rhan o'u gradd. Mae hyn yn gallu amrywio o leoliad am bythefnos i hyd at flwyddyn allan rhwng Blwyddyn 1 a 2 o'ch gradd.
Nodweddion graddedigion Bangor
Mae ein myfyrwyr yn datblygu ystod eang o sgiliau, gwybodaeth, a galluoedd sy'n eu paratoi ar gyfer ystod eang o yrfaoedd. Mae'r sgiliau hyn wedi'u crynhoi yn Nodweddion Graddedigion Bangor.
Bywyd myfyrwyr Cymraeg
Mae bywyd cymdeithasol Cymraeg heb ei ail ym Mangor, gyda Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau cymdeithasol i'ch diddannu. Mae mwy o fyfyrwyr yn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mangor nag yn unrhyw un o鈥檙 prifysgolion eraill yng Nghymru felly mae'r iaith yn rhan naturiol o'ch bywyd fel myfyriwr.
Os mai astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yw eich bwriad a byw mewn cymuned wirioneddol ddwyieithog, Prifysgol Bangor yw鈥檙 lle i chi.
Eich cefnogi tra byddwch yn astudio
Rydym yn awyddus i gynnig cymaint o help 芒 phosibl i chi tra byddwch yn astudio ym Mangor. O gefnogaeth academaidd, help gyda gyrfaoedd i wasanaethau lles - mae yna bob amser rywun y gallwch chi droi ato yma.
Cyfleusterau Dysgu ac Addysgu
Yn ogystal 芒'n hardaloedd dysgu, ystafelloedd TG, labordai a llyfrgelloedd, mae gennym hefyd ardd fotaneg, amgueddfa a llong ymchwil ein hunain. 聽