91精品黑料吃瓜

Fy ngwlad:
Arthurian Scenes, charging knights, Lancelot slaying a dragon, Guinevere, Mordred, and King Arthur

Canolfan Astudiaethau Arthuraidd Blog

Ysbrydoli cyfnewid ymchwil ryngwladol mewn Astudiaethau Arthuraidd, o'r canoloesoedd i'r modern

'Lle鈥檙 Ydym yn Perthyn: Arthur ym Mhrifysgol Bangor ac mewn Chwedlau Lleol鈥

Dros y misoedd diwethaf, bu gr诺p o fyfyrwyr MA o amrywiol gyrsiau鈥檔 gweithio ar broject o'r enw 'Lle鈥檙 Ydym yn Perthyn: Arthur ym Mhrifysgol Bangor ac mewn Chwedlau Lleol', a arweiniodd at gynnal diwrnod o weithgareddau i ysgol leol ar 19 Mawrth 2025. B没m yn gweithio hefyd ar y project hwnnw fel rhan o interniaeth 么l-radd gyda'r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd. Nod y diwrnod oedd parhau ag ethos projectau blaenorol y Ganolfan. Bu鈥檙 rheini鈥檔 annog pobl ifanc ers tro byd i ddysgu am chwedlau Arthur, y cysylltiad 芒 thirwedd y Gogledd o鈥檜 cwmpas ar bob tu, a sut y gall eu helpu i feddwl amdanynt eu hunain, eu cryfderau, a鈥檜 hamcanion.

Yr ystyriaeth bwysicaf ar ddechrau'r project oedd sut mae addasu'r wybodaeth i'r gynulleidfa. Beth yw鈥檙 ffordd orau o gyflwyno chwedlau鈥檙 Brenin Arthur i gynulleidfa iau? Ble mae dechrau esbonio corff mor sylweddol o ddiwylliant a llenyddiaeth mewn modd addysgiadol, sydd hefyd yn hwyliog ac yn hwylus? Mae chwedlau Arthur yn faes eang a gwrthgyferbyniol, a dyna pam maent mor doreithiog i'w hastudio, ac nid yw'n hawdd ceisio eu cyflwyno'n gryno!

O鈥檙 herwydd, y dasg gyntaf oedd penderfynu pa ddelweddau, pa gymeriadau, a pha naratifau a fyddai鈥檔 derbyn y sylw pennaf. Byddai cast cyson ac adnabyddadwy o gymeriadau鈥檔 helpu gwneud y chwedl yn ddiddorol ac yn hygyrch i gr诺p ifanc y mae ganddynt lefelau amrywiol o wybodaeth am Arthur. O鈥檙 herwydd, aethom ati i gadw鈥檙 elfennau鈥檔 gyson drwyddi draw ac ailddefnyddio鈥檙 un cast bach o gymeriadau (Arthur, Myrddin, Gawain, Morgan Le Fay, ac Arglwyddes y Llyn) yn ein cwisiau, ein gweithgareddau, ein delweddau ac wrth adrodd straeon. Aethom drwy鈥檙 cronfeydd data helaeth o鈥檙 delweddau sydd yn Archifau Bangor a鈥檙 Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd, a chwilio am ddelweddau a naratifau diddorol o鈥檙 casgliadau. Mi wnaethon ni ddarganfod llyfrau plant yng nghasgliad Sir y Fflint-Harries i鈥檞 darllen i鈥檙 gr诺p, a chreu llyfryn o weithgareddau i鈥檞 defnyddio ar y diwrnod ac i fynd 芒 nhw adref gyda nhw.

Cafodd llyfryn ei lunio a oedd yn canolbwyntio ar y gweithgareddau y byddai'r myfyrwyr yn cymryd rhan ynddynt ar y diwrnod. Ymhlith y rheini roedd cwis lle gallent ddychmygu i ba un o'r cast Arthuraidd roedden nhw debycaf, map o鈥檙 Gogledd a oedd yn nodi鈥檙 safleoedd a鈥檙 digwyddiadau Arthuraidd, a chyflwyniad i herodraeth a'r r么l y mae'n ei chwarae mewn hunaniaeth. Ategom y drydedd elfen uchod trwy ymweld 芒 Llyfrgell Shankland i weld yr arfbeisiau sy鈥檔 cael eu harddangos yno. Er y bu adeiladau trawiadol y Brifysgol yn help i gyflwyno鈥檙 neges ar y diwrnod, roeddem hefyd am i鈥檙 llyfrynnau fod yn ddefnyddiol ac yn bwrpasol, a allai grynhoi鈥檙 diwrnod a chaniat谩u mwy o lwybrau dysgu ar 么l i鈥檙 digwyddiad ddod i ben. I鈥檙 perwyl hwnnw, mi ddewison ni nifer o ddelweddau a lluniau o鈥檙 casgliadau i鈥檞 cynnwys fel darluniau dros dudalen gyfan, er mwyn cynnal sgwrs yngl欧n 芒鈥檙 amrywiol ffyrdd y bu pobl yn dychmygu Arthur ac yn ei ddarlunio dros amser.

