91¾«Æ·ºÚÁϳԹÏ

Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Rhieni
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Rhieni
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon

Rhoi sylw i ... Tadgh Crozier

Chwefror yw Mis Hanes LGBT yn y Deyrnas Unedig a'r mis yma rydym yn rhoi ein sylw i Tadgh Crozier sy'n astudio am radd BA Iechyd a Gofal Cymdeithasol

O ble rwyt ti'n dod?

Yn wreiddiol rydw i'n dod o Croydon ond dwi'n byw yn Carmel, Gwynedd erbyn hyn.  Dwi wrth fy modd yn byw yng ngogledd Cymru, mae'n lle hardd ac ni allaf feddwl am unrhyw le arall yr hoffwn fod ynddo ar hyn o bryd. Dwi hefyd yn dysgu Cymraeg, felly 'helo pawb'.

Pa agweddau ar y rhaglen BA Iechyd a Gofal Cymdeithasol wyt ti'n eu mwynhau fwyaf?

Dwi'n mwynhau'r darlithoedd gan fy mod yn dysgu rhywbeth newydd drwy'r amser, ond dwi hefyd wrth fy modd yn trafod, felly dwi'n mwynhau'r seminarau yn fawr.

Pam wnest ti ddewis yr Ysgol Gwyddorau Iechyd ym Mangor?

Dwi wedi bod yn gweithio yn y maes gofal cymdeithasol ers sawl blwyddyn. Wrth wneud y gwaith yma dwi wedi ymdrin â meysydd camddefnyddio sylweddau, iechyd rhywiol, cefnogaeth i rai gyda HIV a gwasanaethau carchar.  Mae'r radd Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynnwys yr holl feysydd hyn ac wedi fy ngalluogi i gael rhagor o wybodaeth, sy'n wych gan mai un o'm hamcanion ydi gallu gwneud newidiadau polisi yn y trydydd sector.

Pa feysydd iechyd y mae gen ti ddiddordeb ynddynt?

Mae gen i ddiddordeb mewn iechyd rhywiol a chefnogaeth i rai gyda HIV a hoffwn ganolbwyntio mwy ar wneud gwasanaethau'n fwy hygyrch i'r gymuned LGBT sy'n byw mewn ardaloedd gwledig. Mae gen i ddiddordeb hefyd mewn chemsex. Mae gen i ddiddordeb hefyd mewn cefnogi unigolion sydd yn gaeth i chemsex.

Be ydi chemsex?

Chemsex ydi defnyddio tri chyffur penodol (Crystal methamphetamine, mephedrone a GHB / GBL)  mewn cyd-destun rhywiol, yn arbennig gan ddynion hoyw.

Beth ydi apêl chemsex?

Gall defnyddio'r cyffuriau hyn eich cyffroi'n rhywiol, cynyddu eich hyder a'ch cadw'n effro am ddyddiau. Mae llawer o ddynion hoyw yn dioddef o ganlyniad i wahaniaethu yn eu herbyn ac felly mae cyffuriau yn aml yn cael eu defnyddio fel dihangfa rhag profiadau poenus neu anodd, ac i alluogi i unigolion ffurfio perthynas agosach ag eraill a phrofi mwy o ymdeimlad o berthyn. Mae yna lawer o warth a stigma o hyd yn gysylltiedig â bod yn hoyw. Mae cyswllt yn rhywbeth sy'n codi ei ben dro ar ôl tro; mae chemsex yn llawer mwy cymhleth na dim ond cael llawer o ryw diymatal.

Beth ydi'r peryglon?

Gall cynnydd mewn partneriaid rhywiol a mynd yn ddi-ofal ynghylch cael rhyw diogel arwain at gynnydd mewn heintiau a drosglwyddir yn rhywiol a HIV. Rydym hefyd yn gweld sut y gall chemsex effeithio ar iechyd meddwl rhywun, nid yn unig oherwydd defnyddio cyffuriau, ond hefyd o ganlyniad i fod yn effro am ddyddiau lawer.  Gall rhai sy'n cymryd y cyffuriau hyn hefyd gael teimladau o gywilydd, euogrwydd ac anobaith unwaith y bydd eu heffeithiau wedi dod i ben.  Mae pobl yn fwy agored i niwed dan ddylanwad cyffuriau ac efallai na fyddant yn gallu gwneud penderfyniadau rhesymegol. Gall defnyddio cyffuriau hefyd effeithio ar berthynas ag eraill ac yn y gwaith. 

Dywed ychydig mwy wrthym am y project chemsex rwyt ti'n ymwneud ag o.

