Pam Astudio Coedwigaeth?
Mae coedwigoedd yn hanfodol i'r ecosystem fyd-eang ac maent yn gorchuddio 30% o arwynebedd tir y byd. Mae coedwigaeth yn ymwneud 芒 deall a rheoli'r coedwigoedd hynny mewn modd cynaliadwy er lles cymdeithas. Mi wnaiff astudiaethau 么l-radd eich paratoi ar gyfer her rheoli coedwigoedd a'r holl fanteision sydd iddynt, ar adeg o newid amgylcheddol byd-eang.
Mae ein dull ymarferol o ymdrin 芒 phrojectau ymchwil yn gwneud defnydd o'r lleoliad unigryw sydd gennym gyda theithiau maes sy'n cyflwyno materion ymarferol real sy'n ymwneud 芒 choedwigaeth a materion amgylcheddol cyfredol. Mae ein rhwydweithiau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol helaeth a'n rhaglenni ymchwil gweithredol yn caniat谩u inni ddarparu ymchwil o ansawdd uchel sy'n rhoi sylw i faterion cyfoes, fel mae'r adroddiad hwn gan fyfyriwr cyfnewid o Ganada yn ei ddangos.
Rydym yn gweithio'n agos gyda sefydliadau yn y Deyrnas Unedig, ac yn cyflwyno myfyrwyr iddynt. Ymhlith y rheiny mae , , , a .
Cyfleoedd Gyrfa o fewn Coedwigaeth
Mae rheoli adnoddau naturiol, a rheoli coedwigoedd, yn dod yn fwyfwy pwysig, ac o ganlyniad mae'n hysbys bod prinder sgiliau yn y proffesiwn coedwigaeth. Mae'n graddedigion yn cael gwaith yn gyflym o'r herwydd. Mae graddedigion ein cyrsiau wedi sicrhau swyddi perthnasol yn sefydliadau'r sector cyhoeddus, cyrff anllywodraethol a sefydliadau academaidd yn yr Undeb Ewropeaidd a thramor.
Edrychwch ar y sy鈥檔 trafod gyrfaoedd ym maes Coedwigaeth.