91精品黑料吃瓜

Fy ngwlad:
Our Telethon student callers during Spring 2024 campaign

Telethon Cronfa Bangor

Diolch i bawb a roddodd i Gronfa Bangor!

Bydd myfyriwr sy鈥檔 astudio ym Mhrifysgol Bangor ar hyn o bryd yn eich ffonio cyn bo hir i roi diweddariad i chi am sefyllfa bresennol y Brifysgol, i ofyn i chi am eich atgofion o Fangor, ac i holi am eich hynt a鈥檆h helynt ers i chi raddio. Rydym wrth ein bodd yn clywed sut mae eich amser yma wedi helpu i ddylanwadu ar eich taith - a sut mae鈥檙 Brifysgol yn parhau i fod yn rhan o鈥檆h stori. 
Byddant hefyd yn eich gwahodd i gefnogi Cronfa Bangor, sy鈥檔 canolbwyntio ar gyfoethogi profiad myfyrwyr trwy fentrau sy鈥檔 darparu elfen o ychwanegolrwydd - megis ysgoloriaethau, bwrsariaethau, gweithgareddau lles a chyflogadwyedd a mwy. Mae eich cefnogaeth yn helpu i sicrhau bod myfyrwyr heddiw yn elwa o brofiad prifysgol sydd wedi鈥檌 lunio gan ofal, cyfle, a chyfranogiad parhaol cynfyfyrwyr.
Fel rhywun a astudiodd yn y brifysgol wych hon, rydym yn gobeithio y byddwch yn ein helpu i barhau 芒鈥檙 gwaith pwysig hwn. Gall eich cyfranogiad agor drysau, meithrin potensial, a grymuso cenhedlaeth newydd o fyfyrwyr Prifysgol Bangor i gyflawni eu hamcanion.

 

Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau siarad ag un o'n myfyrwyr. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, 
cysylltwch 芒 ni: 01248 388756 补濒耻尘苍颈蔼产补苍驳辞谤.补鈥媍.耻办