Mae pob un o'n gweithgareddau wedi'u seilio ar un nod, sef ysbrydoli meddyliau ifanc a chreu cyfleoedd ar gyfer y dyfodol.
Gweithio mewn Partneriaeth a Chydweithio
Drwy weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru, Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr, a STEM Cymru, rydym yn ymestyn ar ein cenhadaeth o ysbrydoli meddyliau ifanc a chreu cyfleoedd ar gyfer y dyfodol:
- Cynadleddau Chweched Dosbarth (Llywodraeth Cymru): Gweithdai diddorol a sesiynau rhyngweithiol sy'n dod ag addysg uwch yn fyw.
- Projectau STEM (STEM Cymru): Arddangos elfennau digidol, elfennau datrys problemau ac elfennau arloesol ein rhaglenni — gan annog mwy o ferched i ystyried busnes.
- Dyfodol Cyfrifeg (Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr): Agor llwybrau i'r proffesiwn cyfrifeg ac amlygu'r amrywiaeth eang o yrfaoedd sydd ar gael.
Gyda'i gilydd, mae'r cydweithrediadau hyn yn helpu disgyblion i feithrin hyder, codi dyheadau, a gweld addysg uwch fel llwybr at ddyfodol cyffrous.



Gweithgareddau
"Diolch i'r tîm allgymorth, mae'r 'Gweithdy Arweinyddiaeth Uchelgeisiol 'wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar y dysgwyr. Roedd y sesiynau'n ardderchog, wedi'u cyflwyno ar y lefel gywir ac yn galluogi dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau gwaith tîm, creadigrwydd, datrys problemau a chyfathrebu."
Cwrdd â'r Tîm Allgymorth ac Ymgysylltu
Cwrdd â'r Tîm Allgymorth ac Ymgysylltu
Ysgol Fusens Albert Gubay, Prifysgol Bangor, Bangor LL57 2DG
Cymryd Rhan
Ydych chi’n barod i ysbrydoli meddyliau ifanc a chreu cyfleoedd ar gyfer y dyfodol?
Byddai ein Tîm Allgymorth wrth eu boddau’n gweithio gyda'ch ysgol neu'ch coleg chi.
Gadewch i ni agor drysau, sbarduno uchelgais, a llunio’r dyfodol — gyda'n gilydd.