WHA Gofal Iechyd
Bydd gan lawer ohonom adegau yn ein bywyd pan fydd angen cymorth neu driniaeth feddygol arnom i鈥檔 helpu ag anawsterau iechyd, rydym yn ffodus i gael mynediad at y GIG yma yng Nghymru, ond weithiau efallai ein bod yn edrych ar gael mynediad at driniaethau a chymorth y tu allan i鈥檙 gwasanaeth.
Mae Cymdeithas Ysbytai Cymru (WHA) yn cynnig pecynnau amrywiol i unigolion i gefnogi eich iechyd a lles gyda鈥檙 ddarpariaeth i wneud y cyfraniadau misol trwy鈥檙 gyflogres, sy鈥檔 golygu ei fod yn cael ei dalu鈥檔 syth o鈥檆h cyflog bob mis.
Mae manteision megis optegol a deintyddol sy'n helpu gyda chostau gofal llygaid a thriniaeth ddeintyddol y bydd y rhan fwyaf ohonom yn eu hwynebu o bryd i'w gilydd. Yn ogystal 芒'r ddwy fantais werthfawr hyn, mae yswiriant yn erbyn cost ystod eang o driniaethau ar gyfer anhwylderau cyffredin yn ogystal 芒 budd damwain bersonol.
Mae rhagor o wybodaeth am gynigion WHA ar gael yn y llyfryn PDF yma , ynghyd 芒'r ffurflen gais a'r ffurflen didynnu cyflogres.
I gael ystod eang o wybodaeth ewch i wefan uniongyrchol WHA a chael gwybod mwy,