Yn bwysicaf oll, mi wnaethom ni hefyd gynnwys gweithgaredd i鈥檙 myfyrwyr ddylunio eu harfbais eu hunain yn yr ystafell ddosbarth. Gobeithiwn y bydd yn eu hannog i feddwl am y rhinweddau, y gwerthoedd a鈥檙 traddodiadau a geir ac a arddangosir yn chwedlau Arthur, ac y gallai hynny eu hysbrydoli i ystyried sut byddent yn eu diffinio eu hunain a鈥檙 pethau y maent yn eu gwerthfawrogi yn eu bywydau hwythau. Gobeithiwn y bydd y gweithgareddau鈥檔 fodd iddynt weld bod chwedlau Arthur o鈥檜 cwmpas ar bob tu heddiw a sut mae bod yn rhan ohonynt.

Roedd yn anodd cynnal cydbwysedd rhwng creu llyfrynnau llawn gwybodaeth, cadw鈥檙 cyfarwyddiadau sydd ynddynt yn glir, a sicrhau eu bod yn ddifyr ac yn ddeniadol i鈥檙 llygad. Er na welsom broblemau penodol ar y diwrnod, pe bawn yn ei wneud eto, byddwn yn meddwl am ddulliau i wella'r gymhareb rhwng geiriau a delweddau ac i ddarganfod ffyrdd o brofi a yw'r iaith yn gyson addas a hwylus i bawb. Efallai y byddai'n ddefnyddiol clywed adborth oddi wrth y staff dysgu i adolygu deunyddiau unrhyw ddigwyddiadau yn y dyfodol. Bu鈥檙 diwrnod ei hun yn hwylus iawn. Roedd gan y myfyrwyr ddiddordeb yn y tasgau yn ogystal 芒 rhannu eu sylwadau am yr wybodaeth a gyflwynwyd. Bu鈥檙 penderfyniad i wisgo dillad canoloesol yn boblogaidd iawn hefyd! Agwedd y byddwn yn ei hystyried yn nigwyddiadau鈥檙 dyfodol yw cydbwysedd o ran rhoi a derbyn gwybodaeth rhyngom ni a鈥檙 myfyrwyr. Er iddynt wrando鈥檔 astud iawn ar bob sgwrs a鈥檙 esboniadau i gyd, buasai鈥檔 braf petai mwy o gyfleoedd i glywed eu meddyliau a'u barn yngl欧n 芒鈥檙 pwnc mewn modd mwy pwrpasol a threfnus na chwestiynau a sylwadau achlysurol.

Bu gweithio ar y project yn gyfle gwych i wella fy sgiliau trefnu a chydweithio a bu鈥檔 gyfle i edrych ar fy maes pwnc o wahanol safbwyntiau. Yn sicr mae yna bethau y byddwn yn eu newid pe bawn i'n gwneud fy rhannau innau eto, ond dyna pam ei fod yn brofiad dysgu gwerthfawr. Bu鈥檔 ymarfer gwych ar gyfer fy helpu i feddwl yn hyblyg am yr heriau a bu hefyd yn llawer o hwyl!

Symposia a Chynadleddau

Bydd aelodau'r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd, yn staff a myfyrwyr 么l-radd, yn cyflwyno yn y gynhadledd hon, a gynhelir ym Mhrifysgol Birmingham ym mis Medi 2018. Mae'r Ganolfan yn noddi un o'r sesiynau, ac fe fydd aelod allanol o'r bwrdd, Dr Samantha Rayner (UCL) yn cyflwyno rhywfaint o ganfyddiadau ei hymchwil i Archifau'r Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol, sydd bellach ym meddiant y Ganolfan. 

Ddydd Iau 28 Mehefin 2018 cynhaliwyd symposiwm undydd y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd dan y teitl 'Chwedlau Arthur yng Nghymru a thu Hwnt / Arthurian Legends in Wales and Beyond' dan nawdd Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Aberystwyth. Roedd y symposiwm yn adeiladu ar bortffolio hirsefydlog o waith ymchwil cydweithredol rhyngwladol.   




 

Fe鈥檌 cynhelir bob pedair blynedd ac mae鈥檔 cynnig llwyfan ar gyfer arbenigwyr yn holl ystod Astudiaethau Celtaidd 鈥 sy鈥檔 cynnwys llenyddiaeth, ieithyddiaeth, hanes, archaeoleg, cerddoreg a hanes celf 鈥 i ddod ynghyd i rannu ffrwyth eu llafur academaidd.


 

Sesiwn Arthuraidd yn y Gyngres Ganoloesol Ryngwladol, Leeds, Gorffennaf 2019
Bydd sesiwn ar anifeiliaid a diwylliant materol mewn astudiaethau Arthuraidd yn cael ei noddi ar y cyd gan y Ganolfan a Dr Ren茅e Ward (Prifysgol Lincoln, y DU) a Dr Melissa Ridley-Elmes (Prifysgol Lindenwood, UDA)