91¾«Æ·ºÚÁϳԹÏ

Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Rhieni
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Rhieni
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon

Llwyddo gyda'ch Astudiaethau

Mae'r brifysgol eisiau rhoi cyfle cyfartal i bob myfyriwr i lwyddo, ac i ddatblygu eich potensial llawn, ac mae gennym lawer o gefnogaeth i'ch helpu chi.

Mae'r brifysgol hefyd wedi ymrwymo i hybu uniondeb academaidd. Mae uniondeb academaidd yn golygu bod yn onest, yn ddibynadwy, yn weithgar, yn deg ac yn barchus wrth greu a chyflwyno gwaith, ac mae'n berthnasol i arholiadau a gwaith cwrs (gan gynnwys gwaith ysgrifenedig a llafar, traethodau hir a thraethodau ymchwil).

Mae'n bwysig mai eich gwaith eich hun yw'r gwaith rydych chi'n ei gyflwyno, eich bod yn dweud wrthym am broblemau wrth iddynt ddigwydd, a'ch bod yn dilyn rhai rheolau sylfaenol, fel y rhai ar waelod y dudalen hon.

Ond rydym ni'n gwybod y gall llwyddo gyda'ch astudiaethau fod yn anodd.

Ydych chi'n teimlo dan straen neu ddiffyg ysgogiad? Cael trafferth i orffen mewn pryd? Poeni am gyfeiriadau, neu sgiliau Cymraeg/Saesneg? Eisiau gwella, ond ddim yn siŵr sut i wneud hynny?

Ydi hi'n ymddangos yn haws i roi'r gorau iddi, neu brynu traethawd?

Arwydd Stop

Stopiwch a meddyliwch!

Pam ydych chi eisiau twyllo? Oes yna ddewis arall?

Beth os cewch eich dal?
Beth wnewch chi ei ddysgu os byddwch chi'n talu i rywun arall wneud eich gwaith?
Ydych chi hyd yn oed yn gwybod y bydd y traethawd rydych chi eisiau ei brynu yn cael y radd rydych chi ei heisiau?

Rydych chi eisoes wedi talu am eich cwrs ac am yr holl help am ddim a chyfeillgar rydym ni'n ei gynnig i chi. Beth am ddechrau yno?


Llyfrau Oren

Gofynnwch am gyngor...

Mae gan bob myfyriwr diwtor personol. Gellwch weld pwy yw eich tiwtor personol ar FyMangor. Mae ef/hi yn aelod o'r staff academaidd a all gynnig cymorth priodol, amserol a chyfrinachol i chi gyda phroblemau sy'n effeithio ar eich astudiaethau.

Mae'r Tîm Cefnogi Dysgu ac Addysgu yn helpu myfyrwyr i wella eu sgiliau cymryd nodiadau, sgiliau mewn arholiadau a chyflwyno, sgiliau cynllunio a rheoli amser, sgiliau mathemateg ac ystadegau, defnyddio tystiolaeth a chyfeirio ati'n briodol, cael hyd i ffynonellau perthnasol, saerniaeth ac arddull traethodau/adroddiadau, datblygu dadl, darllen ac ysgrifennu beirniadol, sgiliau hunan-olygu, a defnyddio sylwadau a meini prawf asesu. Gwneir hyn mewn apwyntiadau un-i-un cyfrinachol neu mewn gweithdai i grwpiau.

Mae'r Llyfrgell yn cynnig modiwlau, gweithdai ac apwyntiadau i grwpiau bychain neu unigolion, i roi cymorth gyda defnyddio adnoddau priodol, canllawiau ar dechnegau chwilio, strategaethau ar gyfer cyflawni ymchwil o ansawdd da, cyngor ar lên-ladrad a chyfeirio, defnyddio offer cyfeirio fel Mendeley, cefnogaeth gydag adolygiadau systematig, hawlfraint, a chael cyhoeddi eich gwaith.

Mae yna hefyd lawer o lawlyfrau yn y llyfrgell ac adnoddau ar-lein y gellwch eu defnyddio, yn enwedig yng nghanol y nos, pan nad oes unrhyw un o gwmpas i ofyn am help.

Help gydag aseiniadau, arholiadau, cyflwyniadau, mathemateg ac ystadegau, cymryd nodiadau, rheoli amser:

Ganol nos

Oriau swyddfa (9yb-5yp)

Help gyda phroblemau personol, gan gynnwys anableddau, cyllid, neuaddau, cyngor cyflogaeth:

Ganol nos

Oriau swyddfa (9yb-5yp)

Cap Graddio

Llwyddwch!

Dychmygwch pa mor gyffrous fydd Graddio unwaith y byddwch wedi cwblhau eich gradd ac yn gallu bod yn falch o'ch llwyddiannau. Meddyliwch pa mor dda y byddwch yn gwneud yn eich gyrfa oherwydd yr holl wybodaeth a sgiliau sydd gennych. Ni ellwch brynu'r rhain, a dim ond trwy eich gwaith yn y brifysgol y gellwch eu hennill.

Golau Traffig

Y darn difrifol…

Mae'n rhaid i chi ddarllen a dilyn y rheolau a'r rheoliadau hyn.

Trefn Uniondeb Academaidd: /regulations/procs/proc05.php.cy
Rheoliadau Cyffredinol i'r holl Fyfyrwyr: /regulations/regulations/reg13.php.cy
Y Llyfrgell: Polisi Defnydd Derbyniol: /library/about/acceptable-use.php.cy
TG: Polisi Defnydd Derbyniol: /itservices/policies/accept_use.php
Am yr holl reoliadau academaidd eraill, gweler: /regulations/index.php.cy

 

Rydym yn dymuno'r gorau i chi gyda'ch cwrs ac yn gobeithio eich gweld yn y Ganolfan Sgiliau Astudio, y Llyfrgell, neu swyddfa eich tiwtor yn fuan!

 

Hafan

Gwasanaethau

Llywodraethu a Chydymffurfio

  • Bywyd Academaidd (Cymwysterau, Uniondeb, Rheoliadau)
Hafan

Dilynwch Ni

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor