Y Cefndir
Wrth i鈥檙 byd ailagor yn raddol yn 2021, roedd y Deyrnas Unedig yn wynebu her ailgyflwyno cynulliadau torfol a sicrhau diogelwch y cyhoedd yn sgil pandemig COVID-19. Roedd Llywodraeth Cymru鈥檔 awyddus i ddeall sut byddai pobl yn cadw at fesurau diogelu personol yn y cyd-destunau hynny, a buont yn cynnal astudiaethau mewn dau ddigwyddiad 'torfol': G诺yl Gerddorol Tafwyl a chynhadledd fusnes yng Ngwesty'r Celtic Manor. Nod yr astudiaeth oedd arsylwi sut oedd ymddygiadau amddiffynnol fel cadw pellter cymdeithasol a gwisgo mygydau鈥檔 gweithio yn y byd go iawn a nodi鈥檙 ffactorau a oedd yn dylanwadu ar gydymffurfiaeth.Ein Dull
Aethom ati yn yr astudiaeth gyda chynllun cynhwysfawr i arsylwi a dadansoddi ymddygiad mewn modd strwythuredig:
- Diffinio'r Broblem: Y mater canolog oedd y potensial i gynulliadau mawr weithredu fel catalyddion i drosglwyddo COVID-19. Roedd deall ffactorau fel ymddygiad y gynulleidfa wrth iddynt gydymffurfio 芒鈥檙 mesurau amddiffynnol mewn amrywiol gyd-destunau yn y digwyddiadau hynny鈥檔 hanfodol i liniaru鈥檙 risg.
- Nodi Sbardunau a Rhwystrau Ymddygiadol Allweddol: Roedd yr astudiaeth yn canolbwyntio ar ddeall sut mae ffactorau fel yr amgylchedd ffisegol, normau cymdeithasol, a dilyniant amser yn ystod digwyddiad yn dylanwadu ar ymddygiadau amddiffynnol. Gwnaethom ddefnyddio'r arsylwadau hynny i nodi'r hyn a oedd yn annog neu'n rhwystro cydymffurfiaeth.
- Cynllunio Astudiaethau Arsylwi: Defnyddiwyd arsylwyr hyfforddedig i fonitro ymddygiad yn gyfrinachol trwy gydol y digwyddiadau. Cafodd yr arsylwadau eu cofnodi鈥檔 systematig mewn gwahanol gyd-destunau, megis wrth fynd i mewn ac allan, mewn mannau eistedd, ac mewn ciwiau, i greu darlun cynhwysfawr o gadw at fesurau amddiffynnol.
- Cadw Pellter Cymdeithasol: Yng Ng诺yl Gerddorol Tafwyl, roedd cydymffurfiaeth at gadw pellter cymdeithasol ar ei uchaf pan oedd y bobl yn eistedd wrth eu byrddau dynodedig, gyda 91% yn cadw鈥檙 pellter a argymhellwyd. Fodd bynnag, plymio a wnaeth cydymffurfiaeth yn y cyfnodau mynediad ac ymadael, lle'r oedd gordyrru'n fwy tebygol. Yn yr un modd, yng nghynhadledd y Celtic Manor, llwyddodd 95% o'r bobl i gadw pellter cymdeithasol yn ystod amser cinio, ond gostwng a wnaeth hynny i ddim ond 18% wrth symud rhwng ystafelloedd.
- Gwisgo Mwgwd: Roedd y defnydd o fygydau鈥檔 uchel ar y cyfan ond yn amrywio yn 么l y cyd-destun. Yn Nhafwyl, roedd cydymffurfiaeth y masgiau鈥檔 99% wrth gael mynediad ond disgynnodd hyd 50% pan oedd pobl yn ciwio i fynd i mewn ac allan o'r digwyddiad. Yn y Celtic Manor, roedd cydymffurfiaeth y masgiau鈥檔 gyson uwch, ac mae鈥檔 debygol bod hynny oherwydd y lleoliad proffesiynol a gorfodi llymach.
