Myfyriwr o SENRGy yn cynhyrchu adroddiad o Gynhadledd Gynllunio Cymru
Yn ddiweddar cynhyrchodd un o fyfyrwyr SENRGy, Abigail Low, adroddiad 么l-gynhadledd ar gyfer Cynhadledd Gynllunio Cymru 2012. Trefnwyd y gynhadledd gan y Royal Town Planning Institute (RTPI). Hwn yw corff amlycaf Prydain ym maes cynllunio gofodol, cynaliadwy a chynhwysol a鈥檙 sefydliad mwyaf o鈥檌 fath yn Ewrop.
Bydd Abigail yn dechrau ar flwyddyn olaf ei gradd BSc Cynllunio a Rheoli鈥檙 Amgylchedd ym Medi a bu yn y gynhadledd yng Nghaerdydd ddechrau Mehefin. Daeth y nifer uchaf erioed i鈥檙 gynhadledd, a fu鈥檔 canolbwyntio ar gynllunio鈥檔 lleol a phwysigrwydd gwneud penderfyniadau鈥檔 lleol.
Un o ganlyniadau hollbwysig unrhyw gynhadledd yw cofnod cywir o鈥檙 gweithgareddau a wnaed a鈥檙 syniadau a鈥檙 wybodaeth a gyflwynwyd i鈥檙 cynadleddwyr. Dyma lle daeth Abigail i鈥檙 amlwg gan ysgrifennu鈥檙 Adroddiad Gweithdy i鈥檙 Gweithdy ar Gludiant, sef un o nifer o weithdai a gynhaliwyd yn ystod y gynhadledd.
Mae adroddiad Abigail , 鈥楪ood transport can do great things but can it be delivered through the planning process?鈥� yn crynhoi鈥檙 safbwyntiau a gyflwynwyd gan aelodau鈥檙 gweithdy, yn arbennig ynghylch dulliau gweithredu i wella rhwydwaith cludiant gwledydd Prydain. Mater pwysig yw鈥檙 rhwystrau y gall y system gynllunio eu hwynebu wrth geisio cyflwyno system gludiant fodern.
Meddai Dr Amin Kamete, Cyfarwyddwr Cwrs y radd BSc y mae Abigail yn astudio arni, 鈥淢ae鈥檔 wych o beth gweld ein myfyrwyr yn cynnig eu hunain i ymgymryd 芒 chyfrifoldebau o鈥檙 fath. Bydd ymwneud 芒 chyrff proffesiynol a mynychu digwyddiadau fel y rhain o fudd mawr i Abigail gyda'i hastudiaethau academaidd ac wrth iddi chwilio am waith ar 么l graddio."
Gellir cael manylion am Gynhadledd Gynllunio Cymru yr RTPI yma:
Mae Adroddiad Gweithdy Abigail i鈥檞 gael yma:
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mehefin 2012