Gwybodaeth am y Ganolfan
Datgloi Dealltwriaeth Ymddygiadol yng Nghanolfan Newid Ymddygiad Cymru
Mae Canolfan Newid Ymddygiad Cymru (WCBC) yn adeiladu ar enw da academaidd Prifysgol Bangor yn rhyngwladol a鈥檌 hymchwil gymhwysol ym maes seicoleg ymddygiadol a newid ymddygiad.
Newid Pwrpasol at Ddyfodol Cynaliadwy
Nid gweithgarwch academaidd yn unig yw deall newid ymddygiad a鈥檌 roi ar waith; mae'n rhan hanfodol o feithrin byw'n gynaliadwy, hyrwyddo twf economaidd, a mynd i'r afael 芒 heriau cymdeithas gyfoes. Mae Canolfan Newid Ymddygiad Cymru yn y rheng flaen, yn gweithio gyda'r Llywodraeth, gyda busnes a chyda'r byd academaidd i hyrwyddo arloesedd a chreu systemau sy'n ymateb yn effeithiol i anghenion wrth iddynt godi. Daeth y Ganolfan i fod yn sgil cyd-fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a chan Brifysgol Bangor, ac yn y lle cyntaf ymgymerwyd 芒 menter dros 2.5 mlynedd gyda chyllid craidd. Mae'r Ganolfan yn parhau i ffynnu ac yn esblygu drwy ymateb i anghenion, ac yn cyfrannu at syniadau cyfoes a blaengar.
Trwy gyfrwng projectau strategol, mae鈥檙 Ganolfan wedi llwyddo i ledaenu gwybodaeth ymarferol ac offer hanfodol i sectorau busnes, gan gyfrannu at dwf a chystadleurwydd busnesau o Gymru yn lleol ac yn rhyngwladol.
CWRDD 脗鈥橰 T脦M
Them芒u Cyfredol y Ganolfan
Y tu hwnt i'r cyfnod ariannu cychwynnol, mae'r ganolfan wedi parhau i fod yn adnodd deinamig, yn hyrwyddo cydweithrediadau ymchwil, yn cyflwyno gweithdai wedi'u targedu, ac yn gweithredu fel corff cynghori ar gymhwyso gwyddor ymddygiadol ym meysydd iechyd a lles cyhoeddus.
Astudiaethau achos