- Cynllun a Dyluniad y Digwyddiad: Roedd i鈥檙 amgylchedd ffisegol r么l hanfodol o ran cynnal neu darfu ar ymddygiadau amddiffynnol. Yn Nhafwyl, arweiniodd diffyg marciau llawr ac arwyddion gweladwy mewn mannau lle鈥檙 oedd nifer uchel o bobl fel ciwiau鈥檙 toiled at lai o gydymffurfiaeth o ran cadw pellter cymdeithasol. Ar y llaw arall, roedd amgylchedd strwythuredig y Celtic Manor, lle鈥檙 oedd marciau llawr a llwybrau dynodedig, wedi helpu cynnal lefelau uwch o gydymffurfiaeth, er bod rhai enghreifftiau o dor-cydymffurfiaeth yn dal i ddigwydd mewn mannau lle鈥檙 oedd llai o fonitro.
- Lefelau S诺n: Roedd lefelau s诺n uchel yn Nhafwyl yn aml yn arwain pobl i dynnu eu mygydau i gyfathrebu鈥檔 fwy effeithiol, yn enwedig mewn mannau gorlawn lle roedd cyfaddawdu hefyd o ran cadw pellter hefyd.
- Ymddygiad y Staff: Canfu'r astudiaeth fod ymddygiad y staff yn dylanwadu'n ddirfawr ar gydymffurfiaeth pobl. Yn Nhafwyl, er bod y staff yn gwisgo mygydau鈥檔 gyson (cydymffurfiaeth 100%), roedd eu cydymffurfiaeth at gadw pellter cymdeithasol yn is o lawer, yn enwedig ymhlith y gwirfoddolwyr a fu鈥檔 rhyngweithio鈥檔 glos 芒鈥檙 gynulleidfa. Mae'n debyg bod yr ymddygiad anghyson hwnnw wedi cyfrannu at fethiannau tebyg ymhlith y gynulleidfa.
- Normau Cymdeithasol: Nododd yr arsylwyr, pan oedd lleiafrif o鈥檙 gynulleidfa鈥檔 torri鈥檙 mesurau amddiffynnol, megis symud o gwmpas heb fygydau neu鈥檔 gordyrru mewn llinellau, roedd yn aml yn arwain at effaith grychdonni lle roedd eraill yn eu canlyn. Roedd hynny鈥檔 hynod o amlwg yng nghynhadledd y Celtic Manor, lle roedd un gr诺p o bobl yn torri鈥檙 canllawiau cadw pellter yn gyson, gan arwain at gydymffurfiaeth is ymhlith eraill yn yr un gr诺p.

Ffigur 1.Cyfraddau cadw at gadw pellter cymdeithasol a gwisgo gorchuddion wyneb dros gyfnod digwyddiad Tafwyl.
Trafodaeth
Yn seiliedig ar yr arsylwadau a鈥檙 dadansoddiadau manwl, datblygwyd nifer o strategaethau pwrpasol i wella cydymffurfiaeth ag ymddygiadau amddiffynnol mewn digwyddiadau yn y dyfodol:
-
-
- Arwyddion a Marciau Llawr: Gosod arwyddion clir, gweladwy a marciau llawr yn strategol yn nodwedd safonol ym mhob digwyddiad. Mae'r ciwiau amgylcheddol hynny鈥檔 helpu arwain y gynulleidfa i gadw pellter cymdeithasol ac yn eu hatgoffa o bwysigrwydd gwisgo mygydau, yn enwedig mewn mannau lle mae niferoedd uchel o bobl fel y mannau mynediad, yr ystafelloedd ymolchi a鈥檙 mannau bwyd.
- Symud Strwythuredig: Dylai trefnwyr digwyddiadau ddylunio llwybrau a llif symudiadau sy'n lleihau gordyrru. Er enghraifft, gall amseroedd mewn ac allan cyfnodol, llwybrau unffordd, a systemau ciwio wedi'u marcio'n glir helpu cadw pellter corfforol.
-
-
-
- Cysondeb mewn Ymddygiadau Amddiffynnol: Dylai holl staff y digwyddiad, yn enwedig gwirfoddolwyr, gael eu hyfforddi i fodelu ymddygiadau amddiffynnol yn gyson. Mae hynny鈥檔 cynnwys cadw pellter cymdeithasol, gwisgo mygydau'n gywir, ac ymyrryd mewn da bryd pan fo tor-cydymffurfiaeth. Dylai鈥檙 hyfforddiant bwysleisio r么l y staff fel modelau r么l, y mae eu hymddygiad yn dylanwadu'n uniongyrchol ar weithredoedd y gynulleidfa.