Ar hyn o bryd rydw i'n ymwneud â grŵp sy'n dymuno sefydlu elusen ar gyfer dynion sy'n cael rhyw efo dynion eraill ac sydd wedi bod yn defnyddio cyffuriau, ac sydd eisiau ail-gysylltu ag eraill mewn ffordd gadarnhaol.   Yn aml, gall y daith i adael y sefyllfa honno arwain at golli cysylltiad â phobl eraill a cholli ymdeimlad o berthyn.  Nod y project fydd annog cyfeillgarwch ystyrlon, cysylltiadau cymdeithasol ac ailafael mewn gweithgareddau cymdeithasol cadarnhaol.  Mae'n ddyddiau cynnar ar hyn o bryd ond mae'r angen yna ym mhob rhan o Brydain.

Oes angen i wasanaethau iechyd ddeall mwy am hyn yma yng Ngogledd Cymru?


Ar ôl symud i Ogledd Cymru dwi'n sylweddoli mor rhwydd oedd cael gwasanaethau LGBT pan oeddwn yn byw yn Llundain.  Dwi'n credu ei bod yn bwysig codi ymwybyddiaeth ynghylch y materion y mae pobl LGBT yn eu hwynebu. Dwi ddim yn meddwl ei fod yn ddigon i 'drin pawb yr un fath'  gan fod gan bob un ohonom anghenion gwahanol a bydd anghenion unigolion LGBT yn aml yn wahanol drachefn. Mae'r cyffuriau a ddefnyddir mewn chemsex ar gael ar draws Prydain, nid dim ond yn y dinasoedd mawr yn unig. Felly mae deall y materion hyn mewn ardaloedd mwy gwledig yn dal i fod yn bwysig iawn, hyd yn oed os yw i helpu dim ond un unigolyn.

Beth wyt ti'n ei wneud i ymlacio?

Dwi'n hoffi darllen, dau o'm ffefrynnau ydi '' Power of now '' a '' Velvet Rage ''. Dwi hefyd wrth fy modd yn nofio neu wneud Ioga Poeth.

Beth ydi dy gynlluniau ar ôl gorffen y cwrs?

Hoffwn i barhau i astudio ac efallai ddod yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor. Hoffwn hefyd sefydlu rhwydwaith neu sefydliad LGBT yng Nghymru. Dwi'n frwd iawn dros wella lles unigolion LGBT a dwi'n gwybod y byddaf yn cyflawni hynny mewn rhyw fodd.

Os oes gennych ddiddordeb yn y rhaglen BA Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mangor, gellwch gysylltu â Dr Julianne Law am ragor o wybodaeth: j.law@bangor.ac.uk

Os ydych yn chwilio am wybodaeth am Iechyd Rhywiol, mae'r linc canlynol yn rhoi amlinelliad i chi o'r gwasanaethau a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar draws Gogledd Cymru:

Hafan

Amdanom Ni

Ysgolion Academaidd a Cholegau

  • Gwyddorau Meddygol ac Iechyd
    • Hafan
    • Mwy am yr Ysgol
      • Pobl
      • Bangor a’r ardal
      • Canolfannau – Bangor a Wrecsam
      • Blogiau Staff
    • Cyrsiau Israddedig
      • Pam astudio yma?
      • Fframwaith y Cwrs
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Diwrnod Agored
      • Archebu prospectws
      • Campws Wrecsam
      • Cyfleoedd Gyrfaoedd a Chyflogaeth
      • Diwrnod Agored Rhithwir
      • Ariannu eich Cwrs Iechyd
    • Cyrsiau Ôl-raddedig
      • Ein Cyrsiau
      • Pam astudio yma?
      • Cyllid
      • Diwrnod Agored
      • Myfyrwyr yn dweud eu dweud
      • Cofrestrwch eich diddordeb mewn astudiaeth ôl-raddedig
      • Ariannu eich Cwrs Iechyd
    • RPL
    • Dychwelyd i Ymarfer
    • Campws Wrecsam
    • Datblygiad Proffesiynol Parhaus
    • Ymchwil
      • Cyrsiau Ôl-Gofrestru
    • Ymgysylltu â Myfyrwyr
      • Gadewch i Ni Glywed eich Barn
      • Arolygon Myfyrwyr (NSS/PRES)
      • Arweinwyr Cyfoed
      • Cymdeithasau Myfyrwyr
      • Cynnwys y Cyhoedd
    • Ysgol Haf
    • Proffiliau Myfyrwyr
      • Fideos
    • Cyrsiau Ôl-gofrestru
    • Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
      • Athena SWAN
      • Rhoi Sylw i...
      • Rhoi Sylw i blaenorol
      • Modelau Rôl Cydraddoldeb
      • LHDT
      • Cynllun Cydraddoldeb Strategol y Brifysgol
      • Ymchwil
      • Annog dynion i’r maes nyrsio #NyrsYnGyntafPB
      • Aelodau'r Pwyllgor a'r Cylch Gorchwyl
      • Gadael astudiaeth dros dro (Amser i ffwrdd)
    • Darpariaeth Ddwyieithog
    • Ymddygiad Proffesiynol
    • Moeseg
    • Manylion Cyswllt
Hafan

Dilynwch Ni

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor