Pam Astudio Daearyddiaeth?
-
Yn y 30 uchaf yn y Deyrnas Unedig am Addysg Daearyddiaeth (Times/Sunday Times Good University Guide 2018)
Mae ein graddedigion yn hynod gyflogadwy (Times Higher Education Survey, 2019) am ein bod yn cynnig dealltwriaeth ddaearyddol eang, integreiddiol i'n myfyrwyr ac mae鈥檙 cymwyseddau allweddol rydym yn eu haddysgu (datrys problemau, meddwl yn feirniadol a dadansoddol) yn eu gwneud yn unigryw. Mae ein cyrsiau'n gyfle i astudio amrywiaeth eang o bynciau dynol, ffisegol ac amgylcheddol, ond hefyd i gael hyfforddiant da mewn nifer o ddulliau ymchwil (maes a labordy). Bydd daearyddwyr yn meithrin sgiliau technegol ac ymarferol arbenigol yn ogystal 芒 sgiliau trosglwyddadwy a phroffesiynol.
Mae ein staff yn weithgar mewn ymchwil, a byddant yn rhannu eu brwdfrydedd a'u gwybodaeth bwnc gyda chi. Mae ein modiwlau鈥檔 adlewyrchu diddordebau staff ac mae'r pynciau hyn yn cynnwys afonydd/amgylcheddau arfordirol, ardaloedd gwledig-trefol, anghydraddoldebau cymdeithasol, geoberyglon, llywodraethiant, modelu amgylcheddol, eigioneg, gwaddodeg a chynaliadwyedd.
Mae ein t卯m mawr yn ymgymryd ag ymchwil arloesol gyda sefydliadau academaidd eraill, grwpiau anllywodraethol a chymunedau ar draws y byd. Yn ogystal, mae gan y t卯m Daearyddiaeth gysylltiadau gwych ac maent yn cymryd rhan mewn gweithgareddau i ennyn diddordeb grwpiau lleol ac ysgolion ledled y Deyrnas Unedig; rydym yn hyrwyddo gwyddoniaeth yn y gymdeithas. Rydym hefyd wedi ein lleoli yn un o'r ardaloedd prydferthaf i astudio Daearyddiaeth, gyda Pharc Cenedlaethol Eryri ar garreg y drws. Fyddai dim modd cynnig amgylchedd mwy ysgogol a bywiog i astudio Daearyddiaeth ynddo.
Cyfleoedd gyrfa mewn Daearyddiaeth
Mae gradd mewn Daearyddiaeth yn gallu arwain at ystod eang o lwybrau gyrfa a gwahanol fathau o swyddi. Mae gan ein daearyddwyr bersbectif integreiddiol ar wyddorau cymdeithas a gwyddorau naturiol, ac mae hyn yn eu gwahaniaethu oddi wrth ddisgyblaethau eraill. Mae ganddynt gyfuniad o sgiliau trosglwyddadwy sy'n eu gwneud yn hynod gyflogadwy. Aiff graddedigion ymlaen i weithio fel ymgynghorwyr amgylcheddol, cynllunwyr tref/argyfwng, athrawon, syrfewyr, swyddogion cynaliadwyedd/ailgylchu, dadansoddwyr data, neu swyddogion/cartograffwyr Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol. Byddant hefyd yn cael swyddi mewn busnes, cyllid ac adnoddau dynol, yn ogystal 芒 marchnata, cysylltiadau cyhoeddus a gwerthu. Mae鈥檙 cyflogwyr yn cynnwys y Gwasanaeth Sifil, llywodraeth leol, elusennau/cyrff anllywodraethol, asiantaethau neu ymgyngoriaethau diogelu'r amgylchedd, a chwmn茂au preifat.