- Stiwardio Gweithredol: Gall defnyddio stiwardiaid sy'n monitro ac yn arwain y gynulledifa鈥檔 bwrpasol, yn enwedig mewn mannau llai strwythuredig fel ciwiau ac yn ystod cyfnodau pontio rhwng cyfnodau鈥檙 digwyddiadau, helpu cadw at fesurau amddiffynnol.
-
-
-
- Negeseuon Cyn y Digwyddiad: Gall cyfathrebu clir cyn y digwyddiad, gan gynnwys canllawiau yngl欧n ag ymddygiadau disgwyliedig a phwysigrwydd cadw at fesurau amddiffynnol, osod y naws ar gyfer cydymffurfiaeth. Byddai鈥檔 bosib atgyfnerthu hynny gyda nodiadau atgoffa yn ystod y digwyddiad, gan ddefnyddio cyhoeddiadau byw a negeseuon digidol.
- Atgyfnerthu Cadarnhaol: Gall cydnabod a chanmol cydymffurfiaeth at fesurau amddiffynnol yn ystod digwyddiad hybu ymddygiad cadarnhaol. Er enghraifft, gall cyhoeddiadau byw sy'n tynnu sylw at grwpiau sy'n cadw pellter cymdeithasol neu'n gwisgo mygydau'n gywir annog eraill i wneud yr un peth.
-
-
-
- Monitro Ymddygiad Dros Amser: Nododd yr arsylwyr fod cydymffurfiaeth gydag ymddygiadau amddiffynnol yn tueddu i leihau wrth i鈥檙 digwyddiadau fynd rhagddynt, ac mae hynny oherwydd blinder neu lai o wyliadwriaeth mae鈥檔 debyg. I wrthweithio hynny, dylai trefnwyr digwyddiadau gynllunio ar gyfer mwy o fonitro ac atgyfnerthu mesurau amddiffynnol yn ystod cyfnodau diweddarach y digwyddiad, yn enwedig pan fo鈥檙 gynulleidfa wedi ymlacio mwy.
- Rheoli Mannau Risg Uchel: Dylid rhoi sylw neilltuol i fannau lle mae tor-rheolau yn fwyaf tebygol o ddigwydd, megis y mannau mynediad a鈥檙 allanfeydd. Gall cynyddu presenoldeb y staff ac arwyddion yn y mannau hynny helpu cynnal cydymffurfiaeth at y mesurau diogelu.
-

Ffigur 2.Strategaethau sefyllfaol i gefnogi ymddygiadau COVID-19-diogel.
Camau Pellach
Er mwyn adeiladu ar ganfyddiadau鈥檙 astudiaeth, gallai ymchwil ac ymyriadau pellach ganolbwyntio ar yr isod:
- Ymyriadau Ymddygiadol mewn Cyd-destunau Gwahanol: Ehangu鈥檙 arsylwadau i wahanol fathau o ddigwyddiadau a chyd-destunau i weld sut mae ffactorau cyd-destunol penodol yn dylanwadu ar ymddygiad. Gallai hynny gynnwys digwyddiadau amrywiol eu maint, lleoliadau dan do o鈥檜 cymharu 芒鈥檙 awyr agored, a chyd-destunau diwylliannol gwahanol.
- Monitro Tymor Hir: Sefydlu monitro hirdymor o gydymffurfiaeth ag ymddygiadau amddiffynnol mewn digwyddiadau dros amser, yn enwedig wrth i agweddau'r cyhoedd tuag at COVID-19 ddatblygu ac wrth i amrywiadau newydd ddod i'r amlwg.
- Integreiddio Technoleg: Archwilio鈥檙 defnydd o dechnoleg, fel apiau symudol neu ddyfeisiau gwisgadwy, i fonitro ac annog cydymffurfiaeth gydag ymddygiadau amddiffynnol mewn amser real. Er enghraifft, gallai apiau atgoffa pobl i wisgo mygydau neu gadw pellter yn seiliedig ar agosrwydd at eraill.